Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywyd Hosan!

gan Jude Scrutton (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2012)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried gwerth cael llawer o wahanol ffrindiau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch wahanol fathau o hosanau i ddarlunio’r stori (er enghraifft, rhai plaen, sanau pêl-droed, rhai pinc esmwyth, rhai smotiog, sanau tew, sanau tenau a rhai sy’n ymestyn).
  • Ewch dros y stori o flaen llaw, gan ei haddasu yn ôl y sanau sydd gennych chi!

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant ein bod yn mynd i sgwrsio heddiw am y berthynas y byddwn ni’n ei datblygu gyda’n ffrindiau.

    Gofynnwch: Beth sy’n gwneud rhywun yn ffrind da? Sut beth yw cael ffrind da?

  2. Yna adroddwch y stori ganlynol:

    Chwedl yr hosanau
    addasiad o stori gan Jude Scrutton

    (Dangoswch hosan gyffredin) Dyma Hosan Gyffredin. Roedd hi’n ddiwrnod cyntaf i Hosan Gyffredin yn ei hysgol newydd, ac roedd hi’n teimlo braidd yn nerfus. Pan gyrhaeddodd yr ysgol, roedd pawb arall wrthi’n chwarae gyda’i gilydd.

    Fe welodd Hosan Fflyffi (Dangoswch hosan ‘fflyffi’ binc, neu un esmwyth o liw llachar arall) bod Hosan Gyffredin yn edrych yn bryderus, ac fe redodd ati gan ddweud, ‘Helo, Hosan Fflyffi ydw i. Dwi’n hoffi dy fag di. Wyt ti eisiau dod i chwarae hop-sgots efo fi?’

    Dechreuodd Hosan Gyffredin fwynhau ei hun, ac roedd yn teimlo’n llai nerfus wedyn, a dim yn poeni am fod mewn ysgol newydd. Roedd Hosan Fflyffi’n gyfeillgar iawn, ac roedd Hosan Gyffredin yn teimlo’n braf yn ei chwmni. Ond doedd Hosan Gyffredin ddim yn dda iawn am chwarae hop-sgots. Ymhen sbel, galwyd ar Hosan Fflyffi i fynd â’r cofrestri i’r gwahanol ddosbarthiadau.

    Roedd Hosan Gyffredin ar ben ei hun wedyn. Tra roedd hi’n ymdrechu i daflu’r garreg at y rhif 10, fe ddaeth Hosan Ymestyn ati i’w helpu. (Dangoswch hosan o ffabrig sy’n ymestyn) Fe ddangosodd Hosan Ymestyn iddi ffordd well o daflu’r garreg yn union at y rhif. Fe wnaeth hyn i Hosan Gyffredin deimlo’n llawer gwell wedyn, ac fe lwyddodd i gyrraedd ei nod yn ei gêm o hop-sgots.

    Gofynnodd Hosan Gyffredin i Hosan Ymestyn beth allen nhw ei wneud wedyn, ond fe ddaeth yr athrawes at Hosan Ymestyn gan ei dwrdio am adael ei bag ar lawr yn flêr yn y lle cotiau. Bu’n rhaid i Hosan Ymestyn fynd i mewn i godi’r bag a’i roi ar y peg yn daclus.

    Roedd Hosan Gyffredin ar ben ei hun unwaith eto. Roedd wedi cael croeso gan Hosan Fflyffi, ac roedd Hosan Ymestyn wedi dangos iddi sut i chwarae hop-sgots. Ond, dyma hi nawr heb neb i chwarae â hi.

    Aeth Hosan Gyffredin i wylio grwp o sanau a oedd yn chwarae gêm bêl-droed. Sylwodd Hosan Pêl-droed bod Hosan Gyffredin yn edrych arnyn nhw. (Dangoswch hosan bêl droed  - hosan tîm poblogaidd, fel Manchester United, efallai - neu dewiswch chi!) Fe alwodd Hosan Pêl-droed arni, ‘Gei di chwarae yn ein tîm ni os wyt ti eisiau, rydyn ni’n cicio draw ffordd acw.’

    ‘Diolch,’ atebodd Hosan Gyffredin, ‘ond, dydw i ddim yn dda iawn am chwarae pêl-droed.’

    ‘Paid â phoeni, fe alla i dy helpu di,’ meddai Hosan Pêl-droed, ac fe  ddangosodd i Hosan Gyffredin sut i wneud pob math o driciau gyda’r bêl-droed.

    Doedd Hosan Gyffredin ddim yn teimlo fel hosan gyffredin erbyn hyn. Roedd yn teimlo’n debycach i hosan sbesial gyda phob un o’r ffrindiau roedd hi’n cwrdd â nhw.

    Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, roedd Hosan Gyffredin yn cael trafferth i ddeall y symiau newydd yn y wers fathemateg. Dechreuodd deimlo’n ddigalon am ei bod yn meddwl bod pob hosan arall yn llawer mwy clyfar na hi. Ond fe ddangosodd Hosan Ffêr iddi, mewn ffordd glir a syml, sut i wneud y symiau, er bod yr athrawes wedi egluro’n fanwl i’r dosbarth ar y dechrau hefyd.

    Ar ddiwedd y pnawn, fe ddaeth rhieni Hosan Gyffredin i’w nôl o’r ysgol (Dangoswch bâr o hosanau mawr trwchus).

    ‘Helo,’ medden nhw wrthi, ‘sut gwnest ti fwynhau dy ddiwrnod cyntaf yn dy ysgol newydd?’

    ‘Yn dda iawn, diolch,’ meddai Hosan Gyffredin. ‘Fe ddangosodd Hosan Ffêr i mi sut i wneud symiau ffracsiwn, fe ddangosodd Hosan Ymestyn i mi sut i chwarae hop-sgots, fe ddangosodd Hosan Pêl-droed sut i wneud triciau gyda phêl-droed, ac fe wnaeth Hosan Fflyffi i mi deimlo’n sbesial. Felly, dydw i ddim yn teimlo mor gyffredin â hynny erbyn hyn.’

  3. Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl yw’r neges yn stori’r hosanau.

Amser i feddwl

Mae’n bwysig cael llawer o wahanol ffrindiau, yn ogystal â’ch ffrind gorau, gan ein bod y gallu ennill llawer o brofiadau gwahanol wrth gwrdd â gwahanol bobl.

Gweddi
Dduw, Dad,
helpa ni i fod yn bwyllog wrth siarad, i fod yn barod wrth wrando, ac i fod yn awyddus wrth roi.
Helpa ni i gael llawer o ffrindiau da
a helpa ni i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Gweddïwn yn enw Iesu Grist.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon