Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy Fyddai’n Hoffi Hufen Iâ?

Ystyried ein gwahaniaethau a dysgu gwerthfawrogi’r amrywiaeth sydd yng nghymuned ein hysgol.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried ein gwahaniaethau a dysgu gwerthfawrogi’r amrywiaeth sydd yng nghymuned ein hysgol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llun o 5 côn hufen iâ: 5 papur gyda siâp côn mawr ar bob papur gyda chylch o bapur lliw ar ben pob un i gynrychioli 5 hufen iâ o liwiau a blas gwahanol – lliw gwyn neu hufen, gwyrdd golau, brown, pinc, ac un arall i awgrymu hufen iâ gyda darnau bach o gnau ynddo.

  • Bwrdd gwyn a phin ffelt neu fwrdd du a sialc.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i chwarae gêm. Gofynnwch am wirfoddolwyr i geisio gorffen y frawddeg:

    Pe byddwn i’n anifail, fe hoffwn i fod yn ....
     
    Fe allech chi baratoi un neu ddau o’r athrawon hefyd o flaen llaw i gymryd rhan mewn ffordd hwyliog, e.e. ‘Pe byddwn i’n anifail, fe hoffwn i fod yn eliffant oherwydd fe fyddai gen i glustiau mawr i glywed pob smic yn y dosbarth.’

  2. Eglurwch nad ydych chi wedi dod ag unrhyw anifail gyda chi heddiw, ond eich bod wedi dod â rhywbeth blasus y gallech chi feddwl amdano. Dangoswch lun y côn hufen iâ blas fanila (lliw gwyn neu hufen) gan actio’i lyfu a’i fwynhau. Gofynnwch i’r plant godi eu dwylo os ydyn nhw’n hoffi hufen iâ. 

    Dangoswch y gwahanol rai, fesul un, a gofynnwch i’r plant awgrymu enw blas pob hufen iâ, e.e. siocled, mint, etc.

  3. Chwaraewch gêm arall debyg i gêm yr anifeiliaid. Dechreuwch gyda brawddeg fel:

    Pe byddwn i’n hufen iâ, fe hoffwn i fod yn hufen iâ gwyrdd, blas mint, oherwydd ….
     
    Fel o’r blaen, gofynnwch am rai i gynnig gorffen y brawddegau. Fe allech chi awgrymu cynigion tebyg i’r rhain i ddechrau, efallai: 

    Hufen iâ gwyrdd, blas mint (oherwydd ei fod yn wyrdd ac rydw innau’n ceisio bod yn wyrdd - rydw i’n hoffi anifeiliaid a phlanhigion ac yn ceisio gofalu am yr amgylchedd). 
    Hufen iâ brown, blas siocled (oherwydd bod pawb yn hoffi siocled a gobeithio bod pawb yn fy hoffi innau).
    Hufen iâ pinc, blas mefus neu fafon (oherwydd fy mod i’n felys ac yn caru’r haf). 
    Hufen iâ gyda darnau bach o gnau ynddo (oherwydd mai’r gair Saesneg am gnau yw ‘nuts’ ac mae fy ffrindiau yn dweud fy mod i’n ‘nuts’) ….

  4. Gofynnwch i’r plant awgrymu sut y gallen nhw ddod o hyd i ba un yw hoff hufen iâ plant eu dosbarth, a phlant yr ysgol? Ym mha ffordd y gallen nhw gofnodi ac arddangos eu canfyddiadau?

    Dewisol: Fe allai pob dosbarth gasglu ac arddangos eu canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd, rhai ar ffurf pictograff syml neu graff bar neu gyfrifo’r canrannau. Fe fyddai hyn yn gwneud arddangosfa dda ar ‘Drafod Gwybodaeth’.

  5. Eglurwch eich bod yn mynd i gofnodi peth gwybodaeth heddiw yn y gwasanaeth. Fel hyn fe fydd hyd yn oed y Dosbarth Derbyn yn gallu trafod gwybodaeth er nad ydyn nhw wedi bod yn yr ysgol am flwyddyn eto. Dewiswch bump o blant o’r dosbarth Derbyn i ddod ymlaen a sefyll yn rhes i wynebu’r gynulleidfa, gan ddal un bob un o’r ‘conau hufen iâ’. 

    Gofynnwch i blentyn arall sut byddai’n bosib cofnodi’r hyn welwn ni. (Os yw hyn yn rhy anodd fe allech chi eu helpu i gofnodi, e.e. gyda’r llythrennau yn ôl y lliw neu’r blas, F, M, S, P, C, (Fanila, Mint, Siocled, Pinc, Cnau).

    Gofynnwch i blentyn arall gofnodi mewn ffordd arall. Efallai y gallai’r plentyn hwnnw eu hail drefnu a’u cofnodi yn nhrefn yr wyddor. 

    Gofynnwch am rywun drefnu’r llythrennau yn ôl y wyddor.

  6. Eglurwch i’r plant fod pob un ohonom yn debyg i hufen iâ, mewn ffordd. Na nid yn toddi ac yn diferu ar dywydd poeth, nac â chalon oer ychwaith, ond fod blas gwahanol i ni i gyd. 

    Mae rhai ohonom ni’n siarp ac yn effro fel y mint. Mae gennym ni egni ac rydym ni bob amser yn loyw ac yn fywiog. 

    Mae rhai ohonom ni’n dywyll fel y siocled, yn felys a llyfn a ‘chwl’. Efallai bod rhai o blant hynaf yr ysgol yn hoffi meddwl eu bod nhw’n ‘cwl’, fel y blas yma!

    Mae rhai ohonom ni’n bêr, fel y mefus a’r mafon. Fe fyddwn ni’n dod i’r ysgol bob dydd â gwên fel yr haf ar ein hwynebau. 

    Mae rhai ohonom ni’n debyg i’r cnau – yn gryf a chadarn, ac efallai ychydig yn ... mae’n debyg y byddai’n well i mi beidio â dweud rhagor!. 

    Ond beth am yr hufen iâ arall? Mae rhai ohonom ni’n debyg i’r hufen iâ blas fanila, yn blaen a chyffredin .... Neu efallai mai dyna ydyn ni’n feddwl .... Wyddoch chi mai hufen iâ blas fanila yw fy hoff hufen iâ i. A phan fydda i’n mwynhau hufen iâ fanila, fydda i byth yn meddwl mai rhywbeth plaen a chyffredin yw’r hufen iâ hwnnw. Mae’n wirioneddol hyfryd!

  7. Eglurwch fod mewn ysgol nifer fawr o wahanol fathau o blant a phobl yn gymysg â’i gilydd. A dyna beth sy’n gwneud ysgol yn lle mor rhyfeddol a diddorol. Dywedwch wrth y plant mai dyna un o’r rhesymau pam y byddwch chi’n edrych ymlaen at gael dychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf. 

    Cofiwch hynny y tro nesaf y byddwch chi’n prynu hufen iâ !

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae’n cymryd pob math i wneud byd.
Meddyliwch am y gwahanol blant yn eich dosbarth - mae wynebau gwahanol ganddyn nhw, a doniau gwahanol, ac mae pawb yn hoffi pethau gwahanol ac mae’r amrywiaeth hwn yn gwneud y dosbarth yn lle diddorol. 
Pa fath o hufen iâ ydych chi?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n hoffi amrywiaeth. 
Diolch dy fod ti wedi gwneud gwahanol anifeiliaid, gwahanol goed, ac wedi gwneud y tymhorau i fod yn wahanol …
a hyd yn oed wedi rhoi gwahanol flas i wahanol hufen iâ. 
Helpa fi i fod yn falch o fod yr un yr ydw i.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon