Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cynhaeaf

Darparu cyflwyniad dosbarth syml ar gyfer plant ifanc. Diolch am fwyd, a chreu ymwybyddiaeth am y rhai sy’n ymwneud â darparu ein bwyd.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Darparu cyflwyniad dosbarth syml ar gyfer plant ifanc. Diolch am fwyd, a chreu ymwybyddiaeth am y rhai sy’n ymwneud â darparu ein bwyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae geiriau’r gân i’w canu ar y diwn, ‘Mae’r ffermwr eisiau gwraig’ neu ‘The farmer’s in his den’.

  • Mae’n debyg y bydd angen rhywfaint o ymarfer os ydych chi am gyflwyno’r gwasanaeth fel cyflwyniad dosbarth.  Gallwch baratoi gwisgoedd mor syml neu mor wych ag y mynnwch chi,  yn ôl fel mae amser ac adnoddau’n caniatáu. Gallai unigolion neu grwpiau ddod ymlaen fesul pennill i ddarlunio’r symudiadau, neu fe allai pawb feimio’r symudiadau gyda’i gilydd.

Gwasanaeth

Cyflwynwch y gân a gofynnwch i’r plant wrando’n ofalus, i weld a fyddan nhw’n gallu cofio beth sy’n digwydd cyn i’r bara ddod ar ein bwrdd bwyd. 

Mae’r ffermwr yn plannu’r had, mae’r ffermwr yn plannu’r had,
Hei - ho, hei - ho, mae’r ffermwr yn plannu’r had.

O’r awyr daw y glaw, o’r awyr daw y glaw,
Hei - ho, hei - ho, o’r awyr daw y glaw.

Mae’n helpu’r hadau dyfu, mae’n helpu’r hadau dyfu,
Hei - ho, hei - ho, mae’n helpu’r hadau dyfu.

Allan daw yr haul, allan daw yr haul,
Hei - ho, hei - ho, allan daw yr haul.

Dacw’r yd yn tyfu, dacw’r yd yn tyfu,
Hei - ho, hei - ho, dacw’r yd yn tyfu.

Mae’n aeddfedu yn yr haul, mae’n aeddfedu yn yr haul,
Hei - ho, hei - ho, mae’n aeddfedu yn yr haul.

Mae’r ffermwr yn torri’r yd, mae’r ffermwr yn torri’r yd,
Hei - ho, hei - ho, mae’r ffermwr yn torri’r yd.

Mae’r melinydd yn malu’r grawn, mae’r melinydd yn malu’r grawn,
Hei - ho, hei - ho, mae’r melinydd yn malu’r grawn.

Mae’n malu’r grawn yn flawd, mae’n malu’r grawn yn flawd,
Hei - ho, hei - ho, mae’n malu’r grawn yn flawd.

Mae’r pobydd yn mynd â’r blawd, mae’r pobydd yn mynd â’r blawd,
Hei - ho, hei - ho, a’i bobi’n dorth o fara.

Yna, mae’n mynd â’r dorth i’r siop, mae’n mynd â’r dorth i’r siop,
Hei - ho, hei - ho, mae’n mynd â’r dorth i’r siop.

Fe brynwn ninnau’r dorth, fe brynwn ninnau’r dorth,
Hei - ho, hei - ho, fe brynwn ninnau’r dorth.

Cawn fwyta darn o’r dorth, cawn fwyta darn o’r dorth,
Hei - ho, hei - ho, cawn fwyta darn o’r dorth.

Diolchwn i Dduw am y bara, diolchwn i Dduw am y bara,
Hei - ho, hei - ho, diolchwn i Dduw am y bara.

Edrychwch i weld a yw’r plant yn gallu cofio trefn yr hyn sy’n digwydd yn y gerdd a chanwch y gân unwaith eto gyda phawb yn uno yn y canu.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Meddyliwch am dafell o fara ffres hyfryd.
Allwch chi gofio sut y daeth y dafell o fara i fod?

Gweddi
Rydym yn diolch am y ffermwyr sy’n tyfu’r bwyd i ni,
am yr hadau sy’n tyfu’n blanhigion,
am y dafnau glaw sy’n eu dyfrio,
ac am yr heulwen sy’n aeddfedu’r grawn.
Rydym yn diolch i ti, Dduw, am ein bara,
ac yn diolch am y bobl hynny sy’n gweithio’n galed
i ddod â’r bara i’n bwrdd bwyd ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon