Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwlio: Pwtyn, y ci bach bywiog

Mae bwlio’n annerbyniol

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Pwysleisio bod ymddwyn mewn ffordd sy´n gallu peri trafferth neu niwed i eraill yn annerbyniol.

Paratoad a Deunyddiau

Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno trefnu i gael y delweddau canlynol o'r creaduriaid y mae sôn amdanyn nhw yn y stori yn y 'Gwasanaeth' i’w dangos, ac os felly bydd angen i chi drefnu’r modd o’u dangos:

- ci bach, ar gael ar:https://tinyurl.com/hwod5uz
- pryf copyn, ar gael ar:http://tinyurl.com/ychpxe65
- gwrachen ludw, ar gael ar:https://tinyurl.com/ya9oykzt
- buwch fach goch gota, ar gael ar:https://tinyurl.com/y8mu34vd
- lindysyn, ar gael ar:https://tinyurl.com/jug3xa7
- chwilen gorniog, ar gael ar:https://tinyurl.com/ybf52mtb

Gwasanaeth

  1. Os bydd hynny’n briodol, dechreuwch trwy ddweud wrth y plant eich bod wedi sylwi fod rhai plant ddim mor garedig ag y gallen nhw fod tuag at blant eraill. Does neb yn hoffi gweld y math hwnnw o ymddygiad. Pwysleisiwch fod hyn yn peri pryder i chi oherwydd, yn yr ysgol, fe ddylen ni fod fel teulu lle mae pawb i fod i ofalu am ein gilydd drwy gydol yr amser. Mae ymddygiad cas yn rhywbeth does neb yn hoffi ei weld.

    Eglurwch eich bod yn mynd i ddweud stori am gi bach bywiog heddiw, ci bach drwg, (dangoswch lun ci bach os oes un ar gael gennych chi) a oedd yn hoffi pryfocio a blino anifeiliaid eraill. Ac fe gawn ni weld beth ddigwyddodd iddo.

  2. Pwtyn, y ci bach bywiog
    addasiad o stori gan Jan Edmunds

    Ci bach bywiog oedd Pwtyn, a oedd bob amser yn hoffi pryfocio a blino anifeiliaid a chreaduriaid bach eraill. Roedd yn cael pleser mawr wrth greu ffwdan iddyn nhw a’u dychryn.

    Dangoswch lun y pryf copyn os yw ar gael gennych chi.

    Fe fyddai Pwtyn wrth ei fodd yn gwylio’r pryf copyn yn dringo i fyny’r wal. Ond fe fyddai’n taro’r pryf copyn i lawr bob tro cyn iddo gyrraedd y top, a’r pryf copyn bach yn dringo i fyny eto, dro ar ôl tro, nes byddai wedi blino’n lân. Yn y diwedd, fe redai’r pryf copyn i ffwrdd a Pwtyn yn cael hwyl fawr am ei ben wrth i hynny ddigwydd.

    Dangoswch lun y wrachen ludw os yw ar gael gennych chi.

    Fe fyddai Pwtyn yn hoffi rhoi ei bawen dros y wrachen ludw, ac wrth i’r wrachen fach geisio dianc fe fyddai Pwtyn yn ei throi drosodd a’i gadael ar wastad ei chefn. Byddai’r ci bach drwg yn chwerthin wrtho’i hun wedyn wrth edrych arni’n cicio ac yn ymdrechu i droi yn ôl ar ei thraed.

    Dangoswch lun y fuwch fach goch gota os yw ar gael gennych chi.

    Fe fyddai Pwtyn bob amser yn gwthio pob buwch fach goch gota oddi ar y llwyni, gan eu gwneud yn ddig iawn.

    Ond, un diwrnod, fe safodd un fuwch fach goch gota yn ddewr o’i flaen a dweud wrth Pwtyn, ‘Bwli wyt ti. Rydyn ni’n fach ac rwyt tithau’n fawr. Sut byddet ti'n hoffi pe bai rhywun yn gas wrthyt ti?’

    Yna, fe ledodd y fuwch goch gota ei hadenydd a hedfan i ffwrdd.

    Dangoswch lun y lindysyn os yw ar gael gennych chi.

    Roedd Pwtyn ar fin gwasgu lindysyn a oedd yn cnoi tamaid o ddeilen ar blanhigyn yn ymyl pan welodd chwilen gorniog fawr yn dod ato. Roedd hon yn chwilen enfawr gyda rhywbeth fel crafanc yn chwifio o’i blaen wrth iddi gerdded.

    Dangoswch lun y chwilen gorniog os yw ar gael gennych chi.

    Fe anghofiodd Pwtyn am y lindysyn. Rhoddodd ei drwyn ar y llawr gan feddwl tybed sut y gallai greu ffwdan i’r chwilen yn lle hynny.

    Ond cyn iddo allu gwneud dim byd fe afaelodd y chwilen yn ei drwyn gyda’r grafanc a'i binsio’n galed heb ollwng.

    ‘Aw! Aw!’ gwaeddodd Pwtyn. ‘Gollwng, gollwng, gad i mi fynd!’

    ‘Fe wna i hynny pan fydda i’n barod,’ meddai’r chwilen.

    Ac ar ôl munud neu ddau, fe ollyngodd y chwilen ei gafael ar drwyn Pwtyn a gadael iddo fynd. Rhedodd yntau oddi yno, nerth ei draed, gan rwbio’i drwyn dolurus.

    ‘Tyrd ti yn dy ôl i fy mhoeni i eto,’ galwodd y chwilen ar ei ôl, ‘ac fe gei di weld be gei di!’

    ‘Na! Byth eto!’ gwaeddodd Pwtyn. Rhwbiodd ei drwyn, a phenderfynodd y byddai o hynny allan yn bodloni ar redeg ar ôl y dail a fyddai’n disgyn oddi ar y coed, yn lle poeni’r creaduriaid bach. Fyddai’r dail ddim yn ei frifo fel y gwnaeth yr hen chwilen gorniog!

  3. Trafodwch y cwestiynau canlynol gyda’r plant.

    - Beth oedd Pwtyn yn hoffi ei wneud?
    - Beth wnaeth Pwtyn i’r pryf copyn?
    - Pa greadur bach y gwnaeth Pwtyn ei throi drosodd ar ei chefn?
    - Pa greadur wnaeth alw Pwtyn yn fwli, a pham?
    - Beth wnaeth i Pwtyn anghofio am y lindysyn?
    - Beth ddigwyddodd pan geisiodd Pwtyn greu ffwdan i’r chwilen gorniog?
    - Ydych chi’n meddwl bod Pwtyn wedi dysgu ei wers, a beth benderfynodd Pwtyn ei wneud wedyn, yn lle poeni’r creaduriaid bach?

Amser i feddwl

Ddylen ni ddim cael pleser wrth greu ffwdan i rywun, neu ymddwyn mewn ffordd sy’n gallu peri trafferth neu niwed i eraill. Yn union fel Pwtyn, fe allen ninnau ryw ddiwrnod gwrdd â rhywun neu rywbeth a allai greu ffwdan i ni neu ein brifo ninnau.

Darllenwch y ddau ddywediad canlynol a gofynnwch i'r plant awgrymu beth yw eu hystyr.

- ‘Dwyn elw iddo’i hun y mae’r dyn trugarog, ond ei niweidio’i hun y mae’r creulon.’ (Diarhebion 11.17)
- ‘Gwnewch fel y dymunech i eraill ei wneud i chi.’ (dywediad adnabyddus)

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Os credwch fod hynny’n briodol, gofynnwch i’r plant feddwl am unrhyw reolau neu ddywediadau y gallen ni gadw atyn nhw wrth fyw ein bywyd bob dydd yn yr ysgol? Er enghraifft, ‘Fe fydd pawb yn hapus os byddwn ni’n gofalu am ein gilydd.’

Nodwch awgrymiadau’r plant a’u hysgrifennu i bawb eu gweld. Defnyddiwch yr awgrymiadau hyn fel gweddi i ddilyn.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon