Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adegau Arbennig

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Nodi adegau a digwyddiadau pwysig ac arbennig, mewn ffordd gofiadwy.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi tua 12 o blant i gymryd rhan yn y gwasanaeth yma; fe fydd eisiau iddyn nhw allu actio tipyn a gallu canolbwyntio’n dda hefyd. Yn ddelfrydol fe fyddai’n dda cael un neu ddau o bob dosbarth.
  • Fe allech chi ddefnyddio’r gân ‘Kum ba yah’, neu unrhyw ddarn o gerddoriaeth addas ar y dechrau i greu’r awyrgylch briodol er mwyn canolbwyntio.

Gwasanaeth

  1. Weithiau fe fydd pobl yn cymryd rhan mewn digwyddiadau pwysig. Fe fyddwn ni’n nodi’r digwyddiadau yma trwy gofio am bobl neu ddathlu rhyw achlysur.  Un ffordd o wneud hyn yw trwy weithio gyda’n gilydd i greu ‘cerflun’ sy’n dangos sut rydyn ni’n teimlo.

    Fe fyddwn ni’n gwneud hyn gyda’n gilydd, ac yna fe fydda i’n gwneud ‘cerflun’ gyda help nifer o blant (h.y. y rhai sydd wedi’u paratoi i gymryd rhan). Ar ôl hynny, fe hoffwn i’r plant sydd wedi cymryd rhan fynd yn ôl i’w gwahanol ddosbarthiadau, a chyfleu beth rydyn ni wedi’i wneud, fel y gall pob dosbarth wneud hyn eto yn eu hamser trafod.
  2. Eglurwch eich bod chi nawr yn mynd i wneud rhywbeth eithaf anodd, ond rydych chi’n hyderus y bydd y plant rydych chi wedi’u dewis yn mynd i allu gwneud hyn, a gwneud i’r peth weithio’n dda hefyd …

    Gofynnwch i’r plant i gyd gau eu llygaid a meddwl am rywbeth ardderchog iawn – efallai cyffro bore Nadolig, neu gychwyn ar wyliau braf. Dywedwch wrthyn nhw, wedi iddyn nhw agor eu llygaid, sut maen nhw wedi newid eu hosgo wrth feddwl am deimlad hapus, a hynny heb fod yn ymwybodol eu bod wedi gwneud hynny.

    Nawr, gofynnwch iddyn nhw orwneud yr ystum (mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi arddangos hyn iddyn nhw), i fod mewn ystum ‘ar i fyny’ go iawn (efallai gan godi’r dwylo a gwenu’n hapus).

    Nawr, meddyliwch am rywbeth hynod o drist – efallai rhywbeth rydych chi wedi clywed amdano ar y newyddion, ac yna ystyriwch sut mae ystum eich corff wedi newid wrth i chi ymateb i’r teimlad sydd ynoch chi (wedi plygu i mewn, wyneb trist, y breichiau a’r dwylo o’ch blaen wedi’u croesi efallai).
  3. Gofynnwch i’ch ‘gwirfoddolwyr’ ddod ymlaen i’ch helpu. Gofynnwch iddyn nhw sefyll mewn cylch, yn edrych i mewn, gyda digon o le yn y canol. Daw un ohonyn nhw i’r canol gan ddarlunio’r teimlad yr hoffech chi iddo’i gyfleu. Fe fydd angen iddyn nhw fod yn gyffyrddus am fod eisiau iddyn nhw ddal yr ystum yma am beth amser.  Fe allan nhw sefyll, penlinio, eistedd neu hyd yn oed orwedd i lawr.

    Daw’r plentyn nesaf ato i’r canol wedyn, a chyfleu’r un teimlad. Fe fydd eisiau iddo gysylltu â’r plentyn cyntaf rywsut, gall eistedd gefn wrth gefn, neu gyffwrdd ei ysgwydd â’i law, neu bwyso yn ei erbyn mewn rhyw ffordd (bydd angen i chi ddangos hyn). Wrth gwrs, rhaid i’r cyffwrdd fod yn briodol.
  4. Galwch ar y plant fesul un o’r cylch i uno â’r ‘cerflun’, i gyfleu’r teimlad ac aros yn llonydd yn yr ystum hwnnw. Pan fydd y ‘cerflun’ yn gyflawn, sefwch yn ôl ac edmygu’r campwaith.  Gofynnwch i weddill y plant beth mae’r darn creadigol yma’n ei ddweud wrthyn nhw.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Gofynnwch i blant y ‘cerflun’ aros yn eu lle, a defnyddiwch y ddelwedd fel canolbwynt yr ‘amser i feddwl’, fe fydd gweddill y plant yn edrych ar y ddelwedd. Fe allech chi chwarae cerddoriaeth addas ar yr adeg yma, ac efallai yr hoffech chi oleuo cannwyll.

Anogwch y plant i feddwl am y ‘cerflun’ a’r hyn mae’n ei gyfleu.

Fel mae’r plant yn gadael y gwasanaeth, a’r cerflun yn parhau i sefyll, rhowch ychydig eiliadau i bob rhes yn eu tro edrych unwaith eto arno cyn ymadael.

Gofalwch eich bod yn diolch i’r plant sydd wedi cymryd rhan, ac yn diolch iddyn nhw am fod mor ddewr.

Gweddi:

Heddiw rydyn ni’n teimlo llawenydd / tristwch / hiraeth …

Rydyn ni’n sefyll gyda phobl eraill, yn rhannu’r un emosiwn,

a chyda’n gilydd, rydyn ni’n rhoi hwn i Dduw.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon