Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rwyt Ti’n Seren!

Gwasanaeth yr Ystwyll

gan Penny Hollander (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r ffaith fod pobl yn gwybod am eni’r baban Iesu mewn llefydd ymhell iawn o’r fan lle y cafodd ei eni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen: 4 seren fawr wedi’u torri allan o gerdyn, gydag un ohonyn nhw dipyn mwy na’r lleill.
  • Lluniau o awyr y nos a sêr.
  • Sêr a sticeri, os ydych chi’n defnyddio’r rhain yn yr ysgol fel cymhelliant.
  • Ffotograffau/lluniau o sêr y byd pop.
  • Bocsys/eitemau i gynrychioli aur, thus a myrr.
  • O flaen llaw, dewiswch grwp bychan o’r plant i ymarfer y ddrama: Llefarydd 1, Llefarydd 2, Llefarydd 3, Gwr Doeth 1, Gwr Doeth 2, Gwr Doeth 3, Athro’r Gyfraith.
  • Fe allech chi hefyd ddewis rhywun i actio Mair yn magu’r baban Iesu.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant edrych ar y lluniau i gyd: lluniau awyr y nos, y sêr a’r sticeri, a’r lluniau o sêr y byd pop. Holwch beth sy’n gyffredin i’r holl bethau yma. Gobeithio y bydd rhywun yn dyfalu mai sêr yw’r thema!

  2. Sgwrsiwch am y sêr yn yr awyr, mae patrwm iddyn nhw ac enwau ar rai. Mae rhai pobl yn astudio’r sêr, a’r enw sy’n cael ei roi ar y bobl hynny yw seryddwyr. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod am enwau rhai o’r sêr.  Cofiwch fod gwahaniaeth rhwng enwau’r sêr ac enwau’r planedau!

    (Os yn briodol) Mae plant yr ysgol yn cael eu gwobrwyo â sêr neu sticeri am fod yn ‘sêr’ mewn gwahanol ffyrdd - am wneud gwaith da, am ymdrech arbennig, am helpu, am fod yn garedig, etc. - yr holl bethau rydyn ni’n eu gwerthfawrogi yn yr ysgol. Weithiau, mewn rhai ysgolion, fe fydd rhai dosbarthiadau’n dewis ‘seren yr wythnos’. Mae hyn yn golygu fod athrawon a phobl eraill yn yr ysgol yn cydnabod  ymdrechion arbennig y plant, a’u llwyddiant. Trafodwch sut mae’r plant yn teimlo pan fyddan nhw’n cael eu gwobrwyo fel hyn.

    Weithiau, mae pobl yn dweud wrthych chi, ’Rwyt ti’n seren!’ pan fyddwch chi wedi gwneud rhywbeth gwirioneddol dda. Mae pobl o’r byd pop, ffilmiau a byd chwaraeon yn cael eu galw’n ‘sêr’ hefyd am fod cymaint o bobl yn hoffi gwrando arnyn nhw’n canu, neu’n chwarae eu rhan yn y ffilmiau, neu’n gwerthfawrogi eu gallu a’u llwyddiant mewn chwaraeon.  Beth bynnag, maen nhw’n boblogaidd iawn - gofynnwch i’r plant am enghreifftiau o’r math yma o ‘sêr’.

  3. Sgwrsiwch am y sêr sy’n rhoi golau i bobl, ac yn dangos y ffordd iddyn nhw hefyd. Mae seryddwyr yn gallu edrych i fyny i awyr y nos a darganfod gwahanol grwpiau o sêr, yn ogystal â sêr unigol. Maen nhw bob amser yn chwilio am rai newydd dydyn nhw ddim wedi’u gweld o’r blaen. Fe fydd morwyr yn gwylio’r sêr ac yn eu dilyn wrth deithio ar y môr. Yr un oedd y stori 2,000 o flynyddoedd yn ôl hefyd!

    Llefarydd 1:  Dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, roedd dynion doeth, clyfar iawn yn byw mewn gwlad bell.  Seryddwyr oedden nhw. Roedden nhw’n astudio’r sêr, ac roedden nhw’n gyffro i gyd pan welson nhw seren newydd yn yr awyr. Roedd y seren yn symud ar draws yr awyr. Ar unwaith, fe wnaethon nhw benderfynu ei dilyn er mwyn cael gweld i ble y byddai hi yn eu harwain.

    Llefarydd 2:  Wedi edrych trwy eu llyfrau gwybodaeth, fe welson nhw y byddai’r seren yn eu harwain i’r union fan lle'r oedd brenin newydd wedi’i eni. Roedden nhw’n gweld fod angen iddyn nhw fynd i gyfeiriad dinas o’r enw Jerwsalem. Pan gyrhaeddodd y seryddwyr y ddinas, fe wnaethon nhw holi’r bobl yno ble gallen nhw ddod o hyd i’r brenin newydd yma.

    Gwr Doeth 1:  Ble mae’r plentyn yma sydd wedi cael ei eni i fod yn frenin yr Iddewon?

    Gwr Doeth 2:  Pan oedden ni yn y Dwyrain, fe welson ni ei seren.

    Gwr Doeth 3:  Nawr, rydyn ni wedi dod i’w addoli.

    Athro’r Gyfraith:  Rhaid i chi fynd i Fethlehem yn Jwdea. Mae un o’r proffwydi wedi sôn am hyn amser maith yn ôl.  Fe ddywedodd y byddai hyn yn digwydd, ysgrifennwyd hyn, ac mae’n dweud ble byddai’n digwydd.

    Gwr Doeth 1:  Rhaid i ni frysio, felly. Dydyn ni ddim eisiau colli’r cyfle i weld y baban.

    Gwr Doeth 2:  Rydyn ni eisiau rhoi ein hanrhegion iddo. Yr anrhegion gorau posib ar gyfer brenin.

    Gwr Doeth 3:  Ie’n wir.  Rydyn ni’n ddynion pwysig, ond ddim mor bwysig â’r baban bach yma.

    Llefarydd 3:  Brysiodd y doethion tua Bethlehem, gan ddilyn y seren ar hyd y ffordd, nes iddi eu harwain at stabl yno, ym Methlehem. A dyna beth welson nhw, yn y preseb, y baban bach - Iesu. Doedd e ddim yn edrych yn bwysig o gwbl, ond fe wyddai’r doethion mai hwn oedd y brenin pwysicaf erioed.

    Gwr Doeth 1:  Rydw i wedi dod ag aur i ti (gan gyflwyno’r anrheg a dal seren i fyny).

    Gwr Doeth 2:  Thus gwerthfawr sydd gen i, i ti (gan gyflwyno’r anrheg a dal seren i fyny).

    Gwr Doeth 3:  Ac rydw i wedi dod â’r myrr gorau, i ti (gan gyflwyno’r anrheg a dal seren i fyny).

    Y Tri Gwr Doeth:  (gan ddal y seren fwyaf i fyny)  Rydyn ni wedi dilyn y seren i ddod o hyd i ti, wedi teithio llawer o filltiroedd, ond ti yw’r seren bwysicaf ohonyn nhw i gyd.

  4. Gorffennwch y rhan yma o’r gwasanaeth trwy atgoffa’r plant nad yw’n rhaid i bobl sy’n ‘sêr’ fod yn gyfoethog, nac yn enwog neu glyfar. Pan gafodd ei eni, doedd y baban Iesu yn ddim un o’r pethau yma, ond fe wnaeth ei ddyfodiad i’r byd ddylanwadu llawer ar bobl, a newid eu bywydau  byth ar ôl hynny.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Rydyn ni, i gyd, yn sêr mewn gwahanol ffyrdd.
Mae dawn a thalent gan bob un ohonom ni.
Efallai nad ydyn ni’n meddwl bod y doniau hynny’n bwysig, ond maen nhw,
ac fe ddylen ni werthfawrogi hynny.
Gadewch i ni feddwl am funud am ba ddoniau sydd gennym ni y gallen ni eu cynnig i bobl eraill,
yn union fel y cynigiodd y doethion, a’r bugeiliaid o’u blaenau, eu rhoddion nhw i’r baban Iesu.

Gweddi:
Diolch i ti, Dduw,
am y rhodd fwyaf un yr oedd yn bosib i ti ei rhoi i ni – sef Iesu.
Helpa ni heddiw, i rannu beth sydd gennym ni ag eraill –
y rhodd o gyfeillgarwch, o helpu rhywun, neu efallai dim ond rhoi gwên iddyn nhw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon