Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod Yn Wahanol

gan Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddathlu a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau sydd rhwng pobl â’i gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Beibl y Plant neu unrhyw fersiwn o’r Beibl sy’n benodol ar gyfer plant, neu fe allech chi adrodd y stori yn eich geiriau eich hun o Lythyr Paul at y Rhufeiniaid 12.4–5.
  • Torth ffres newydd ei chrasu - yn dal yn gynnes os yn bosib.
  • Bag siopa o archfarchnad yn cynnwys gwahanol gynhwysion ar gyfer crasu bara: burum, bag o flawd, halen, siwgr, potel o ddwr, etc.
  • Bwrdd torri bara a chyllell fara (wedi’i lapio’n ddiogel). Does dim angen y gyllell os gallwch chi gael bara Ffrengig y mae’n bosib ei dorri â’ch dwylo.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod chi heddiw’n mynd i feddwl am fod yn wahanol. Mae’n beth gwych fod pobl yn wahanol. Trafodwch gyda’r plant a oes unrhyw ddau o’r un enw yn eu dosbarth, ac a ydyn nhw’n debyg i’w gilydd? Hyd yn oed os yw eu henwau'r un fath, does dim dau yn union yr un fath.

  2. Dywedwch wrth y plant eich bod wedi bod yn siopa cyn dod i’r ysgol heddiw – fyddai rhywun yn hoffi gweld beth sydd gennych chi yn eich bag siopa? Gofynnwch i rai o’r plant eich helpu i dynnu’r pethau o’r bag fesul un, blawd, burum etc. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod beth yw pob un o’r pethau, gofynnwch i weddill y plant eu helpu os oes angen. Pan fydd gennym ni nifer o wahanol bethau y byddwn ni’n eu cymysgu gyda’i gilydd i wneud rhywbeth i’w fwyta, beth fyddwn ni’n galw’r pethau hynny? Cynhwysion.

  3. Mae pob un ohonom ni yn wahanol fel mae’r holl gynhwysion yn wahanol, ond mae’n bosib i bob un ohonom ni ddod at ein gilydd i wneud un peth.

  4. Eglurwch eich bod yn mynd i ddarllen darn o’r Testament Newydd (llyfr arbennig y Cristnogion). Llythyr yw’r darn gan Paul, un o arweinwyr yr eglwys Gristnogol gynnar, at yr eglwys yn Rhufain. Darllenwch (neu arall eiriwch) Rhufeiniaid 12.4–5. Fe ddywedodd fod nifer o wahanol rannau i’r corff, ond maen nhw i gyd yn perthyn i’w gilydd, ac mae pob un yn bwysig.

  5. Mae hyn yn debyg rywsut i’r gwahanol gynhwysion sydd gennym yma; maen nhw i gyd, ar ôl eu rhoi gyda’i gilydd, yn gwneud rhywbeth arbennig. Oes rhywun yn gallu dyfalu beth fyddai’r cynhwysion oedd gennych chi yn eich bag yn ei wneud wedi i chi eu cymysgu gyda’i gilydd? Dangoswch y dorth ffres. Rydym angen yr holl bethau gyda’i gilydd: heb y dwr, fe fyddai’r toes yn sych; heb y blawd, fyddai gennych chi ddim torth o gwbl; heb y mymryn lleiaf o halen, fyddai’r dorth ddim mor flasus; heb y burum, fyddai’r toes ddim yn codi’n ysgafn ac fe fyddai eich torth yn hollol fflat! Mae angen pob un o’r cynhwysion iddyn nhw wneud eu gwaith yn iawn a gwneud torth berffaith.

    Fe allech chi ddefnyddio’r gyllell i dorri tafell o’r bara, neu dorri darn â’ch llaw, yna gofyn i ddau blentyn ddod i brofi’r bara a rhoi eu sylwadau ar y blas, (gofalwch ei bod hi’n iawn i chi wneud hyn yn ôl polisi’r ysgol ar fwyd).

  6. Mae Cristnogion yn credu mai dyma sut yr hoffai Duw i bethau fod yn ein byd. Fe wnaeth bobl o bob math, gwahanol genhedloedd, gwahanol liw, gwahanol siâp a gwahanol faint. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi bwriadu iddyn nhw rannu’r byd a greodd ar eu cyfer iddyn nhw gael byw ynddo. Mae’n bwysig ein bod i gyd yn wahanol - mae Duw wedi bwriadu i ni fod felly..

  7. Hyd yn oed yma yn yr ysgol hefyd, mae pawb yn wahanol: mae rhai yn dda am chwarae pêl-droed, rhai yn dda am ddarllen, rhai yn gallu chwarae offerynnau cerdd, eraill yn dda am actio, a rhai yn dda am helpu, etc. Pawb yn wahanol, ond pob un yn arbennig a phob un yn rhan bwysig o’r ysgol.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Edrychwch ar eich bawd. Does neb arall yn y byd â’r un ôl bysedd â chi. Mae print eich bawd a’ch bysedd yn hollol unigryw i chi. Mae bawd pob un yn y byd yn wahanol, felly mae pob dyn a dynes, pob merch a bachgen, yn y byd yn wahanol i’w gilydd!

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein holl wahaniaethau, yma yn yr ysgol hon.
Diolch dy fod wedi creu byd cyfan yn llawn o bobl wahanol.
Helpa ni wybod fod hyn yn gwneud ein byd yn lle hardd a diddorol i ni fyw ynddo
am ein bod ni i gyd yn arbennig yn dy olwg di.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon