Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Here comes the sun!

Myfyrio ar y pleser sydd i’w gael wrth ddisgwyl am rywbeth, ac edrych ymlaen at y newid a ddaw gyda thymor yr haf.

gan Gill Hartley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar y pleser sydd i’w gael wrth ddisgwyl am rywbeth, ac edrych ymlaen at y newid a ddaw gyda thymor yr haf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Myfyrio ar y pleser sydd i’w gael wrth ddisgwyl am rywbeth, ac edrych ymlaen at y newid a ddaw gyda thymor yr haf.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant enwi’r pedwar tymor. Holwch pa dymor o’r flwyddyn yw hi ar hyn o bryd (ateb: diwedd y gwanwyn). Pa dymor ddaw nesaf? (ateb: yr haf).

  2. Gofynnwch i’r plant awgrymu sut y bydd yr haf yn wahanol i’r gwanwyn. Beth fydd yn newid wrth i’r gwanwyn droi’n haf? Ydyn nhw’n edrych ymlaen at yr haf, ac os ydyn nhw, pam?

  3. Os ydych chi’n gwybod am gân sy’n ymwneud â’r haf, canwch hi. Neu, dyfynnwch y pennill gyntaf o emyn 122 Caneuon Ffydd (geiriau John Gwilym Jones):

    ‘Caraf yr haul sy’n wên i gyd,

     Duw wnaeth yr haul i lonni’n byd.’
  1. Wedyn, gofynnwch i’r plant gau eu llygaid wrth i chi eu harwain trwy ysgogiad gweledol dychmygol: 

    Dychmygwch ddiwrnod braf yn yr haf: 
    rydych chi’n eistedd mewn parc. 
    Gwrandewch ar y synau sydd o’ch cwmpas, 
    yr awel yn siffrwd trwy ddail y coed uwch eich pen,
    pobl yn cael hwyl ac yn chwerthin yn yr awyr iach, 
    plant yn giglan ac yn bwyta hufen iâ, 
    plant yn chwarae pêl-droed ar y glaswellt, 
    adar bach yn canu yn y llwyni. 
    Rydych chi’n gallu arogli’r glaswellt o dan eich traed, 
    y blodau sy’n tyfu o’ch cwmpas, 
    ac rydych chi’n teimlo gwres yr haul ar eich cefn. 

    Nawr, dychmygwch ddiwrnod braf arall yn yr haf: 
    y tro hwn rydych chi’n gorwedd ar y traeth. 
    Gwrandewch ar y synau sydd o’ch cwmpas,
    y tonnau’n torri ar y graean bras, 
    pobl yn padlo ac yn sblasio yn y dwr,  
    plant yn tyllu yn y tywod gyda’u bwcedi  a’u rhawiau, 
    criw o bobl ifanc yn chwarae gem o rownderi ar y traeth, 
    y gwylanod yn galw uwch ben y môr. 
    Rydych chi’n gallu arogli’r eli haul ar eich croen. 
    Mae blas hallt y môr ar eich gwefus, 
    ac rydych chi’n gallu teimlo’r gronynnau tywod rhwng bodiau eich traed. 

    Nawr meddyliwch yn ôl am y ddau ddiwrnod: 
    penderfynwch beth ydych chi’n ei hoffi orau am yr haf, 
    a cheisiwch gofio beth oedd eich dewis pan fyddwch chi wedi agor eich llygaid.

  2. Holwch oes rhai o’r plant yn fodlon rhannu eu meddyliau â gweddill y gynulleidfa, a dweud beth oedd eu hoff beth sy’n ymwneud â’r haf. Wrth i chi dderbyn eu hymateb, gwahoddwch nifer o wirfoddolwyr (tua 6-10) i ddod ymlaen a’ch helpu i greu’r gweddïau rydych chi’n mynd i’w hadrodd yn awr, a hwythau yn eu tro’n dweud beth yw eu hoff beth.

Amser i feddwl

Lluniwch eich gweddi gyfranogol. Galwch ar y  6-10 gwirfoddolwr i ddod atoch chi, pob un yn nodi gwahanol agweddau ar yr haf, i’ch helpu i gyfrannu at y weddi. Eglurwch i’r gynulleidfa y byddwch chi’n cyflwyno’r weddi, yna fe fydd y gwirfoddolwr cyntaf yn dweud wrthych chi beth yw’r peth gorau ganddo ef neu hi, ac yna fe fydd pawb yn ymuno trwy ddweud ‘diolch am ... (y peth hwnnw). Pan fydd pob un o’r gwirfoddolwyr wedi gwneud eu rhan, fe allwch chi wedyn ddod â’r weddi i ben.

Gweddi
Annwyl Dduw, 
diolch i ti am yr haf ac am yr holl bethau rydyn ni’n edrych ymlaen atyn nhw: 

Gwirfoddolwr 1: (e.e.) Dyddiau heulog. 
PawbDiolch i ti am ddyddiau heulog. 

Gwirfoddolwr 2: (e.e.) Gwyliau. 
PawbDiolch i ti am y gwyliau. 

(Ac felly ymlaen, tan y diwedd, a gorffen fel hyn:

Diolch am yr haf ac am yr holl hwyl y mae’n bosib i ni ei gael. 
Helpa ni i gofio am bawb sydd ddim yn gallu mwynhau’r haf yn y ffordd rydyn ni’n gallu ei fwynhau. 

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2001    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon