Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod Yn Ddewr

Meddwl am yr adegau pan fyddwn ni’n ddig, yn gofidio, neu ofnus – at bwy y gallwn ni droi am help?

gan Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am yr adegau pan fyddwn ni’n ddig, yn gofidio, neu ofnus – at bwy y gallwn ni droi am help?

Paratoad a Deunyddiau

  • Ceisiwch gael hyd i fersiwn ar gyfer plant o’r hanes am Iesu’n gostegu’r storm (Marc 4.35–40).
  • Os byddwch chi am ddewis meimio’r stori (rhif 3), trefnwch sut y bydd y plant yn actio hyn. Fe allech chi edrych ar yr adran adnoddau (resources) ar wefan SPCK using drama in assemblies am ragor o wybodaeth ar wneud gweithgareddau dramatig mewn gwasanaethau.
  • Fe fydd arnoch chi angen rhywfaint o gerddoriaeth dawel ar gyfer yr Amser i Feddwl.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant roi eu dwylo i fyny os ydyn nhw ryw dro wedi teimlo ofn rhywbeth.

    Efallai yr hoffech chi dderbyn atebion gan rai o’r plant, ond byddwch yn ofalus rhag i chi gael rhai plant yn cyfeirio at sefyllfaoedd anodd yn y cartref, neu sefyllfaoedd gwir frawychus.

    Fe fydd llawer o blant yn awyddus i sôn am angenfilod a tharanau, etc. Os gallwch chi, gofynnwch i rai o’r athrawon gyfaddef beth maen nhw’n ei ofni, mae’r plant yn mwynhau hynny!

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i adrodd stori o’r Beibl, o’r Testament Newydd (llyfr arbennig i Gristnogion), lle’r ysgrifennodd awdur o’r enw Marc hanes bywyd Iesu Grist. Ac mae’r stori neilltuol yma am adeg pan oedd ffrindiau Iesu ag ofn mawr arnyn nhw.

  3. Pysgotwyr oedd rhai o ffrindiau agosaf Iesu. Roedden nhw wedi arfer bod allan ar y môr yn eu cychod pysgota, yng nghanol gwyntoedd a stormydd. Ond ar yr adeg neilltuol yma yn y stori, ar lyn yr oedden nhw, yng Ngalilea - llyn mewn lle hyfryd iawn - ond llyn mawr er hynny. Roedd yn llyn mor fawr roedd yn debyg iawn i fôr. Ac fel roedden nhw’n hwylio ar y llyn hwnnw yng Ngalilea, fe gododd yn storm sydyn. Ydych chi wedi cael eich dal mewn storm sydyn erioed? Mae’n gallu bod y beth brawychus, ond fe fyddai’n hynod o frawychus pe byddech chi’n digwydd bod mewn cwch allan ar y môr. A'r diwrnod hwnnw pan gododd y storm ar lyn Galilea roedd Iesu yno gyda’i ffrindiau, sef y disgyblion. Ond roedd Iesu’n cysgu ym mhen draw’r cwch.

    Roedd ofn mawr ar y disgyblion, roedden nhw mor bryderus fe wnaethon nhw ysgwyd Iesu a’i ddeffro, gan ddweud wrtho: ‘Wyt ti ddim yn poeni ein bod ni i gyd yn mynd i foddi?’

    Yr unig beth a wnaeth Iesu oedd codi ar ei draed a gorchymyn i’r gwynt ostegu a’r tonnau gwyllt lonyddu - a dyna ddigwyddodd. Roedd y disgyblion wedi rhyfeddu, ac roedden nhw’n holi ei gilydd: ‘Pwy ynteu yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo!’

    Roedden nhw’n holi pwy yn union oedd y dyn yma o’r enw Iesu?

    Dewisol: Fe allech chi gael y plant i actio neu feimio’r stori wrth i chi ei hadrodd. Fe allen nhw bortreadu’r cymeriadau a hyd yn oed y gwynt a’r tonnau trwy greu symudiadau ac effeithiau sain.

  4. Felly, mae Cristnogion yn credu os byth y byddan nhw’n teimlo’n ofnus am unrhyw beth, mae’n bosib iddyn nhw feddwl am hanes Iesu’n gostegu’r storm. Mae’n eu hatgoffa bod Iesu gyda nhw bob amser ac fe fydd yn gofalu amdanyn nhw waeth pa mor bryderus y byddan nhw.

    Dewisol: Trafodwch gyda’r plant beth ddylen nhw’i wneud os ydyn nhw’n pryderu am unrhyw beth yn yr ysgol. Cyfeiriwch at bolisïau bugeiliol yr ysgol a’r dulliau sy’n weithredol i atal bwlio, os yw hynny’n briodol.

Amser i feddwl

Myfyrdod

(Chwaraewch gerddoriaeth dawel.)
Weithiau mae stormydd yn curo o’r tu mewn i  ni.
Dicter …
Pryder …
Ofn …
Mae’n gallu bod yn anodd weithiau i fod yn ddigon dewr i ddweud wrth rywun pan fydd gennym ni broblemau. Ond mae bob amser yn well rhannu ein gofidiau. Yn aml, fe fydd hynny’n helpu i ‘dawelu’r storm’ sydd y tu mewn i ni.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Helpa ni pan fydd pethau’n anodd i ni a phan fyddwn ni’n teimlo storm y tu mewn i ni.
Helpa ni i fod yn ddewr, fel y gallwn ni siarad â rhywun fyddai’n gallu ein helpu ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon