Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ydyn Ni Yno Eto?

Helpu’r plant i ddeall fod yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar y ffordd mor bwysig â phen y daith.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall fod yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar y ffordd mor bwysig â phen y daith.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai darnau o waith plant sydd newydd ddechrau yn y Dosbarth Derbyn, fel lluniau, patrymau, rhai llythrennau wedi’u hysgrifennu neu efallai enghraifft o blentyn wedi ysgrifennu ei enw.

  • Os yn bosib, rhai darnau o waith plant sydd wedi gadael yr ysgol cyn gwyliau’r haf: amrywiaeth o ysgrifen, lluniau, gwaith mathemateg ac ati. Neu os nad oes gennych chi enghreifftiau felly, dangoswch enghreifftiau o waith plant hynaf yr ysgol ar hyn o bryd.

  • Siart troi, bwrdd gwyn neu unrhyw gyfrwng arall i nodi’r frawddeg gudd a’r cod i’w datrys (gwelwch rhif 3). Gallwch baratoi’r allwedd i’r cod: 1-E, 2-D, 3- I, 4-N, 5-O, 6-T, 7-Y.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant feddwl am daith y buon nhw arni ryw dro, efallai ar wyliau neu daith arbennig i le arbennig, gan deithio mewn car neu ar gludiant cyhoeddus. Mae’n debyg eu bod wedi edrych ymlaen am gyfnod cyn y daith. Efallai eu bod wedi helpu i bacio’r cesys, i lwytho’r car, neu i fynd o gwmpas y ty i ofalu nad oedden nhw wedi gadael unrhyw beth pwysig ar ôl. Mwy na thebyg hefyd y bydden nhw wedi cychwyn ar y daith yn teimlo’n llawn cyffro, yn canu efallai, ac yn chwerthin, ac mewn hwyliau da. Ydi’r plant yn cytuno â chi mai felly yr oedd hi?

  2. Holwch y plant am awgrymiadau ar beth fydd plant yn ei wneud i ddifyrru eu hunain ar siwrneiau hir.

  3. Dywedwch wrth y plant fod un frawddeg, pedwar gair, sydd wedi cael ei dweud sawl tro mewn sawl cerbyd sy’n cario plant at deithiau hir. (Pedwar gair sydd yn y frawddeg yn Saesneg hefyd fel mae’n digwydd.) Mae’r rhain yn eiriau sy’n cael eu dweud mewn llais braidd yn gwynfanllyd, ac yn aml fe fyddan nhw’n cael eu dweud pan fydd pawb yn teimlo’n flinedig. Oes gan rywun syniad beth yw’r geiriau? (Gofynnwch i’r plant sy’n gallu dyfalu beth yw’r frawddeg gadw’n dawel am y tro.) Ond dyma gliwiau i’w helpu i ddarganfod beth yw’r geiriau. 

    Ysgrifennwch y frawddeg mewn cod rhifau ar eich siart troi neu fwrdd gwyn, fel hyn :  7274  43  745  165? 

    Gan ddefnyddio’r allwedd : 1-E,  2-D,  3- I,  4-N,  5-O,  6-T,  7-Y, a help gan y plant yn y gynulleidfa, yn raddol fesul llythyren byddwch yn datrys y cod, ac yn gweld beth yw’r frawddeg sydd gennych chi. 

    Eich brawddeg fydd : YDYN NI YNO ETO?

    Oes rhywun o’r plant, ryw dro, wedi gofyn y cwestiwn hwn i’w rhieni neu’r oedolion eraill sydd yn y cerbyd gyda nhw, wrth fynd ar siwrnai hir?

  4. Mae dywediad gan rai pobl sy’n dweud : 'Peidiwch ag anghofio mwynhau’r golygfeydd ar y ffordd.' Gofynnwch i’r plant allan nhw awgrymu beth mae hyn yn ei olygu. Bydd rhai sy’n hoffi mynd ar deithiau cerdded neu deithiau beic yn gallu uniaethu â’r datganiad hwn.

  5. Eglurwch i’r plant fod ein bywyd yn yr ysgol fel taith hir. Yn achos y rhan fwyaf ohonom fe fydd y daith honno’n parhau am (X) o flynyddoedd (sef y nifer o flynyddoedd y bydd y plant yn eich ysgol chi), gyda sawl cyfnod o wyliau yn ystod y blynyddoedd rheini. Mae rhai plant sydd yn y gynulleidfa dim ond newydd ddechrau ar y siwrnai hir trwy’r ysgol, a dim ond nawr maen nhw’n dechrau dysgu’r holl bethau sy’n mynd i’w helpu ar eu ffordd. 

    Dangoswch beth o waith y plant yma o’r Dosbarth Derbyn neu flwyddyn gyntaf yr ysgol, a rhowch ganmoliaeth fawr i’r rhai sydd wedi gwneud y gwaith.

    Atgoffwch y plant am y rhai hynny oedd yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn flaenorol, ond sydd nawr wedi mynd yn eu blaenau i ysgol arall ac addysg uwchradd. Roedden nhw wedi cyrraedd y cam ‘YNO’ o’r frawddeg ‘Ydyn ni yno eto?' Dangoswch beth o’r gwaith y maen nhw wedi’i adael ar ôl, y gwaith yr oedden nhw wedi dysgu ei wneud erbyn yr  adeg yr oedden nhw’n ymadael.

    Roedden nhw wedi cyrraedd 'YNO'. Roedd popeth roedden nhw’i angen ganddyn nhw i symud ymlaen i’r ysgol uwch. Roedd y cyfarpar iawn ganddyn nhw erbyn hyn. Fe fydden nhw’n cael profiadau newydd gwych. Efallai na fyddan nhw ar wyliau, ond fe fydd yn brofiad gwych iddyn nhw. Dywedwch wrth y plant y byddan nhw hefyd i gyd yn cyrraedd y cam hwnnw ryw dro, hyd yn oed y rhai bach sydd newydd ymuno â theulu’r ysgol o'r newydd eleni.

  6. Eglurwch nad dim ond dechrau a diwedd taith sy’n bwysig. Mae pob dydd yn gallu dod â rhyw brofiad newydd i chi. Bob dydd, fe fydd eich athrawon yn sylwi eich bod chi’n gallu gwneud rhywbeth o’r newydd. Efallai bod eich sgiliau darllen yn gwella, neu fod eich sgiliau ysgrifennu’n datblygu, efallai eich bod yn gallu cydweithio ag eraill yn well, efallai eich bod yn fwy parod i rannu, neu efallai eich bod yn sylwi mwy ar yr hyn sy’n mynd ymlaen o’ch cwmpas. 

    Efallai nad ydyn ni yno eto, ond gadewch i ni fwynhau’r hyn sy’n mynd ymlaen o’n cwmpas ni ar hyd y ffordd. 'Peidiwch ag anghofio mwynhau’r golygfeydd ar y ffordd.'

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Beth alla i ei wneud heddiw doeddwn i ddim yn gallu ei wneud yr adeg yma llynedd?
Ym mha ffyrdd y byddaf yn disgwyl gwella fy sgiliau eleni? 
Beth fydd fy nharged, heddiw, ar gyfer gwella rhywfaint ar fy sgiliau?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Yn union fel y gwnest ti fy nghreu yn fabi bach,
ond gyda’r potensial i dyfu’n rhywun mawr a chryf,
felly y gwnest ti fy nghreu i gyda’r potensial mawr i ddysgu llawer o bethau rhyfeddol. 
Helpa fi i ddysgu bod yn ddoeth ac yn gallu deall.
Helpa fi i ddysgu sgiliau. 
Helpa fi i ddysgu sut i garu ac i fod â chalon ddiolchgar.
Helpa fi i fwynhau heddiw a phob diwrnod fel rhan o daith bywyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon