Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pysgodyn Yr Enfys

Archwilio’r syniad bod rhannu yn elfen bwysig mewn bod yn ffrind da.

gan Lucy Fletcher

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad bod rhannu yn elfen bwysig mewn bod yn ffrind da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi fformat mawr o'r llyfr The Rainbow Fish gan Marcus Pfister.

  • Deg cylch gloyw – e.e. bathodynnau, addurniadau, neu gylchoedd wedi’u torri allan o gerdyn hologram neu liw arian, gyda modd o’u glynu ar rywun (e.e. Velcro ar y cefn).

Gwasanaeth

  1. Dewiswch ddeg gwirfoddolwr i ddod atoch i’r tu blaen. Dewiswch un i fod yn bysgodyn - Y Pysgodyn Enfys. Gosodwch y deg darn cen gloyw ar y Pysgodyn Enfys, e.e. bathodynnau, darnau o gerdyn gloyw â Velcro ar y cefn, etc. Dewiswch ddau blentyn arall y naill i fod yn Seren fôr a’r llall yn Octopws.

  2. Dywedwch stori’r Pysgodyn Enfys, gan ddangos y lluniau yn y llyfr The Rainbow Fish a throsi’r testun, a’i ddehongli yn eich geiriau eich hun, fel rydych chi’n mynd yn eich blaen.  

    Wrth i chi ddweud y stori, anogwch y plant i actio’r stori, gyda’r pysgodyn enfys yn cael ei adael ar ben ei hun oherwydd ei fod mor hunanol. Cyflwynwch y Seren fôr a’r Octopws ar yr adegau priodol.

  3. Wedi i’r Pysgodyn Enfys ymweld â’r Octopws, fe all rannu’r cylchoedd gloyw â’r pysgod eraill fesul un. Gyda phob un, anogwch y pysgod eraill i ddod yn fwy cyfeillgar tuag at y Pysgodyn Enfys.

  4. Ar ddiwedd y stori, dangoswch pa mor hapus yw’r Pysgodyn Enfys nawr, am ei fod wedi rhannu ei gylchoedd gloyw, ac wedi gwneud ffrindiau. Defnyddiwch y stori fel trosiad ar gyfer gwneud ffrindiau. Eglurwch y gallai’r cylchoedd fod yn deganau, yn felysion, neu hyd yn oed yn amser, neu beth bynnag eraill yr oedd yn fodlon ei rannu â’i ffrindiau. Cofiwch pa mor anhapus yr oedd y Pysgodyn Enfys ar y dechrau. Er bod ganddo gylchoedd gloyw hyfryd, doedd neb eisiau bod yn ffrind iddo. Roedd yn greadur balch a ffroenuchel, ond  roedd hefyd yn unig iawn. Mae’n llawer gwell rhannu pethau a chael ffrindiau, na bod yn falch a ffroenuchel ac yn unig.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Meddyliwch am amser y gwnaethoch chi rannu rhywbeth â’ch ffrindiau. 
Sut deimlad oedd gwneud hynny? 
Beth mae eich ffrindiau yn ei rannu â chi?

Gweddi
Gadewch i ni ddweud diolch yn fawr am yr holl bethau y gallwn ni eu rhannu gyda’n ffrindiau. 
Mae ein ffrindiau yn rhannu eu teganau, a’u gwên, a’u hamser da gyda ninnau.
Diolch yn fawr.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon