Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn glymau i gyd!

Sut byddwn ni’n mynd i’r afael â phroblemau?

gan Revd Alan M. Barker (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog agwedd gadarnhaol tuag at anawsterau a phroblemau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pâr o esgidiau rhedeg a’r careiau’n glymau i gyd.
  • Efallai yr hoffech chi ddefnyddio cerddoriaeth dawel ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’ yn y gwasanaeth. Mae un enghraifft o gerddoriaeth felly i’w chael ar:https://www.youtube.com/watch?v=hh5toDqjFb8(Mae’n para am11.36 munud)

Gwasanaeth

  1. Dangoswch yr esgidiau rhedeg i’r plant.

    Holwch y plant ydyn nhw wedi bod mewn cyflwr tebyg i hyn, ryw dro, yn glymau i gyd!

    Gwrandewch ar ymateb nifer o’r plant.

  2. Esboniwch fod pobl, ambell waith, yn disgrifio’u hunain fel pe bydden nhw ‘yn glymau i gyd ac wedi drysu’n lân’. Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl fyddai ystyr hynny.

    Gwrandewch ar ymateb nifer o’r plant.

  3. Eglurwch y gallai’r teimlad hwnnw o fod ‘yn glymau i gyd ac wedi drysu’n lân’ fod yn golygu eu bod yn ansicr sut i ddod yn rhydd o’r sefyllfa honno.

    Holwch y plant a ydyn nhw, ryw dro wedi teimlo ‘yn glymau i gyd ac wedi drysu’n lân’. Ymhelaethwch ar hyn trwy awgrymu ambell sefyllfa bosib.

    - Efallai eu bod wedi ceisio gwneud gwaith neilltuol ryw dro, ac yn methu’n glir â gwybod sut i fynd ati i ddechrau ei wneud.
    - Efallai bod rhywbeth wedi achosi pryder iddyn nhw, a’u bod yn methu rhoi eu pryderon mewn geiriau - mae dywediad yn Saesneg i ddisgrifio pan fydd rhywun yn methu mynegi ei hun - fe fyddai’r unigolyn hwnnw’n ‘tongue-tied’.
    - Efallai eu bod yn teimlo’n nerfus am rywbeth yn yr ysgol, a bod teimlad y tu mewn iddyn nhw sy’n debyg iawn i’r careiau yma, yn llawn clymau.
    - Efallai eu bod wedi cweryla â ffrind, a heb fod yn gwybod sut i ddatrys y broblem. 

  4. Eglurwch fod adegau o dro i dro pan fydd pawb ohonom yn teimlo fel hyn - hyd yn oed yr athrawon a’r arweinwyr yng nghymuned yr ysgol!

  5. Meddyliwch am y ffaith ei bod yn cymryd llawer o amser, gofal ac amynedd i ddatod careiau sydd wedi clymu fel y rhain. Mae’r un peth yn wir am ein hofnau a’n pryderon. Efallai y bydd angen i ni rannu ein pryderon a’n problemau gyda rhywun arall, a gofyn iddyn nhw am rywfaint o help.

  6. Holwch a oes unrhyw un yn dda am ddatod clymau. Croesawch unrhyw gynigion, a rhowch gyfle i un neu ddau o’r plant ac un o’ch cydweithwyr efallai i fynd ati’n dawel i geisio datglymu’r careiau.

  7. Yn y cyfamser, soniwch mor falch ydych chi fod rhywun wedi cynnig helpu, achos doeddech chi DDIM yn gallu eu hagor o gwbl!Knotyw’r gair Saesneg am gwlwm, sy’n cael ei sillafu gyda ‘k’ ar ddechrau’r gair. Mae gairnotarall hefyd sy’n cael ei sillafu heb y ‘k’ - ‘not’, pan fyddwch chi efallai DDIM yn gallu gwneud rhywbeth, ‘I just can NOT do this!’ Ac mae’r pethau dydyn ni ddim yn meddwl ein bod yn gallu eu gwneud yn tueddu i’n dal ni’n ôl yn aml.

  8. Pwysleisiwch fod y geiriau ‘knot’ a ‘not’ yn swnio’r un fath, ond yn cael eu sillafu’n wahanol. Fe allech chi arddangos y ddau air i’r plant sylwi arnyn nhw.

    Eglurwch, pan fydd problem anodd yn ein hwynebu:

    - fe allwn ni fod yn ofnus a dweud wrthym ein hunain, ‘Alla i DDIM gwneud hyn’, neu ‘wna i DDIM llwyddo’.(‘I cannotdo it’ neu ‘I willnotsucceed’)
    - fe allwn ni fod yn ddig wrth wynebu sefyllfa neilltuol, ac weithiau fe fyddwn ni’n dweud, ‘ddylai hyn DDIM bod wedi digwydd’. (‘It shouldnothave happened’).
    - fe allwn ni fod wedi gwneud camgymeriad, neu wedi gwneud rhywbeth o’i le, ac yn meddwl, ‘ddylwn i DDIM bod wedi gwneud hynny’. (‘I wish I hadnotdone that!’)
    - neu’n waeth na hynny, efallai y byddwn ni’n dweud rhywbeth fel yma wrthym ein hunain, ‘Dydw i DDIM yn ddigon da’. (‘I amnotgood enough’)

  9. Meddyliwch am y ffaith, er mai, NOTSgwahanol yw’r agweddau negyddol hyn, o’u cymharu â’rKNOTSgyda’r llythyren‘k’, maen nhw hefyd yn bethau sy’n ein rhwystro ni rhag symud ymlaen - fel y careiau clymedig. Y ffordd gyntaf i ddatrys problem llawn clymau tynn yw trwy ddatod rhai o’n clymau meddyliol. Mae agwedd bositif a dyfalbarhad yn hanfodol er mwyn datrys problemau a datod clymau!

  10. Cyfeiriwch yn ôl at yr esgidiau rhedeg. Sut mae’r rhai a gynigiodd eich helpu yn gyrru ymlaen gyda’r gwaith o ddatod y clymau? Rhowch ganmoliaeth iddyn nhw, neu anogaeth i ddal ati, beth bynnag fydd yn briodol. Pwysleisiwch yr agwedd gadarnhaol sydd wedi’i hamlygu ganddyn nhw.

  11. Gwahoddwch gymuned yr ysgol i feddwl eto am y brawddegau negyddol y gwnaethoch chi eu nodi’n gynharach. A dewch i gasgliad ar derfyn eich trafodaeth trwy annog pawb i feddwl yn gadarnhaol wrth geisio ymdopi â gwahanol fathau o glymau.

Amser i feddwl

Gwahoddwch bawb i ymlacio wrth wrando ar gerddoriaeth dawel.

Gadewch i ni lacio clymau unrhyw bryderon sy’n ei llethu ac yn ein dal ni’n ôl . . .

Gadewch i ni gael gwared â’r pethau negyddol sy’n ein dal ni’n ôl, a dweud wrthym ein hunain, ‘Rydw i YN gallu . . . Rydw i YN mynd i wneud hyn . . . Fe ddylwn i wneud hyn YN BENDANT . . .’

Gadewch i ni gadw mewn cof ein bod i gyd yn arbennig, a bod gan bob un ohonom rywbeth gwerthfawr i’w gyfrannu tuag at fywyd cymuned ein hysgol  -cymorth a chyfeillgarwch, syniadau ac egni.

Gadewch i ni geisio cael gwared â’r agweddau negyddol wrth i ni gofio sut y bydd pob un ohonom yn gallu dysgu rhywbeth newydd heddiw . . .amdanom ni ein hunain, am y naill a’r llall, am fywyd, ac am Dduw.

Gadewch i ni adrodd gweddi Gristnogol gadarnhaol sy’n deud:

‘Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy Dduw, yr hwn sydd yn fy nerthu i.’

Beth allwn ni ei wneud, a beth ddylen ni ei wneud, heddiw?

Beth fyddwn ni’n anelu at ei gyflawni?

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn gadarnhaol yn ein bywyd.
Helpa ni i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n dda.
Helpa ni i wneud ein gorau ym mhob sefyllfa.
Helpa ni i weld y pethau da sydd mewn pobl eraill.
Helpa ni i fyw bywyd sy’n annog pobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon