Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Edrych I’r Dyfodol!

Pwysleisio bod pob blwyddyn newydd yn dod â chyfleoedd newydd i ni ddysgu pethau newydd, fel y byddwn ni’n tyfu i fod yn well pobl.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Pwysleisio bod pob blwyddyn newydd yn dod â chyfleoedd newydd i ni ddysgu pethau newydd, fel y byddwn ni’n tyfu i fod yn well pobl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen casgliad o bethau sy’n ymwneud â’r Nadolig, e.e. addurniadau, coeden, goleuadau, cracers, canhwyllau.

  • Calendr Adfent â siocledi ynddo – mae llawer o’r rhain yn cael eu gwerthu’n rhad ar ôl y Nadolig!

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y pethau sydd gennych chi yn ymwneud â’r Nadolig a threfnwch y pethau fel petai chi’n paratoi ar gyfer y Nadolig. Holwch y plant a oes rhywbeth yn od yn yr hyn rydych chi’n ei wneud – rydych chi’n gobeithio cael yr ateb fod y Nadolig wedi bod, ac y byddai’n well i chi roi’r addurniadau a’r pethau eraill i gadw nawr, yn hytrach na’u hestyn allan!

  2. Eglurwch fod nifer o bethau wedi digwydd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Sgwrsiwch am rai o’r pethau yma, amrywiaeth o ddigwyddiadau rhyngwladol, cenedlaethol, a lleol, a fu yn y newyddion, gan gynnwys pethau da a phethau drwg, e.e. trychinebau yn y byd; pen-blwydd y Frenhines yn 80 oed; cystadleuaeth Cwpan y Byd (da neu ddrwg!!); yr ysgol yn cael dyn neu ddynes lolipop newydd, neu beth bynnag fydd yn berthnasol i’ch ysgol chi, etc.

  3. Dywedwch wrth y plant eu bod, yn ystod y flwyddyn, wedi dysgu llawer iawn am wahanol bethau. Am dipyn o hwyl, heddiw, rydych chi’n mynd i gynnal cwis bach i weld faint mae’r plant yn ei wybod. Eglurwch mai rhif yw pob ateb, a bydd pwy bynnag sy’n cael yr ateb yn iawn yn gallu agor y ffenest â’r rhif hwnnw arni ar y Calendr Adfent, a bwyta’r siocled, os yw hynny’n briodol!

  4. Yna, ewch ymlaen â chynnal y cwis. Cofiwch beidio â gofyn y cwestiynau yn y drefn rifiadol neu drefn y dyddiau! (Gallwch amrywio’r cwestiynau fel y mynnwch chi,  i weddu i’r plant, ond dyma rai enghreifftiau.)

      1 - Sawl lleuad sy’n troi o gwmpas y ddaear?
    23 - Pa rif y mae’n rhaid i chi ei luosi â 3 i wneud 69?
      4 - Faint o wledydd sydd yn y D.U.?
    10 - Sawl blwyddyn sydd mewn degawd?
      3 - Yn ôl y traddodiad, sawl gwr doeth ddaeth i weld Iesu yn y stabl ym Methlehem?
      9 - Faint o lythrennau sydd yn enw ‘Iesu Grist’?
      5 - Pan fyddwn ni’n sôn am ein synhwyrau, sawl synnwyr sydd gennym fel rheol?
    20 - Mewn rhifau Rhufeinig, beth yw gwerth XX?
      6 - Sawl gwraig oedd gan Harri’r VIII?
    16 - Beth yw’r dyddiad naw diwrnod cyn dydd Nadolig?
      7 - Sawl diwrnod sydd mewn wythnos? 
    22 - Faint o chwaraewyr sydd gyda’i gilydd ar y cae yn ystod gêm bêl-droed? (Gan gymryd does neb wedi’i anfon oddi ar y cae!)
    12 - Sawl mis sydd mewn blwyddyn?
      8 - Beth yw 24 wedi’i rannu â 3?
    19 - Beth yw’r ateb i’r s?m: 45 - 26 = ?
    13 - Pa rif y mae rhai pobl yn ei ystyried yn anlwcus?
    21 - Ym mha ganrif yr ydym ni nawr?
    14 - Sawl diwrnod sydd mewn pythefnos?
    17 - Dyma’r oedran y cewch chi ddechrau gyrru car.
    11 - Beth yw chwarter 44?
    15 - Beth yw cyfanswm y bysedd a’r bodiau ar dair llaw?
      2 - Sawl hanner sy’n gwneud un cyfan?
    18 - Faint yw dwsin a hanner?
    24 - Sawl awr sydd mewn diwrnod?

  5. Dywedwch wrth y plant fod dechrau blwyddyn newydd yn rhoi cyfle i ni edrych yn ôl dros y flwyddyn sydd wedi bod, yn union fel y gwnaethom ni ar ddechrau’r gwasanaeth. Fe wnaethom ni gofio am y Nadolig sydd newydd fod, a gweld beth wnaethon ni ei ddysgu yn ystod y flwyddyn. Mae blwyddyn newydd hefyd yn rhoi cyfle llawn cyffro i ni edrych ymlaen at yr holl bethau da rydyn ni’n gobeithio a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ac am yr holl bethau diddorol y byddwn ni’n gallu eu dysgu!

  6. Fe fydd gan rai ohonom atgofion hapus am bethau a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, efallai y bydd rhai ohonom yn cofio am bethau a ddigwyddodd i ni oedd yn ein gwneud i deimlo’n drist. Beth all pob un ohonom ei wneud  er mwyn gwneud y gorau o’r flwyddyn sydd i ddod? Fe allech chi drafod hyn, neu adael y cwestiwn i’r plant feddwl am y peth eu hunain.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Caewch eich llygaid am foment a meddyliwch am y flwyddyn ddiwethaf, ac am yr atgofion sydd gennych chi.
Nawr, meddyliwch am y flwyddyn sydd i ddod.
Oes rhai pethau rydych chi’n bryderus yn eu cylch, neu a oes gennych chi bethau rydych chi’n edrych ymlaen atyn nhw?
Beth allwch chi ei wneud er mwyn gwneud y gorau o’r flwyddyn sydd i ddod i chi eich hunan, er mwyn eich gwaith ysgol, er mwyn eich teulu ac er mwyn eich ffrindiau?

Gweddi
Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn gwybod y cyfan am beth ddigwyddodd i ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,
pa un a oedd y pethau hynny’n bethau da neu’n bethau drwg,
a’i fod yn gwybod beth fydd yn rhaid i ni ei wynebu yn ystod y flwyddyn nesaf yma hefyd.
Fe allwn ni siarad â Duw am y gorffennol, a bod â ffydd hefyd y bydd gyda ni bob cam yn y dyfodol.
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti gyda ni ym mhob sefyllfa.
Diolch na fyddi di byth yn ein gadael ni,
a diolch y byddwn ni’n gallu ymddiried ynot ti trwy gydol y flwyddyn sydd i ddod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon