Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth yw Adfent?

gan Gordon and Ronni Lamont (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2002)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cyflwyno tymor yr Adfent, a’i archwilio.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen casgliad o galendrau Adfent, gan gynnwys, os yn bosib:

- calendr brand wedi'i anelu at blant ifanc fel calendr Tomos y Tanc, neu’r math hwnnw o galendr, sy'n cynnwys siocledi - hynny yw, un heb unrhyw arwyddocâd crefyddol o gwbl
- calendr sy’n dangos lluniau o olygfeydd traddodiadol Gwyl y Geni
- calendr sy'n darlunio thema o ddiwylliant arall. Fel arfer mae Cymorth Cristnogol yn cynhyrchu un sy'n dangos sut mae diwylliannau gwahanol yn dathlu'r tymor
- calendr wedi’i wnïo a’i lunio o ddefnydd neu galendr â brodwaith arno. Holwch neu chwiliwch o gwmpas ac efallai y byddwch chi'n gallu dod o hyd i un wedi’i wneud â llaw gartref
- cannwyll Adfent gyda 25 diwrnod wedi'u marcio arni i’w llosgi, hyn a hyn fesul diwrnod
- torch Adfent gyda phum cannwyll

Gwasanaeth

  1. Dangoswch i’r plant y casgliad o galendrau Adfent sydd gennych chi, a’r gannwyll Adfent.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Pwy sydd gan rai fel hyn gartref?
    - Beth yw pwrpas yr eitemau hyn?

  2. Trafodwch y gwahanol fathau o galendrau, gan egluro sut mae pob un yn gweithio. Gofynnwch i blant unigol agor y drysau ar y calendrau a gweld beth sydd y tu ôl. Efallai yr hoffech chi oleuo'r gannwyll Adfent. Gofynnwch i'r plant pam fod rhai calendrau â siocledi ynddyn nhw, a pham mae rhai ohonyn nhw â lluniau yn unig. Gofynnwch pa fath o galendr sy'n well gan y plant, a pham.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  3. Eglurwch fod y calendrau yn ein helpu i aros a disgwyl.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Am beth rydyn ni’n aros?
    - Beth ddigwyddodd ar y dydd Nadolig cyntaf?

  4. Gofynnwch i'r plant beth maen nhw’n ei wneud yn eu cartrefi os byddan nhw’n cael ymwelwyr arbennig. Awgrymwch ein bod yn debygol o fod yn brysur yn glanhau'r ty, ac yn gwneud ein hunain yn barod. Fe fyddwn ni’n meddwl am yr ymwelwyr, ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn cyrraedd. Dyma ystyr Adfent: cyrraedd. Mae Adfent yn amser i baratoi ein hunain, i wneud ein hunain yn barod ar gyfer rhywbeth. Mae rhai pobl yn hoffi cymryd llai i'w fwyta yn ystod yr Adfent fel eu bod yn gallu gwerthfawrogi'r bwyd a'r hwyl yn fwy pan ddaw'r Nadolig.

    Ar gyfer pwy y byddwn ni’n paratoi? Pwy ydyn ni'n disgwyl eu gweld yn cyrraedd?

  5. Gofynnwch i'r plant feddwl, mewn cyfnod tawel, am yr hyn y bydden nhw’n ei roi y tu ôl i ffenestri calendr Adfent er mwyn eu hatgoffa o'r Nadolig.

    Beth fydden nhw'n ei ddewis a fyddai’n cynrychioli'r amser arbennig hwn o'r flwyddyn?

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  6. Dewiswch bump o'r ymatebion mwyaf priodol a gofynnwch i rai plant eu cynrychioli mewn delweddau llonydd yn nhu blaen yr ystafell. Fe fydd y delweddau llonydd yn cael eu cyfleu gan nifer o blant sy'n awgrymu’r syniad yn weledol, fel mewn llun. Gall hwn fod y person a awgrymodd y syniad ar ei ben ei hun, neu gyda ffrind os oes angen mwy nag un person i gyfleu’r llun.

    Gallai rhai syniadau ar gyfer y lluniau llonydd o’r Adfent fod yn weithgareddau fel prynu anrhegion ar gyfer teulu a ffrindiau (plentyn a siopwr), goleuo cannwyll, agor drws ar y calendr Adfent, neu’r bugeiliaid yn gweld yr angylion fel a ddigwyddodd yn stori’r geni. Fodd bynnag, byddwch yn barod am syniadau mwy anarferol gan y plant hefyd.

    (Os yw'r 'calendr Adfent byw' yn llwyddiant, fe allech chi ailgyflwyno’r syniad mewn gwasanaethau sy'n arwain at y Nadolig, gyda phlant yn creu ac yn trefnu’r lluniau llonydd o flaen llaw.)

Amser i feddwl

Edrychwch eto ar gannwyll yr Adfent a meddyliwch am fod yn barod ar gyfer y Nadolig: pen-blwydd Iesu ac amser o ddathlu a hwyl.

Os yn bosibl, dangoswch y dorch Adfent i’r plant. Esboniwch fod y canhwyllau ar y tu allan yn cynrychioli pedwar dydd Sul ym mis Rhagfyr sy’n arwain at y Nadolig, ac mae'r gannwyll wen yn y canol yn cynrychioli Iesu, yr un y mae ei ben-blwydd yn cael ei ddathlu adeg y Nadolig.

Gofynnwch i'r plant feddwl am yr holl baratoadau fydd yn cael eu gwneud wrth i’r Nadolig nesáu: y bwyd, y goeden, yr anrhegion ac ati. Gofynnwch iddyn nhw ystyried sut y bydden nhw’n gallu helpu i wneud cyfnod yr Adfent yn amser da iawn i bawb yn eu cartrefi.

Gofynnwch i'r plant feddwl am yr holl bethau arbennig sy'n digwydd yn yr ysgol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Gofynnwch iddyn nhw ystyried sut y bydden nhw’n gallu helpu i wneud cyfnod yr Adfent yn amser da iawn yn yr ysgol.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon