Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dylanwadu ar eraill

Fe allwn ni ddylanwadu ar bobl eraill

gan Rachael Crisp

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ddylanwadu ar eraill o’n cwmpas mewn ffordd gadarnhaol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o deganau a llyfr ysgol.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi gasglu nifer o eiriaduron fel eu bod ar gael i chi gael chwilio am ystyr y gair ‘dylanwad’ neu ‘influence’.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant feddwl am bethau sydd yn eu gwneud yn hapus neu bethau da y maen nhw'n ei weld o'u cwmpas. Os ydyn nhw'n cael anhawster i gael hyd i atebion, efallai y byddwch am gynnig enghreifftiau iddyn nhw fel y bobl sy'n eu helpu, y caredigrwydd y maen nhw'n ei weld o'u cwmpas, a harddwch y byd.

    Gwrandewch ar ymateb nifer o’r plant.

  2. Gofynnwch i'r plant i feddwl am bethau sy'n ddrwg yn y byd hwn. Os ydyn nhw'n cael anhawster i gael hyd i atebion, efallai y byddwch am gynnig enghreifftiau iddyn nhw fel yr ymladd sy'n digwydd yn y byd, heintiau, rhyfeloedd, hunanoldeb a bwlio.

    Gwrandewch ar ymateb nifer o’r plant.

  3. Eglurwch ein bod weithiau yn gallu teimlo'n fach iawn, oherwydd nad ydyn ni'n gallu newid rhai o'r pethau sy'n digwydd yn y byd, fel rhyfeloedd. Fodd bynnag, mae llawer o bethau y gallwn ni helpu i'w newid. Mae gan bob unigolyn y gallu i ddylanwadu ar bobl eraill.

  4. Esboniwch fod y geiriadur Saesneg, yrOxford English Dictionary, yn diffinio’r gair‘influence’fel hyn:‘the capacity to have an effect on the character, development or behaviour of someone or something, or the effect itself’. Mewn geiriau eraill – y gallu i gael effaith ar gymeriad, datblygiad neu ymddygiad rhywun neu rywbeth, neu'r effaith ei hun. Yma, fe allech chi wahodd un o’r plant atoch chi i chwilio am y geiriau ‘influence’ a ‘dylanwad’ mewn gwahanol eiriaduron.

  5. Eglurwch, er nad ydym yn gallu cael dylanwad ar y byd i gyd, fe allwn ni gael dylanwad ar y rhai sydd o'n hamgylch ni. Rydyn ni i gyd yn dylanwadu ar ein ffrindiau, ein teuluoedd, yr ysgol a'r gymuned. Mae gan bob un ohonom ddewisiadau ynglyn ag a yw ein dylanwad er 'gwell' neu er 'gwaeth'. 

  6. Mae Cristnogion yn credu fod y Beibl yn ein haddysgu fod Duw am i ni ddefnyddio ein galluoedd i ddylanwadu ar eraill er gwell; i annog, helpu, cefnogi a bod yn gyfeillgar tuag at eraill. Bob tro y byddwn yn siarad â rhywun, mae'n gyfle i gael dylanwad arnyn nhw er gwell.  Bob tro y byddwn yn gwneud rhywbeth, mae'n gyfle i wneud rhywbeth daionus.

    Mae gan bob un ohonom y gallu rhyfeddol i ddylanwadu ar eraill er gwell.

  7. Gofynnwch i'r plant am syniadau ynghylch y modd y gallen nhw fod yn ddylanwadau da bob dydd.

    Gwrandewch ar ymateb nifer o’r plant ac yna codwch rai o’r teganau sydd gennych chi i’w dangos.

    Gofynnwch i'r plant sut y byddai modd iddyn nhw fod yn ddylanwadau da gyda'r teganau. Gallai enghreifftiau gynnwys y ffaith bod rhannu gydag eraill yn dylanwadu ar blant eraill i wneud yr un modd, neu fod tacluso’r teganau a'u cadw ar ddiwedd y sesiwn chwarae yn annog eraill i wneud yr un peth, neu fe allai gweithred syml wneud y rhiant neu'r athro neu’r athrawes yn hapus dros ben!

    Rhowch y teganau i lawr a chodwch y llyfr ysgol.

    Gofynnwch i'r plant sut y byddai modd iddyn nhw fod yn ddylanwadau da gyda'r llyfr ysgol. Eglurwch y gall trin y llyfr yn ofalus a pharch annog eraill i weithredu yn yr un modd, a byddai hynny'n osgoi i'r llyfrau gael eu torri neu eu difrodi. Hefyd, byddai darllen gyda brawd iau, chwaer iau neu ffrind yn eu helpu nhw i ddysgu darllen neu’n dangos iddyn nhw pa mor bwysig yw dysgu darllen.

  8. Nodwch y gall ymddygiad annymunol, fel bod yn amharchus, gweiddi'n uchel, galw enwau, bod yn ddigywilydd neu fod yn angharedig, ddylanwadu ar eraill i ddilyn ein hesiampl a gweithredu yn yr un modd â ni. Mae hyn yn arbennig o wir gyda phlant iau ac yn golygu bod ein hymddygiad ni yn dylanwadu er gwaeth.

Amser i feddwl

Mae gan bob un ohonom ddewis yn y ffordd yr ydyn ni’n dylanwadu ar bobl eraill.Gallwn ddewis defnyddio ein dylanwad er gwell neu er gwaeth.Gallwn fod yn ddylanwad da neu’n ddylanwad drwg: ein dewis ni yw hynny.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am roi'r gallu i ni ddylanwadu ar bobl o'n cwmpas.
Helpa ni i sylweddoli ein bod ni'n gallu dylanwadu ar ein teuluoedd, ein ffrindiau, ein hysgol, ein cymdogion a'r bobl yn ein cymuned.
Helpa ni i ddefnyddio ein gallu i ddylanwadu ar bobl eraill mewn ffordd dda.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon