Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cariad Mawr Anferthol

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad nad yw’n bosib mesur cariad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi nifer o gardiau fflach gyda’r geiriau yma arnyn nhw, ac unrhyw eiriau eraill sy’n cyfleu’r syniad o rywbeth ‘mawr’ yr hoffech chi eu hychwanegu, e.e. mawr, anferth, enfawr, helaeth, sylweddol, swmpus, di-ben-draw, diderfyn, diddiwedd.
  • Offer mesur fel pren mesur, tâp mesur, ffon fetr, llinyn, etc.
  • Bwrdd gwyn neu siart troi.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am rai gwirfoddolwyr i wneud rhywfaint o waith mesur, neu efallai y gallech chi baratoi un dosbarth o flaen llaw i wneud hyn. Gofynnwch i’r plant fesur hyd darn o bapur, taldra plentyn, mesur oddi amgylch bin sbwriel, etc. Rhowch bren mesur i un plentyn a gofyn tybed fyddai’n bosib iddo fesur iard yr ysgol â’r pren mesur. Os unrhyw broblem â’r dasg honno? Trafodwch y ffaith ein bod angen gwahanol offer mesur ar gyfer gwahanol dasgau.

  2. Gofynnwch i’r plant restru gymaint ag a allan nhw o eiriau yn ymwneud â mesur. Fe allai oedolyn arall nodi’r rhain ar y bwrdd gwyn, neu’r siart troi, fel maen nhw’n cael eu hawgrymu.

  3. Dywedwch wrth y plant fod gennych chi nifer o gardiau fflach, a geiriau arnyn nhw sy’n ymwneud â disgrifio rhywbeth ‘mawr’. Gofynnwch i rai o’r plant ddod i’ch helpu a meddwl am frawddeg fesul un sy’n cynnwys y geiriau yn eu tro, fel: ‘Mae’r blaned Iau yn enfawr’, neu ‘Pan fydda i’n hyn fe hoffwn i fod yn beldroediwr, ac fe sgoria i nifer sylweddol o goliau.

  4. Dywedwch fod Cristnogion, a phobl o grefyddau eraill, yn credu fod un peth na all neb ei fesur, sef cariad. Ac nid yw’n bosib rhoi pris ar gariad ychwaith. Allwch chi ddim ei fesur â phren mesur, na’i bwyso ar glorian, na’i fesur ag unrhyw offer mesur – hyd yn oed pe byddai gennych chi dâp mesur mor fawr â chysawd yr haul! Fe allech chi ychwanegu bod Cristnogion yn credu fod cariad Duw tuag at bob un ohonom ni’n ddi-ben-draw.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Meddyliwch am y daith hiraf yr ydych chi wedi bod arni,
yr adeg hwyraf yr ydych chi wedi bod yn effro,
y pryd bwyd mwyaf rydych chi erioed wedi ei fwyta,
y swm mwyaf o arian rydych chi erioed wedi ei gael,
y dyrfa fwyaf o bobl rydych chi wedi ei gweld,
y peth mwyaf yn y byd rydych chi’n gwybod amdano:
Mae cariad yn fwy na’r rhain i gyd.

Gweddi:
Diolch i ti, Dduw, am dy gariad mawr.
Diolch i ti bod dy gariad yn cyrraedd i ben y mynydd uchaf ac i waelod y môr dyfnaf, ac i bob man yn y bydysawd.
Does unman y gallwn ni guddio ynddo, na dianc yno, nad yw dy gariad di yno eisoes.
Diolch dy fod ti yn fy ngharu i mor fawr.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon