Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cydweithio - Tynnu Rhaff

Dangos bod cystadlu yn erbyn eich gilydd ddim bob amser yn beth defnyddiol, a dysgu bod gwerth mewn cydweithio.

gan The Revd Trevor Donnelly

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos bod cystadlu yn erbyn eich gilydd ddim bob amser yn beth defnyddiol, a dysgu bod gwerth mewn cydweithio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhaff i smalio chwarae tynnu rhaff.

  • Melysion (e.e. siocled Masnach Deg), neu wobrau bach priodol eraill.

  • Ar gyfer y tynnu rhaff, fe fyddai’n ddefnyddiol cael help gan adran ymarfer corff yr ysgol – ychydig o fatiau meddal ar y llawr, ac un neu ddau o athrawon wrth law i helpu’r plant ac i ofalu dydyn nhw ddim yn anafu cledr eu llaw, ac ati. Efallai y byddai’n dda hyfforddi nifer o blant o flaen llaw ynghylch diogelwch gweithgaredd tynnu rhaff. 

Gwasanaeth

  1. Trefnwch flaen y neuadd gan osod rhai gwobrau ar y naill ochr a’r llall, a rhaff ar lawr yn y canol. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod sut i chwarae tynnu rhaff.

  2. Galwch ar wirfoddolwyr (neu’r plant sydd wedi’u hyfforddi o flaen llaw). Mae’n bosib i unigolion gymryd rhan, neu dimau, yn dibynnu ar faint o le sydd gennych chi. Dywedwch wrth bob tîm fod eu gwobrau ar yr ochr, a’i bod hi’n bosib iddyn nhw ennill y gwobrau os gallan nhw eu cyrraedd heb ollwng y rhaff.

    NODWCH: Byddwch yn ofalus sut rydych chi’n gofyn iddyn nhw wneud hyn.  Dydych chi ddim mewn gwirionedd yn gofyn iddyn nhw chwarae tynnu’r rhaff.  Rydych chi’n dweud fod yn bosib iddyn nhw ennill y gwobrau os gallan nhw eu cyrraedd heb ollwng y rhaff.  Fe fyddan nhw’n tybio eich bod eisiau iddyn nhw dynnu’r rhaff.  Ond fyddwch chi ddim wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny.  Eglurwch y rheol yn unig, a gofyn am wirfoddolwyr i ddal y rhaff.

  3. Mae’n bosib i chi chwarae’r gêm nifer o weithiau gyda gwahanol blant.  Gyda’r set olaf o blant, eglurwch iddyn nhw fod ffordd o wneud hyn sy’n golygu fod pawb yn cael gwobr, a hynny heb orfod gwrthdynnu chwaith. Holwch oes rhywun yn gallu awgrymu sut mae gwneud hyn? 

    Yr ateb yw i’r ddau ohonyn nhw (neu’r ddau dîm) gerdded, gan gario’r rhaff, i’r naill ochr yn gyntaf, gyda’i gilydd i nôl y gwobrau.  Ac wedyn cerdded gyda’i gilydd eto i’r ochr arall, gan ddal i gydio yn y rhaff, a chasglu’r gwobrau sydd yno. Cerddwch gyda nhw drwy hyn i ddangos beth rydych chi’n ceisio’i ddweud.

  4. Adroddwch ddameg y ddau ful:

    Un tro, roedd dau ful wedi’u clymu, y naill wrth y llall, yn sefyll ar ganol y llawr mewn stabl. Roedd preseb un o’r mulod yn un pen y stabl, a phreseb y mul arall ym mhen arall stabl, yr ochr draw. Roedd y ddau eisiau mynd at eu bwyd.  Roedd un yn tynnu’r ffordd yma, a’r llall yn tynnu’r ffordd arall, y ddau yn tynnu’n groes i’w gilydd, wrth geisio mynd at y bwyd.  Tynnodd, a thynnodd, y ddau gymaint ag a allen nhw.  Fe fuon nhw’n tynnu trwy’r dydd, nes iddyn nhw yn y diwedd gwympo i’r llawr wedi diffygio’n llwyr.

    Roedd y ddau ful yn newynog iawn, er bod llond y ddau breseb o fwyd iddyn nhw bob pen i’r stabl.  Roedden nhw’n newynu am eu bod yn gwrthod cydweithio. Mor hawdd fyddai iddyn nhw fod wedi cerdded gyda’i gilydd at un preseb yn gyntaf, a cherdded gyda’i gilydd i ben arall y stabl at y preseb arall wedyn, a chael llond eu boliau o fwyd, ill dau.  Ond roedd y naill mor ystyfnig â’r llall!

  5. Pwysleisiwch fod digon o fwyd yn y byd i bawb, pe bai cael ei rannu’n deg, a phawb yn cydweithio.  Ond am fod rhai pobl yn methu cyd-dynnu, mae llawer iawn o bobl yn y byd yn newynu.

  6. Eglurwch fod cystadleuaeth yn beth da weithiau, mae’n hwyl ac mae’n gwneud i ni drio’n gorau, neu weithio’n galetach. Ond weithiau, mae cystadlu yn erbyn ein gilydd yn gallu achosi problemau, yn enwedig os dydyn ni ddim yn gofalu am eraill ac yn barod i’w helpu. Hefyd, wrth i ni gydweithio, fe allwn ni’n aml wneud pethau llawer mwy, a hynny’n llawer gwell, ac yn llawer haws. Mae hyn yn wir amdanom ni ein hunain, am ein gwlad, ac am holl genhedloedd y byd..

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Caewch eich llygaid a meddyliwch am y lle rydych chi ynddo, a’r bobl sydd o’ch cwmpas chi…
Nawr, meddyliwch am yr ardal lle rydych chi’n byw ynddi, a’r holl bobl o bob oed sy’n gweithio yno, yn chwarae yno, ac yn mynd o gwmpas eu bywydau o ddydd i ddydd…
Nawr, meddyliwch am y wlad yma, yr holl bobl o wahanol hil, diwylliant a chrefyddau…
I gyd yn mynd o gwmpas eu bywyd o ddydd i ddydd…
Wedyn, meddyliwch am yr holl fyd, a’r holl bobl sy’n byw yn y byd…
Fe fyddai’n bosib i’n byd fod yn rhywle lle mae pawb yn rhannu, yn helpu ac yn cydweithio; os gwnawn ni weithio gyda’n gilydd, mae’n bosib i ni wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.

Gweddi
Annwyl Dduw,
helpa ni i weithio gyda’n gilydd,
i helpu’n gilydd,
a charu’n gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon