Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Yr Holl Saint

Egluro pam fod yr Eglwys Gristnogol yn dathlu Gwyl yr Holl Saint (1 Tachwedd).

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Egluro pam fod yr Eglwys Gristnogol yn dathlu Gwyl yr Holl Saint (1 Tachwedd).

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pâr o adenydd angel neu dylwythen deg o wisg drama, neu eurgylch (fe allech chi wneud un felly trwy lapio cylch o dinsel i’w ffitio am y pen).

  • O leiaf un rholyn o wlân cotwm – fe allech chi ddefnyddio rhagor, i ddarlunio awyr gymylog.

Gwasanaeth

  1. Trafodwch y syniad o beth yw sant, ac enwch rai seintiau: Dewi Sant, er enghraifft, ac efallai’r seintiau hynny sy’n gysylltiedig ag eglwysi yn eich ardal. Holwch y plant oes ganddyn nhw syniad sut rai oedd y seintiau, o ran pryd a gwedd.  Efallai ein bod yn meddwl am sant fel rhywun sydd bob amser yn berffaith a byth yn gwneud unrhyw beth o’i le. Neu, efallai ein bod yn meddwl eu bod yn bobl arbennig iawn, sydd wedi byw er mwyn Duw trwy gydol eu hoes, ac mai dyna pam rydyn ni’n eu cofio, fel Deiniol Sant, Beuno Sant, neu Seiriol, Cybi, Illtud, Teilo neu Sant Mihangel (pa seintiau bynnag y bydd y plant yn gyfarwydd â nhw o gyd-destun lleol), heb anghofio Santes Melangell a Santes Dwynwen.

  2. Dywedwch eich bod wedi dod â rhyw bethau gyda chi heddiw sy’n awgrymu sut y mae rhai pobl yn meddwl am y seintiau weithiau, ac yn dychmygu sut rai oedden nhw. Gofynnwch i un o’r plant wisgo’r adenydd a’r eurgylch, ac efallai y gallech chi ofn i ddau arall ddadrolio’r gwlân cotwm er mwyn cyfleu cefndir o gymylau. 

    Fel yma y mae rhai pobl yn meddwl am seintiau, fel bodau sy’n hofran uwch y cymylau, mewn byd braf yn edrych yn hardd a hapus!

  3. Ond mae Cristnogion yn meddwl am seintiau mewn ffordd hollol wahanol i hyn. Mae’r Beibl yn sôn am y bobl yn yr eglwys neu’r capel, fel ‘seintiau’. Gofynnwch i’r rhai sy’n eich helpu, dynnu’r adenydd a’r eurgylch a rhoi’r gwlân cotwm o’r neilltu, a sefyll o flaen y gynulleidfa heb y pethau hyn. Yn wir, mae’n bosib i sant neu seintiau edrych yn hollol yr un fath â chi neu fi.

  4. Bob wythnos, mewn eglwysi, bydd Cristnogion ledled y byd yn dweud yn uchel yn ystod eu gwasanaeth wrth addoli, yr hyn maen nhw’n ei gredu, (yn debyg iawn i’n gwasanaeth ni yn yr ysgol). Yn yr eglwys, neu’r capel, y mae Cristnogion yn dod ynghyd. Maen nhw’n canu ac yn gweddïo ac yn gwrando ar ddarlleniadau o’r Beibl gyda’i gilydd, ac yn aml yr eglwys fe fyddan nhw’n dweud y Credo gyda’i gilydd (datganiad yw’r Credo o’r hyn y mae Cristnogion yn ei gredu). Mae un rhan o’r Credo yn dweud, ‘Credaf yng nghymun y saint’. Mae hyn yn golygu bod y bobl hynny sydd wedi marw yn dal mewn cysylltiad â phobl ar y ddaear. Maen nhw’n credu pan fydd Cristnogion yn gweddïo yma ar y ddaear, y bydd y seintiau yn y nefoedd yn gweddïo hefyd.

  5. Unwaith y flwyddyn, mae’r Eglwys yn dathlu diwrnod Gwyl yr Holl Saint. Ar y diwrnod hwnnw bydd Cristnogion yn cofio am y seintiau sydd wedi rhoi esiampl yn eu bywydau o sut y mae dilyn y ffordd yr oedd Iesu Grist yn ei dysgu i ni.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Caewch eich llygaid a meddyliwch am bobl rydych chi’n eu hadnabod.
Os rhai ohonyn nhw y gallech chi feddwl amdanyn nhw fel seintiau – pobl sy’n garedig, ac yn helpu pobl eraill?
Allwch chi fod yn fath o sant eich hun?
Sut byddech chi’n gwneud hynny?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch am fywydau’r seintiau.
Helpa ni i ddysgu oddi wrthyn nhw,
a dilyn eu hesiampl dda.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon