Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ein Byd Rhyfeddol

Annog plant i feddwl am y byd o’u cwmpas a rhyfeddu ato.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog plant i feddwl am y byd o’u cwmpas a rhyfeddu ato.

Paratoad a Deunyddiau

  • Yn achos y cyflwyniad yma, fe fyddech chi’n gwneud gwell argraff os oes gennych chi ddarluniau, tryloywderau neu ddelweddau PowerPoint i’w dangos o’r anifeiliaid y mae sôn amdanyn nhw yma.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud rhai ffeithiau diddorol am rai anifeiliaid wrth y plant. Wyddech chi: 
    fod y llewpart hela (cheetah) yn gallu rhedeg mor gyflym â 70 milltir yr awr? 
    pe byddai’r loris diog (sloth) yn disgyn i’r ddaear o’r goeden? Fe fyddai’n hollol analluog - ni fyddai’n gallu cerdded am fod ei ewinedd yn rhy hir!
    fod gan gamelod amrannau hir i warchod eu llygaid rhag i dywod gael ei chwythu iddyn nhw? 
    ei bod hi’n bosib i bob ystlum benyw mewn un ogof roi genedigaeth i’w rhai bach ar yr un pryd? 
    fod gan y llyffantod dringol (tree frogs) badiau gludiog dan eu traed er mwyn iddyn nhw allu glynu ar arwynebedd fertigol? 

  2. Dywedwch fod Cristnogion yn credu bod ein byd rhyfeddol, a’r cyfan sydd ynddo, wedi’i greu gan Dduw rhyfeddol.
    Nawr gofynnwch i’r plant weithio gyda’r plant eraill sydd yn eu hymyl. Dywedwch wrth bawb am: 
    feddwl am eich hoff anifail, a dweud beth yw hwnnw wrth y plentyn sydd ar y dde i chi. 
    feddwl am eich hoff flodyn, a dweud beth yw hwnnw wrth y plentyn sydd ar y chwith i chi. 
    feddwl am eich hoff ffrwyth neu lysieuyn, a dweud beth yw hwnnw wrth y plentyn sydd o’ch blaen chi. 
    feddwl am eich hoff ran o’r greadigaeth (e.e. mynydd, môr, awyr), a dweud beth yw hwnnw wrth y plentyn sydd y tu ôl i chi.

  3. Eglurwch y byddech chi wrth eich bodd pe baech chi wedi gallu clywed eu holl atebion. Rhaid fod cymaint o atebion gwahanol! Mae Cristnogion yn hoffi diolch i Dduw am yr holl amrywiaeth sydd mewn natur, am gymaint o wahanol blanhigion, anifeiliaid, a nodweddion sydd i’w cael ar y ddaear ac yn y gofod.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Dychmygwch fyd lle mae llawer o’r anifeiliaid yma wedi marw a ddim yn bod bellach. Bob dydd, mae mwy a mwy o rywogaethau mewn perygl o gael eu difa’n llwyr oherwydd eu bod yn cael eu hela a’u cynefinoedd yn cael eu dinistrio - a hynny i gyd oherwydd bod pobl yn farus ac yn anystyriol.
Dychmygwch fyd lle mae’r coed a’r planhigion a’r blodau i gyd wedi gwywo. Bob dydd, mae mwy a mwy o lystyfiant yn cael ei ddifetha oherwydd diwydiant a llygredd - a hynny i gyd oherwydd bod pobl yn farus ac yn anystyriol.
Dychmygwch fyd lle mae’r hinsawdd yn newid, a thirweddau yn cael eu newid. Bob dydd mae sôn am ddaeargrynfeydd, corwyntoedd a thrychinebau eraill ym myd natur sy’n achosi dinistr oherwydd problemau cynhesu byd-eang a llygredd, a hynny i gyd, yn aml, oherwydd bod pobl yn farus ac yn anystyriol.
Pa fath o fyd rydyn ni’n helpu i’w greu?

Gweddi
Annwyl Dduw, rydyn ni’n diolch i ti am y sebra a’r pengwin, y parot a’r cameleon. 
Annwyl Dduw, mae’n ddrwg gennym ni am niweidio a difa anifeiliaid, am fod yn esgeulus a pheri i rywogaethau ddiflannu. 
Annwyl Dduw, helpa ni i ofalu am anifeiliaid o’n cwmpas ac i werthfawrogi mor rhyfeddol yw pob peth yr wyt ti wedi’i greu. 
Amen.

Annwyl Dduw, rydyn ni’n diolch i ti am y coed cas-gan-fwnci (monkey puzzle trees) ac ysgewyll, rhosod a mefus. 
Annwyl Dduw, mae’n ddrwg gennym ni am y glaw asid, plaladdwyr, ac am yr holl goedwigoedd sy’n cael eu dinistrio. 
Annwyl Dduw, helpa ni i ofalu am bethau yn lle’u dinistrio. 
Amen.

Annwyl Dduw, rydyn ni’n diolch i ti am y mynyddoedd a’r mynyddoedd iâ, y rhaeadrau a holl nodweddion amrywiol natur. 
Annwyl Dduw, mae’n ddrwg gennym ni am yr afonydd sydd wedi’u gwenwyno, y diwydiannau sy’n difwyno’n cefn gwlad, a’r newidiadau sy’n digwydd i’r tirweddau. 
Annwyl Dduw, helpa ni i ofalu am ein hamgylchfyd, ac i beidio â bod ofn protestio ynghylch y pethau sy’n difa dy fyd hardd di.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2005    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon