Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Troi Dwr Yn Win

Dangos sut mae Duw yn gallu gwneud pethau cyffredin yn anghyffredin.

gan The Revd Catherine Williams

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos sut mae Duw yn gallu gwneud pethau cyffredin yn anghyffredin.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen gwydr gwin a dwy jwg wydr, un yn llawn o ddwr, a’r llall yn cynnwys ychydig o liw bwyd coch.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant ydyn nhw wedi bod mewn priodas erioed. Anogwch y rhai sydd wedi bod mewn priodas, ac yn y wledd wedi’r gwasanaeth, i ddweud rhywfaint o’r hanes wrthych chi a gweddill y plant. Holwch beth oedd yn digwydd yn y wledd briodas, beth gawson nhw i’w fwyta, oedd yno ddiod i’w gael, etc. 

  2. Ailadroddwch, yn eich geiriau eich hun, stori Iesu yn y briodas yng Nghanna, Galilea (Ioan 2.1-11). Pwysleisiwch y ffaith y byddai nifer fawr o wahoddedigion yn y briodas yma, mae’n bosib y byddai pawb o’r pentref yno. Fe fyddai’n beth anffodus iawn pe byddai dim digon o win i bawb i’w yfed, ac fe fyddai’n embaras i’r rhai oedd yn trefnu’r wledd. 

  3. Pan ddowch chi at y rhan yn y stori lle mae Iesu’n gofyn i’w weision lenwi’r cawgiau mawr â dwr, dangoswch y jwg wydr yn llawn o ddwr. Yna dywedwch wrth y plant fod Iesu wedi dweud wrth un o’r rhai oedd yn gweini yn y wledd am arllwys y dwr a’i flasu. Wrth i chi ddweud hyn, arllwyswch y dwr i’r jwg arall, gyda’r lliw coch ar y gwaelod. Fe fydd yn ymddangos i’r plant fel pe baech chi’n troi’r dwr yn win yn union o’u blaenau. (Awgrymwn eich bod chi’n ymarfer gwneud hyn o flaen llaw, gan wneud y peth mor ddramatig â phosib!) 

  4. Arllwyswch wydraid o’r ’gwin’ a’i flasu, gan gymryd arnoch ei fod yn dda iawn, y gorau rydych chi erioed wedi’i flasu. Dim ond un llond jwg o ddwr wnaethoch chi allu ei droi yn win, ond roedd Iesu wedi troi 180 galwyn o ddwr yn win - fe fyddai hynny ymhell dros 800 litr.

    Mae’r Beibl yn dweud wrthym ni fod Iesu wedi gwneud llawer o wyrthiau, ac felly roedd pobl bryd hynny’n dechrau sylweddoli fod Iesu yn rhywun arbennig iawn. Yn oedd yn ymddangos iddyn nhw fod Duw ar waith yma’n sicr.

    Sicrhewch y plant mai tric oedd beth wnaethoch chi heddiw, ac nad yw’n bosibl i chi droi dwr yn win, o ddifri.

  5. Dywedwch fod Cristnogion yn credu y gall Duw, pan fydd ar waith, droi peth cyffredin fel dwr yn rhywbeth neilltuol ac arbennig iawn. Gall Duw wneud pethau cyffredin yn bethau anghyffredin. Er mai pobl gyffredin iawn ydyn ni, bob un ohonom ni, mae Duw yn credu ein bod ni’n hynod ac mae’n ein caru ni i gyd yn fawr iawn. Mae Cristnogion yn credu os gwnawn ni neilltuo amser i Dduw yn ein bywydau, y bydd ef yn gallu ein helpu ni i newid ein hunain er gwell, yn union fel beth ddigwyddodd yn y stori pan gafodd y dwr cyffredin ei droi i fod yn un o’r gwinoedd gorau.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Cafodd y dwr ei droi yn win 
gan Iesu, gwr y gwyrthiau. 
Fe hoffwn pe gallai, o dipyn i beth, 
yn wir, fy newid innau.

Gweddi: 
Diolch, Dduw, dy fod ti’n gallu gwneud pethau cyffredin yn bethau arbennig iawn. 
Helpa ni i edrych ar ôl dy greadigaeth hynod, 
Ac i barchu ein gilydd. 
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2005    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon