Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pos Jig-So Ffydd

Dangos bod ffydd yn rhywbeth sy’n bosib ei ddatrys gyda’n gilydd.

gan The Revd Trevor Donnelly

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dangos bod ffydd yn rhywbeth sy’n bosib ei ddatrys gyda’n gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen: tudalen fawr o bapur, o leiaf maint A3 yn dangos llun eicon o Iesu Grist, neu unrhyw ddelwedd ‘grefyddol’ briodol arall.

  • Torrwch hwn fel jig-so o ddarnau mawr (8 neu 9 o ddarnau fyddai’n ddelfrydol). Fe fydd y gweithgaredd yma’n cael mwy o effaith os yw’n bosib i chi dorri’r darnau fel bod yr wyneb i gyd ar un darn, a’r darn hwnnw’n cael ei gadw hyd y diwedd wrth wneud y jig-so. Gosodwch ddarn o Blu-Tack ar gefn y darnau, a’u cymysgu.

  • Mae’r gwasanaeth yma wedi’i lunio o safbwynt Cristnogol, ond mae’n bosib ei addasu i’w ddefnyddio ar gyfer traddodiad crefyddol arall, gyda llun o symbol neu arweinydd arall (ond rhaid bod yn ofalus peidio tramgwyddo, e.e. fe fyddai’r rhan fwyaf o Fwslimiaid yn gwrthwynebu i chi ddarlunio’r proffwyd Mohammed).

  • Fe fydd arnoch chi angen arwyneb clir lle gallwch chi osod darnau’r pos (mae hyn yn amlwg efallai – ond mae’n bosib bod y waliau wedi’u gorchuddio â gwaith deniadol gan y plant, allai gael ei ddifrodi gan y Blu-Tack!). Fe fyddai siart troi yn ddefnyddiol.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy holi’r plant pwy sy’n hoffi datrys posau a gwneud jig-sos ac ati. Dywedwch wrthyn nhw fod gennych chi jig-so yr hoffech chi gael eu help i’w wneud.

    Gofynnwch i rai o’r plant osod y darnau i chi fesul un.  Fe allan nhw ail drefnu’r darnau sydd wedi’u gosod gan yr un o’u blaen, os bydd angen.

  2. Pan fydd y llun wedi’i orffen, sgwrsiwch am sut roedd pawb yn helpu’i gilydd i gael y llun yn iawn. Fel roedd pob darn yn cael ei osod, roedd hi’n bosib i ni weld mwy a mwy ar y llun, nes roedd pob darn yn ei le, a’r llun yn gyflawn.  Gyda’n gilydd fe gawsom ni ddarlun clir yn y diwedd.

  3. Dywedwch fod hyn yn debyg i ran o’r rheswm pam fod pobl sy’n dilyn crefydd yn dod i’r eglwys neu’r capel, i fosg, synagog neu deml. Fel unigolion, mae gennym ni i gyd ‘ddarn bach’ o’r darlun.  Ond pan fyddwn ni’n dod ynghyd rydyn ni’n gallu gweld y darlun yn gliriach.

  4. Yn y Beibl, mae stori Iesu yn cael ei hadrodd o bedwar safbwynt gwahanol - o safbwynt Mathew, Marc, Luc ac o safbwynt Ioan. Bron na allech chi feddwl am y Beibl fel un jig-so mawr.

    Eglurwch fod Cristnogion yn datrys y ffydd Gristnogol gyda’i gilydd, ac yn meddwl am y gwahanol bethau sy’n perthyn iddi. Rydyn ni’n helpu’n gilydd i ddod i’r ffydd; rydyn ni’n helpu’n gilydd ddod o hyd i’r ffordd.

  5. Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth yma ar gyfer yr Ystwyll, dywedwch stori’r doethion. Fe allech chi gyflwyno’r adran yma trwy ofyn pwy ddaeth i weld y baban Iesu. Weithiau fe fydd rhai yn cyfeirio atyn nhw fel y tri brenin. Ond soniwch nad yw’r Beibl yn dweud mai brenhinoedd oedden nhw, nac ychwaith faint ohonyn nhw ddaeth i weld y baban. Dim ond eu bod wedi dod â thair anrheg, aur, thus a myrr.  Fe dyfodd chwedlau am y tri brenin neu’r doethion, ac fe roddwyd enwau iddyn nhw hyd yn oed. 

    Eglurwch fod y doethion wedi gorfod chwilio am Iesu. Doedd dod o hyd iddo ddim yn hawdd. Doedd e ddim yn y lle y bydden nhw wedi disgwyl dod o hyd i frenin newydd - roedden nhw wedi galw’n gyntaf ym mhalas y Brenin Herod, ond yna fe aethon nhw yn eu blaenau gan ddilyn y seren.

    Roedd arnyn nhw angen help y naill a’r llall ar y daith, a help y seren oedd yn eu harwain.

  6. Dewch i gasgliad ar y diwedd trwy gyfeirio’n ôl at y darlun – y pos jig-so y gwnaethom ni ddatrys gyda’n gilydd. Tynnwch un darn o’r jig-so, a’i ddangos, gan drafod sut y gall y darnau ar eu pen eu hunain fod yn lliwgar ac yn ddiddorol.  Ond er mwyn gallu deall beth maen nhw’n ei ddarlunio, mae angen i’r holl ddarnau ddod at ei gilydd, i wneud darlun cyflawn.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Weithiau mae ffydd yn beth anodd ei ddeall.
Mae pobl yn gofyn cwestiynau fel, ‘Pam mae Duw yn gadael i bethau drwg ddigwydd?’
Weithiau, does gennym ni ddim atebion, ac efallai fod yn rhaid i ni geisio meddwl am y pethau hyn mewn ffordd arbennig.
Yn aml, fyddwn ni ddim yn gallu cael atebion i’n cwestiynau.
Bob amser, fe allwn ni ddysgu oddi wrth bobl eraill.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Fe ddywedodd Iesu, ‘Curwch ac fe agorir i chwi’ a ‘Chwiliwch a chwi a gewch’.
Rho i ni chwilfrydedd, a meddyliau sy’n barod i holi.
Ysbrydola ni i weithio gyda’n gilydd
a helpa ni i fod yn agored, ac i ddysgu gan eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon