Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ohana

‘Ohana yw teulu. Mae teulu yn golygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl neu’n cael ei anghofio’

gan Rachael Crisp

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am y gair 'ohana' a'r ffordd y mae'n effeithio ar sut yr ydym yn ystyried beth yw ystyr teulu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nodwch:mae'r gwasanaeth hwn yn ystyried y syniad o deuluoedd, a gallai fod yn fater sensitif i rai myfyrwyr.
  • Trefnwch fod y clip fideo YouTube 'Ohana' ar gael gennych chi, a'r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am 0.15 munud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=gLd40ddnN7c
  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â'r gwasanaeth hwn (Ohana) a’r modd o ddangos y rheini hefyd.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi gysylltu'r gwasanaeth hwn gyda Sul Mabwysiadu, sy'n digwydd ar 5 Tachwedd 2017.
  • Dewisol: efallai y byddwch chi’n dymuno goleuo cannwyll yn ystod y rhan 'Amser i feddwl' yn y gwasanaeth, ac os felly fe fydd arnoch chi angen trefnu hynny.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw’n gyfarwydd â'r ffilm Lilo & Stitch. Esboniwch fod un gair penodol yn cael ei ddefnyddio yn y ffilm honno, ac mae’r gair hwnnw’n seiliedig ar ddiwylliant gwlad Hawaii. Y gair yw 'ohana' ac mae'n golygu teulu estynedig, gan gynnwys perthnasau gwaed, perthnasau a fabwysiadwyd a theulu bwriadol. Byddwn yn siarad mwy am beth mae teulu bwriadol yn ei olygu yn ddiweddarach yn y gwasanaeth.

  2. Dangoswch y fideo YouTube, ‘Ohana’.(Rhowch wybod i'r plant fod y gair 'ohana' i’w glywed yn union ar ddechrau'r clip fideo, felly mae'n hawdd ei golli. Efallai yr hoffech chi ddangos y clip ddwywaith.) 


  3. Gofynnwch i'r plant beth maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y gair 'teulu'.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  4. Dangoswch Sleid 2.

    Darllenwch y geiriau sydd i’w gweld ar y sleid: ‘Ohana means family. Family means no one gets left behind or forgotten.’ Ac yn Gymraeg – ‘Ohana yw teulu. Mae teulu yn golygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl neu’n cael ei anghofio.’

    Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ei feddwl yw ystyr y frawddeg hon o’r ffilm Lilo & Stitch.

    Esboniwch fod gan y gair 'ohana' ystyr ddyfnach hyd yn oed yng ngwlad Hawaii. Ystyr Ohana yw teulu bwriadol.

    Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ei feddwl yw ystyr 'bwriadol', wrth sôn am deulu bwriadol. Esboniwch ei fod yn golygu rhywbeth sy'n cael ei wneud yn fwriadol ac â phwrpas. Mae cael teulu bwriadol yn golygu ein bod yn dewis pwy sydd yn ein teulu. Gallai fod yn bobl sy'n gysylltiedig â ni trwy berthynas gwaed neu fe allen nhw fod yn rhai yr ydyn ni’n fwriadol yn dewis perthyn iddyn nhw.

  5. Gofynnwch i'r plant awgrymu gwahanol fathau o deuluoedd.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Ar ôl pob awgrym, dywedwch, ‘Ohana yw teulu. Mae teulu yn golygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl neu’n cael ei anghofio.’ Fe fydd hyn yn atgyfnerthu’r gwirionedd bod llawer o wahanol fathau o deuluoedd i’w cael, ond maen nhw i gyd yn ddilys ac mae pob person yn y teulu hwnnw'n bwysig. (Gwnewch yn siwr bod gwahanol fathau o deuluoedd yn cael eu trafod, gan gynnwys teuluoedd maeth, cymysg a mabwysiedig.)

  6. Mae teuluoedd yn bwysig ac mae gan bob person brofiad gwahanol o fywyd teuluol. Yn yr ysgol, fe fyddwn yn aml yn sôn amdanom i gyd fel 'teulu ysgol'. Mae hynny oherwydd ein bod ni i gyd yn perthyn ac na ddylai neb byth deimlo ei fod yn cael ei adael allan nac yn cael ei anghofio.

  7. Dewisol: Mae Cristnogion yn credu eu bod yn cael eu mabwysiadu i deulu Duw. Mae'r Beibl yn sôn am Dduw yn 'dad' a phobl eraill yn frodyr a chwiorydd i’w gilydd: ac yn deulu. Dyma enghraifft arall o deulu 'ohana'. Mae'n fath bwriadol o deulu oherwydd ein bod yn dewis bod yn rhan ohono.

Amser i feddwl

Mae nifer fawr o wahanol fathau o deuluoedd i’w cael. Mae pob teulu, waeth pa fath - bach, mawr, mabwysiedig, maeth, cymysg (llysfrawd neu lyschwaer, hanner brodyr a hanner chwiorydd), ffrindiau a neiniau a theidiau - yn bwysig ac yn arbennig, ac yn rhywbeth y dylai pawb gael eu parchu ynddyn nhw. Fe all teulu fod yn ddewisedig ac yn fwriadol.

Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno goleuo cannwyll wrth i'r myfyrwyr ystyried y geiriau canlynol.

Wrth i ni oleuo'r gannwyll hon, gadewch i ni feddwl am yr hyn yr ydym wedi'i glywed, a meddwl sut mae hyn yn effeithio arnom ni.

Ohana means family. Family means no one gets left behind or forgotten.’ Ohana yw teulu. Mae teulu yn golygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl neu’n cael ei anghofio Gadewch i ni sicrhau nad yw pobl yn ein teuluoedd ni ein hunain yn cael eu gadael ar ôl, yn cael eu hanwybyddu, neu eu hanghofio. Gadewch i ni sicrhau bod pawb yn ein teulu ysgol yn teimlo'n rhan o'r teulu ac yn cael eu caru ac yn cael gofal.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am deulu.
Diolch i ti am lawer o wahanol fathau o deuluoedd.
Diolch dy fod ti'n caru pob person ym mhob sefyllfa deuluol.
Helpa ni i weld fod pob teulu yn arbennig ac yn bwysig, yn enwedig pan mae'n wahanol i'n teulu ni ein hunain.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon