Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diolch Yn Fawr

Atgoffa’r plant mor bwysig yw hi i ddweud ‘diolch yn fawr’.

gan Michelle Walker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant mor bwysig yw hi i ddweud ‘diolch yn fawr’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen OHP a thudalen dryloyw, neu siart droi a phin ffelt.

  • Sticeri (gwelwch rhif 4).

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn i’r plant am eiriau pwysig y dylen ni gofio eu defnyddio o ddydd i ddydd. Gobeithio y bydd rhywun yn awgrymu’r geiriau - Diolch yn fawr. Holwch y plant ydyn nhw’n cofio dweud diolch bob amser - neu a ydyn nhw’n anghofio weithiau?

  2. Lluniwch acrostig ar gyfer y geiriau DIOLCH YN FAWR. Gofynnwch i’r plant awgrymu pethau y gallen ni ddiolch amdanyn nhw i greu’r acrostig. Ysgrifennwch yr atebion ar dryloywder neu ar siart troi, e.e.

    D – Dwr glân
    I – Iechyd
    O – Offerynnau cerdd
    L – Lamp i roi golau i ni
    CH– Chwerthin a chwarae
    Y – Ysbyty, pan fyddwn ni’n sâl neu wedi cael anaf
    N – Nadolig
    F - Fideo
    A - Amser chwarae
    W - Wyneb hapus
    R – Radio, neu record

  3. Eglurwch y gallwn ni ddweud diolch mewn nifer fawr iawn o sefyllfaoedd; diolch i’n rhieni neu’r rhai sy’n gofalu amdanom ni, i’n ffrindiau, i’n hathrawon, i bobl eraill sy’n gweithio yn yr ysgol fel glanhawyr a gofalwyr, a phobl sy’n paratoi bwyd i ni, a dweud diolch wrth bobl sy’n gweithio mewn siopau a llawer lle arall hefyd. Mae’n bwysig iawn dweud diolch. Gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n teimlo pan fyddan nhw wedi gwneud rhywbeth i rywun, a hwnnw ddim yn dweud diolch wrthyn nhw wedyn?

  4. Adroddwch y stori am y deg o wahangleifion, o Efengyl Luc 17.11-19. Galwch ar 10 o blant i ddod ymlaen a rhowch sticer ar gefn llaw pob un. (Byddwch yn sensitif os oes rhywun ag ecsema neu anhwylder ar y croen, etc.) Dyma 10 o bobl oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf. Eglurwch i’r plant mai clefyd oedd hwn oedd yn effeithio ar y croen, ac yn adeg Iesu Grist, doedd dim meddyginiaeth ar ei gyfer.  Roedd y bobl oedd yn dioddef o hyn, bryd hynny, yn gorfod byw ar wahân ymhell oddi wrth bawb, ac ymhell oddi wrth eu teuluoedd. 

    Gofynnwch i blentyn arall chwarae rhan Iesu Grist, sy’n dod at y gwahangleifion ac yn dweud wrthyn nhw am fynd i weld yr offeiriadon. Fel maen nhw’n mynd mae eu gwahanglwyf yn diflannu. (Fe all y plant dynnu’r sticeri.) Maen nhw mor hapus eu bod wedi gwella, maen nhw i gyd yn rhedeg adref i ddweud wrth eu teuluoedd eu bod yn iach eto (ac mae’r plant yn mynd i eistedd i lawr). Pob un, ond un, sy’n dod yn ei ôl at Iesu i ddweud diolch wrtho am ei wella. Pwysleisiwch fod 10 o bobl wedi’u gwella, ond mai un yn unig ddaeth yn ei ôl i ddweud diolch yn fawr.

  5. Eglurwch fod y Beibl yn annog pawb ohonom ni i ddiolch i Dduw, ym mhob sefyllfa, waeth beth yw’r amgylchiadau (e.e. 1 Thesaloniaid 5.18). Mae Cristnogion yn credu, er bod hyn yn beth anodd ei wneud, ei fod yn beth pwysig i’w gofio wrth i ni fynd o gwmpas ein gwaith o ddydd i ddydd. Fe allwn ni ddweud diolch am bob peth y mae Duw yn ei roi i ni.

  6. Rowch her i’r plant ddweud diolch am bob peth ar hyd yr wythnos. Yna, diolchwch chi iddyn nhw am wrando mor dda!

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Eisteddwch yn dawel a meddyliwch am bopeth sydd o’n cwmpas: natur, ein teulu, ffrindiau, bwyd, diod, ac ati.
Pa mor aml y byddwn ni’n dweud ‘diolch yn fawr’?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bopeth rwyt ti’n ei roi i ni o ddydd i ddydd.
Helpa ni i werthfawrogi beth sydd gennym ni, a helpa ni i gofio dweud, Diolch yn fawr.
Amen.

(Fe allai pawb ddarllen yr acrostig Diolch yn fawr gyda’i gilydd.)

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon