Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dechrau O’r Newydd

Helpu’r plant i ddechrau o’r newydd ar ddechrau blwyddyn newydd, trwy feddwl am y syniad fod Duw yn gallu gwneud popeth yn newydd.

gan The Revd Catherine Williams

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddechrau o’r newydd ar ddechrau blwyddyn newydd, trwy feddwl am y syniad fod Duw yn gallu gwneud popeth yn newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen 5 o wahanol bethau sy’n cael eu defnyddio i olchi neu lanhau rhywbeth – rhai pethau y byddwn ni’n eu defnyddio i gadw’n hunain yn lân, a phethau eraill y byddwn ni’n eu defnyddio o gwmpas y ty i’w gadw’n lân. Yr enghreifftiau sydd gennym yma yw sebon, siampw, powdr golchi, hylif golchi llestri a darn o ‘sebon siwgr’ (sugar soap).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant roi eu dwylo i fyny os ydyn nhw wedi ymolchi y bore yma - gofynnwch iddyn nhw ddal eu dwylo i fyny os gwnaethon nhw ddefnyddio sebon. Dangoswch ddarn o sebon a dywedwch ei fod yn beth da i’w ddefnyddio wrth ymolchi, er mwyn cael eu hunain yn lân. 

  2. Holwch y plant yr un fath eto gan ddangos y siampw. Holwch pam y maen nhw’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod yn cadw’n gwallt a’n corff yn lân. Datblygwch y pwysigrwydd o beidio lledaenu clefydau ac mor bwysig yw bod ag arogl glân arnoch chi. 

  3. Ewch ymlaen i sôn am gadw’r hyn sydd gennym amdanom yn lân, ein dillad. Dangoswch y powdr golchi ac eglurwch sut mae cael dillad glân yn ein helpu ni i gadw’n iach, ac i fod yn braf i bobl eraill sydd wrth ein hymyl.

  4. Dangoswch y botel hylif golchi llestri, a siaradwch am bwysigrwydd cadw’r pethau sydd o’n cwmpas, a’r pethau rydyn ni’n eu defnyddio o ddydd i ddydd, yn lân hefyd. 

  5. Yn olaf, dangoswch y ‘sebon siwgr’, a gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod ar gyfer beth mae hwn yn cael ei ddefnyddio. Fe fydd hwn yn un anodd, ac fe fydd angen canmoliaeth arbennig os bydd unrhyw un o’r plant yn gallu dyfalu pwrpas hwn. Eglurwch fod rhai pobl yn defnyddio ‘sebon siwgr’ i lanhau waliau, etc. cyn eu paentio. Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn i’r paent lynu’n well yn y wal neu’r pren y maen nhw’n ei baentio. Mae’r paent yn cydio’n dda os yw’r wal yn lân. Mae’r sebon siwgr yn glanhau’r holl lwch a baw oddi ar y wal ac yn gwneud yr arwynebedd yn haws i’w baentio, ac fe fydd yn edrych yn dda wedyn, ac yn parhau i edrych yn dda am amser. 

  6. Dywedwch ei fod yn beth da, ar ddechrau blwyddyn newydd i gael dechrau o’r newydd, ‘ar lechen lân’, fel y bydd rhai pobl yn dweud. Efallai fod gan rai pobl bethau newydd gyda nhw y maen nhw wedi’u cael yn ystod y Nadolig i’w defnyddio. Ond mae’n bwysig fod pobl yn lân ac yn ffres o’r tu mewn hefyd fel bod y pethau newydd y maen nhw’n mynd i’w dysgu yn y flwyddyn newydd yn glynu ac yn aros yn dda. 

  7. Yn y Beibl, mae Duw yn addo ei fod yn gallu ein gwneud yn lân ac yn bur o’r tu mewn, a’i fod yn gallu gwneud popeth yn newydd – yn cynnwys pan fyddwn ni’n teimlo’n ddrwg am rywbeth wnaethom ni na ddylem ni fod wedi’i wneud neu ei ddweud, neu deimlo’n ddrwg gennym am bethau sydd wedi digwydd i ni. Y cyfan sydd raid i ni ei wneud yw dweud ‘sori’ am y troeon anffodus hynny pan ddylem ni fod wedi ymddwyn yn well, a gofyn i Dduw gawn ni ddechrau o’r newydd.

Amser i feddwl

Myfyrdod: 
Gofynnwch i’r plant eistedd a meddwl am sut y byddai’n bosib iddyn nhw, mewn unrhyw ffordd, ddechrau o’r newydd.

Gweddi
Annwyl Dduw, 
Mae’n ddrwg gen i am yr holl bethau wnes i, oedd ddim yn iawn, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 
Helpa fi i dyfu’n well a symud ymlaen yn ystod y flwyddyn newydd yma. 
Diolch i ti ei bod hi’n bosib i bawb gael dechrau o’r newydd. 
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2005    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon