Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cadwyn O Ddiolch

gan Alan M. Barker (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Deall pa mor bwysig yw dweud ‘Diolch’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwech o gylchynnau coitio rwber, gyda’r gair ‘Diolch’ ar bob un. Gallwch argraffu’r gair ar chwech o gardiau a’u lamineiddio, ac yna’u clymu wrth y cylchynnau â ruban neu gortyn. (Neu, os yw’n well gennych chi, fe allech chi ddefnyddio cylchoedd mwy fel cylchynnau hwla 46-cm, yn hytrach na’r coits, ar gyfer y cyflwyniad  – fe fydd mwy o le i osod y gair yn fawr ar bob un).
  • Wyth o wirfoddolwyr i arddangos y gadwyn o ddiolch. Fe fyddai’n bosib i’r wyth plentyn, neu’r dosbarth, helpu o flaen llaw i lunio’r sgript sydd i’w chyflwyno yn y gwasanaeth.
  • Dewisol: gallwch ddewis plant eraill i chwarae’r rhannau yn y sgwrs sydd ar ddechrau’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch gymuned yr ysgol i ystyried rhai sgyrsiau byr. Pa air neu eiriau sydd ar goll o bob sgwrs?

    Mae Deio’n cael anrheg gan ei rieni.
    Rhieni: Pen-blwydd hapus, Deio. Gobeithio y byddi di’n hoffi dy anrheg.
    Deio (gan rwygo’r papur lapio): Waw! Rydw i wedi cael Wii! Gadewch i ni ei osod yn syth!

    Mae Sara’n cynnig helpu Cadi, sy’n cael anhawster i wisgo’i chot cyn mynd allan i chwarae
    .
    Sara: Gad i mi dy helpu di, Cadi. Mae llawes dy got di y tu chwith allan!
    Cadi: Na, fe alla i wneud fy hun. Hen got wirion!

    Mae’n ddiwedd sesiwn y Clwb Dawns, sy’n cael ei gynnal yn yr ysgol amser cinio ar ddydd Mercher gan Miss Cadwaladr. Mae pawb wedi cael hwyl, yn cynnwys Lisa a Nia.
    Miss Cadwaladr: Da iawn, bawb! Ond, nawr, mae’n amser mynd yn ôl i’r dosbarth.
    Lisa (wrth Nia): Tyrd, Nia, gad i ni fynd i newid.

  2. Gobeithio y bydd rywun wedi canfod mai’r gair neu’r geiriau coll yw ‘Diolch’ neu ‘Diolch yn fawr’! Gwahoddwch bawb i ystyried pam fod dweud diolch yn bwysig. Ystyriwch:

    Mae dweud diolch yn dangos faint rydych chi’n gwerthfawrogi rhywun arall.
    Mae dweud diolch yn dod â’r gorau allan o bobl eraill.
    Mae dweud diolch yn tynnu pobl yn nes at ei gilydd.
    Mae dweud diolch yn dangos eich bod yn rhan o dîm neu deulu.

  3. Nodwch eich bod yn mynd i ddarlunio hyn trwy greu cadwyn o ddiolch. Gweithiwch rywbeth tebyg i’r hyn sy’n dilyn: (Fe allech chi ddefnyddio enwau iawn y plant sy’n cymryd rhan yn eich gwasanaeth chi yn lle’r enwau sy’n cael eu defnyddio yma.)

    Dyma Jude a Rajan. Roedd gan Rajan lawer o fagiau i’w cario i’r ysgol, ac mae Jude wedi ei helpu trwy gario un o’r bagiau. Dywedodd Rajan, ‘Diolch’. (Cyflwynwch y coit neu’r cylch diolch cyntaf er mwyn i Jude a Rajan ei ddal rhyngddyn nhw, fel dolen mewn cadwyn). Roedd Jude wrth ei fodd yn cael bod yn ffrind i Rajan.

    Wrth i’r ddau fynd i’r dosbarth, fe ddaliodd Siân y drws yn agored iddyn nhw. (Mae Siân yn ymuno a’r ddau fachgen.) ‘Diolch,’ meddai Jude wrth Siân. (Cyflwynwch yr ail gylch diolch i Siân a Jude ei ddal rhyngddyn nhw, fel dolen ychwanegol yn y gadwyn.) ‘Popeth yn iawn,’ meddai Siân.

    ‘Fyddech chi’n hoffi i mi rannu’r llyfrau?’ gofynnodd Siân i’r athro dosbarth, Mr Abrahams. ‘Diolch, Siân,’ meddai yntau. ‘Fe fyddai hynny’n help mawr.’ (Mae Siân a Mr Abrahams yn dal y trydydd cylch rhyngddyn nhw, fel dolen arall yn y gadwyn.)


Yn ddiweddarach, doedd Becky ddim yn deall ei gwaith. Daeth Mr Abrahams at ei bwrdd ac egluro iddi beth oedd yn rhaid iddi ei wneud. ‘O, iawn, rwy’n deall nawr,’ meddai Becky. ‘Diolch yn fawr.’ (Ac mae hi a Mr Abrahams yn dal y pedwerydd cylch diolch rhyngddyn nhw.)

(Oedwch am foment er mwyn gofalu bod cymuned yr ysgol yn deall yr hyn rydych chi’n ceisio’i gyfleu. Mae’r gadwyn o ddiolch yn dangos y cymeriadau wedi eu huno â’i gilydd i fod yn ddosbarth gofalgar ac yn dîm cryf. Tanlinellwch y pwynt hwn, sydd wedi’i nodi eisoes yn Rhif 2.)

  1. Fe allech chi ymestyn y stori trwy ychwanegu rhagor o sefyllfaoedd a chymeriadau i’r gadwyn, er enghraifft:


Yn ystod amser chwarae roedd Becky ar ben ei hun, ac fe ddaeth Ingrid ati i ofyn a hoffai hi ymuno mewn gêm. ‘Diolch,’ meddai Becky. ‘Fe fyddwn i wrth fy modd.’ (Ac mae Ingrid yn ymuno â’r gadwyn.)

Ar ôl i’r gloch ganu, aeth pawb i mewn. Ond doedd Ingrid ddim yn gallu dod o hyd i’w bag. Roedd wedi disgyn oddi ar y peg. Daeth Sam i’w helpu i chwilio amdano a dod o hyd i’r bag. Roedd wedi cael ei wthio o dan y fainc. Roedd Ingrid yn falch bod Sam wedi dod o hyd iddo. ‘Diolch, Sam,’ meddai. (Ac mae Sam yn ymuno â’r gadwyn.)

  1. Ail adroddwch y neges bod dweud diolch yn creu synnwyr o berthyn cryf a chlos. Pwysleisiwch fod anghofio dweud diolch yn gwneud i eraill ddigalonni, ac yn peri i’r gadwyn gael ei thorri! Dewch i gasgliad trwy annog pawb sy’n perthyn i gymuned yr ysgol i fod yn rhan o gadwyn diolch.

  2. Os ydych chi’n rhan o ysgol eglwys, fe allech chi gyfeirio at adnod o un o lythyrau Paul:
    ‘... nid wyf fi wedi peidio â diolch amdanoch, gan eich galw i gof yn fy ngweddïau.’ (Effesiaid 1.16).

    Rhaid i hyd yn oed y bobl bwysicaf gofio diolch i’r rhai sy’n eu helpu.

Amser i feddwl

Gwahoddwch bawb i feddwl am rywun sydd wedi eu helpu nhw heddiw.

Wnaethon nhw gofio dweud diolch?

Awgrymwch y gallai pawb feddwl am ffordd y gallen nhw helpu rhywun arall yn eu tro.

Gwahoddwch bawb i wneud penderfyniad ac i weddïo am ddod â’r gorau allan o bobl eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon