Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sadrach, Mesach Ac Abednego

Annog y plant i fod yn ddewr a gwrthwynebu rhai sy’n ceisio eu perswadio, trwy eu bwlio, i ddweud pethau dydyn nhw ddim yn cytuno â nhw.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i fod yn ddewr a gwrthwynebu rhai sy’n ceisio eu perswadio, trwy eu bwlio, i ddweud pethau dydyn nhw ddim yn cytuno â nhw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe ddylai’r geiriau allweddol yn y stori yma gael eu hadrodd gan wahanol grwpiau yn y gwasanaeth. Bydd angen i chi ddefnyddio’ch syniadau eich hun ynghylch sut i rannu’r geiriau, efallai fesul dosbarth, neu fesul grwp yn ôl lle mae’r plant yn eistedd. Mae hyn yn rhan bwysig o’r gwasanaeth, o ran canolbwyntio, cydweithio a disgwyliadau, ac efallai y bydd angen ymarfer cryn dipyn.

  • Fe fydd angen i chi hefyd roi’r ddwy restr yma ar dryloywder OHP neu siart droi, fel eich bod yn gallu cynnal yr ymateb pan fyddwch chi’n dod at y rhannau hynny o’r stori. Mae’r rhestr gyntaf yn enwi’r swyddi gweinyddol ym Mabilon ar y pryd, ac mae’r ail yn rhestru offerynnau cerdd.

    Prif Weithredwyr
    Rhaglawiaid
    Llywodraethwyr
    Cynghorwyr
    Trysoryddion
    Ustusiaid
    Ynadon
    Yr holl swyddogion (gall pawb ddweud hyn)

    Utgorn
    Pib
    Telyn fach
    Ffliwtiau
    Drwm 
    Y Band cyfan (gall pawb ddweud hyn)

Gwasanaeth

  1. Eglurwch sut mae’r stori’n gweithio. Rydych chi’n mynd i ddweud y stori, ond pan fyddwch chi’n dod at rannau neilltuol, fe fyddwch chi’n gofyn i’r plant ymuno a dweud y geiriau sy’n ffurfio’r corws o fewn y stori. Gofalwch eu bod yn gwybod pryd maen nhw i fod i adrodd y geiriau, sef pan fyddwch chi’n pwyntio at eu gair nhw ar yr OHP. Trefnwch un ymarfer o leiaf! Fe ddylai redeg fel petai un person yn dweud yr holl eiriau.  Fe allai hyn fod yn dipyn o her!

  2. Felly, gyda thryloywder yr OHP yn ei le, dyma’r stori (o Daniel pennod 3).

    Brenin Babilon oedd y Brenin Nebuchadnesar, a brenin yr holl fyd fel y gwyddai ef amdano. Roedd yn teimlo mor bwysig, roedd wedi dechrau meddwl ei fod yn dduw. Felly, fe drefnodd i gael adeiladu delw aur fawr ohono’i hun. Roedd y ddelw’n anferth! Roedd hi mor fawr, doedd dim lle iddi yn y ddinas, felly fe’i cododd hi ar y gwastadedd y tu allan i’r ddinas. Roedd pawb oedd yn byw ym Mabilon yn gallu ei gweld, a phawb oedd yn byw yn yr ardaloedd o gwmpas y tu allan i furiau’r ddinas hefyd yn gallu ei gweld.

    Galwodd y Brenin Nebuchadnesar ynghyd yr holl bobl oedd yn ei helpu i lywodraethu Babilon. Fe alwodd y

    Prif Weithredwyr
    Rhaglawiaid
    Llywodraethwyr
    Cynghorwyr
    Trysoryddion
    Ustusiaid
    Ynadon
    a’r
    Holl swyddogion


    a rhoi’r gorchymyn yma iddyn nhw: ‘Dywedwch hyn wrth y bobl: pan fyddwch chi’n clywed sain yr

    Utgorn
    Pibgorn
    Telyn fach
    Ffliwtiau
    Drwm
    a’r
    Band cyfan


    rhaid i bawb ymgrymu, ac addoli’r ddelw aur enfawr hon ohonof fi.’
    Felly, fe ddywedodd y 

    Prif Weithredwyr
    Rhaglawiaid
    Llywodraethwyr
    Cynghorwyr
    Trysoryddion
    Ustusiaid
    Ynadon
    a’r
    Holl swyddogion


    wrth y bobl: ‘Mae’r brenin yn gorchymyn: pan fyddwch chi’n clywed sain yr

    Utgorn
    Pibgorn
    Telyn fach
    Ffliwtiau
    Drwm
    a’r
    Band cyfan


    yn chwarae, rhaid i chi ymgrymu, ac addoli’r ddelw aur enfawr hon o’r Brenin Nebuchadnesar.’
    Y diwrnod wedyn, dyma nhw’n clywed yr 

    Utgorn
    Pibgorn
    Telyn fach
    Ffliwtiau
    Drwm
    a’r
    Band cyfan


    ac fe ymgrymodd yr holl bobl, ac addoli’r aur enfawr o’r Brenin Nebuchadnesar. 

    Do, pawb ond tri. Roedd y tri gwr ifanc rheini yn gwybod nad oedd Nebuchadnesar yn dduw. Roedden nhw’n gwybod mai dim ond un Duw oedd yn bod, sef y Duw a wnaeth y nefoedd a’r ddaear, a Duw yn unig roedden nhw’n ei addoli.  Felly doedden nhw ddim yn gallu ymgrymu i’r ddelw aur enfawr yr oedd y Brenin Nebuchadnesar wedi’i chodi. Roedden nhw’n gwybod y byddai’n brenin yn ddig iawn, ond hyd yn oed pan gawson nhw’u llusgo i’r llys, wnaethon nhw ddim newid eu meddwl. Roedden nhw’n gwybod mai peth anghywir oedd addoli delw aur enfawr o’r brenin, a doedden nhw ddim yn mynd i wneud hynny.

  3. Mae’r stori’n parhau … 

    Eglurwch nad yw’r stori’n gorffen yma, ac y byddwch chi’n dweud gweddill y stori y tro nesaf.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Gofynnwch i’r plant eistedd yn dawel, a meddwl am y stori maen nhw newydd ei chlywed.
Beth fydden nhw wedi’i wneud pe bydden nhw’n un o’r gwyr ifanc oedd yn anfodlon addoli’r ddelw?
Oes adegau wedi bod ym mywydau’r plant pan fu’n rhaid iddyn nhw orfod gwrthwynebu rhywbeth yr oedden nhw’n ei feddwl oedd ddim yn iawn?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i sefyll yn gadarn dros yr hyn rydyn ni’n credu ynddo sydd yn gywir ac yn dda.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon