Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llysiau Hud

Archwilio’r syniad ein bod, yn ein bywydau, yn medi'r hyn rydyn ni’n ei hau.

gan Josh Carter

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad ein bod, yn ein bywydau, yn medi'r hyn rydyn ni’n ei hau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Y deunyddiau y byddwch chi eu hangen: 6 o ffrwythau neu lysiau (awgrymiadau: moronen, panasen, betysen, banana, oren, cneuen goco); cynhwysydd neu fwced mawr; pridd neu gompost (digon i lenwi’r cynhwysydd); 3 paced o hadau sy’n cyfateb i’r 3 llysieuyn cyntaf sydd gennych chi; can dyfrio gyda dwr ynddo.

  • Bydd y math o ffrwythau a llysiau sydd wedi’u rhestru uchod yn gweithio’n dda. Fe allan nhw fod yn unrhyw beth, cyn belled â bod y llysiau’n llysiau gwraidd, sef rhai sy’n tyfu fel rheol yn y pridd o dan y ddaear, a’r ffrwythau yn rhai sydd ddim yn tyfu yn y pridd.

  • Cyn y gwasanaeth, bydd yn ofynnol i chi guddio’r holl ffrwythau a llysiau yn y pridd, fel na fydd neb yn ymwybodol eu  bod yno o flaen llaw. Trefnwch fod y llysiau a’r ffrwythau yn cael eu cuddio yn y pridd yn y fath fodd fydd yn eich helpu yn ystod y gwasanaeth, h.y. fel bod y rhai sy’n arfer tyfu mewn pridd yn cael eu cuddio yng ngwaelod y cynhwysydd, a’r tri ffrwyth yn nes i’r wyneb ond o’r golwg er hynny. Mae’n werth ymarfer o flaen llaw yr hyn rydych chi’n mynd i’w ddangos yn y gwasanaeth, cyn i chi ei ddangos i’r plant.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod chi heddiw’n mynd i wneud rhywfaint o arddio - rydych chi’n mynd i blannu hadau. ‘Heuwch’ ychydig o’r tri math o hadau yn y bwced neu’r cynhwysydd, e.e. moron, pannas, betys. Gofalwch bod y plant yn gwybod pa fath o hadau rydych chi’n eu plannu, pa fath o lysiau y byddech chi’n debygol o fod yn disgwyl eu gweld yn tyfu.

  2. Yna, rhowch ddwr i’r hadau yn y pridd - ‘dwr hud!’ Eglurwch mai dwr arbennig yw hwn sy’n gallu cyflymu’r broses dyfu fel na fydd yn rhaid i chi aros am wythnosau i’r llysiau dyfu.

    Gofynnwch i’r plant eich atgoffa o hadau pa lysiau y gwnaethoch chi eu ‘plannu’, ac yna dywedwch eich bod yn mynd i edrych a yw’r dwr hud wedi gwneud ei waith.

  3. Mae’n debyg yr hoffech chi ymarfer y rhan hon o flaen llaw. Rydych chi nawr yn mynd i fedi’r cnwd. Ond yr hyn y byddwch chi’n eu tynnu o’r pridd yw’r pethau na wnaethoch chi eu plannu yno gyda’r plant, e.e. banana, oren a chneuen goco. Bob tro y byddwch chi’n tynnu’r rhain allan, fesul un, smaliwch eich bod yn methu deall beth sydd wedi digwydd. Mae hyn yn syndod mawr i chi, ac fe fyddwch chi’n dweud fod rhywbeth o’i le ar y ‘dwr hud’, mae’n debyg!

  4. Eglurwch i’r plant gymaint o syndod a gawsoch chi wrth ‘gynaeafu’ rhywbeth na wnaethoch chi ei blannu. Yn naturiol, mae’n amhosib plannu hadau moron a chynaeafu bananas, neu hau hadau pannas a chael orennau. Mae’r un peth yn wir am ein bywydau ninnau. Allwn ni ddim medi neu gynaeafu rhywbeth nad ydym wedi’i blannu.

  5. Rhowch enghreifftiau o fywyd bob dydd ac o’r ffordd y byddwn ni’n ymddwyn o ddydd i ddydd. Efallai y gallech chi gynnwys profiad personol yma a sôn am rywbeth a ddigwyddodd i chi eich hun. Cofiwch gynnwys enghreifftiau cadarnhaol yn ogystal ag enghreifftiau negyddol. 

    Gwenu: os byddwn ni’n meddwl nad oes neb byth yn gwenu arnom ni, meddyliwch pa mor aml y byddwch chi’n gwenu ar bobl eraill. 
    Gweithio’n galed yn yr ysgol: os gwnawn ni weithio’n galed, yna fe fyddwn ni’n medi’r wobr o fod wedi dysgu pethau newydd ac yn cael canlyniadau da yn y profion. 
    Os ydyn ni’n garedig wrth eraill, fe fydd pobl eraill yn garedig wrthym ninnau. Ond os byddwn ni’n gas wrth ein gilydd, tybed beth fydd yn digwydd?

  6. Nawr, rhowch ragor o’r 'dwr hud' i’r hadau a chynaeafu yn awr y llysiau y dylech chi fod wedi’u cael yn y lle cyntaf, o’r hadau a blannwyd, Dyna welliant! 

Amser i feddwl

Myfyrdod
Ym myd natur, rydych chi’n medi'r hyn rydych chi’n ei hau.
Allwch chi ddim hau hadau gwair a disgwyl cael afalau pîn.
Yn eich bywydau, rydych chi’n medi'r hyn rydych chi’n ei hau.
Allwch chi ddim bod yn gas wrth bobl eraill trwy’r amser ac yna disgwyl iddyn nhw fod yn garedig wrthych chi.
Beth wnewch chi ei hau heddiw? Caredigrwydd, tynerwch, hwyl …?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i gofio ein bod ni, yn ein bywydau, yn medi'r hyn y byddwn ni’n ei hau.
Helpa ni i roi hyn ar waith pan fyddwn ni gyda’n ffrindiau, gartref, neu yn yr ysgol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon