Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd Y Cofio

Meddwl am rai sydd wedi rhoi eu bywydau yn aberth fel y gallwn ni fyw ein bywydau mewn byd diogel, a chofio am y bobl hynny.

gan Penny Hollander

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am rai sydd wedi rhoi eu bywydau yn aberth fel y gallwn ni fyw ein bywydau mewn byd diogel, a chofio am y bobl hynny.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen sawl pabi coch a thun casglu arian gan y Lleng Brydeinig.

  • Dewisol: sawl tusw bach o flodau (gwelwch rhif 1).

  • Fe fyddai’n bosib i rai o’r plant ddarllen gwahanol rannau’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Yn aml iawn, fe fydd blodau’n cael eu cyflwyno fel rhodd i gofio am ben-blwydd neu  achlysuron arbennig eraill, fel priodas neu Sul y Fam, ac ati.  Mae’r neges sy’n mynd gyda’r blodau fel rheol yn dweud: ‘Diolch yn fawr’, ‘Rwy’n cofio amdanat’, neu ‘Rwyt ti’n arbennig’.

    Fe allech chi drefnu bod gennych chi sawl tusw bach o flodau i nifer o blant eu dal i chi ar ddechrau’r gwasanaeth fel hyn, er mwyn cynrychioli gwahanol achlysuron y byddwn ni’n cyflwyno blodau i rywun. Treuliwch funud neu ddau yn sôn am yr achlysuron ac am y blodau sy’n cael eu dewis.

  2. Tua dechrau mis Tachwedd fe fyddwn ni’n gweld pobl yn gwisgo blodyn o fath arall. Nid yw’r blodyn hwnnw’n tyfu ym mis Tachwedd yn y wlad hon, ond ar y strydoedd, yn y siopau, ar orsafoedd  trên ac mewn ysgolion, fe fyddwn ni’n gweld fersiwn papur o’r blodau yma’n cael eu gwerthu i bobl eu gwisgo ar eu siwmper, eu siaced, neu eu cot. Pam?

    Gallwch ofyn i ddau blentyn ddal bocs o’r rhain - y pabi coch - a’r blwch casglu arian. Derbyniwch atebion y plant gan ymestyn y drafodaeth os oes angen.

    Rydyn ni’n gwneud hyn i gofio am y rhai hynny sydd wedi marw mewn rhyfel, rhai a roddodd eu bywydau er mwyn gofalu ein bod ni heddiw yn cael byw mewn gwlad rydd. Rydyn ni’n cofio am y bobl hynny fu’n brwydro mewn rhyfeloedd er ein mwyn ni ac er mwyn ein dyfodol ni. Yn ystod brwydro gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llawer o gaeau yn feysydd brwydrau ac roedd y cynefinoedd yno wedi’u difetha, a’r bywyd gwyllt wedi ei ddistrywio. Yn Fflandrys, neu Wlad Belg, lle lladdwyd miloedd o bobl, y blodyn cyntaf i dyfu unwaith eto ar y caeau ar ôl y dinistr oedd y pabi coch. Mae’r pabi wedi cael ei ddefnyddio ers hynny i’n hatgoffa ni o’r rhyfel ofnadwy hwnnw, ac am y rhai hynny a fu farw bryd hynny fel ein bod ni heddiw, yn y wlad hon, yn gallu cael bywyd mwy diogel a rhydd.

    Ar yr unfed awr ar ddeg, o’r unfed dydd ar ddeg, o’r unfed mis ar ddeg, yn y flwyddyn 1918, fe arwyddwyd y cadoediad, neu’r cytundeb heddwch. Roedd hyn yn dynodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Am 11 o’r gloch, ar yr 11eg o Dachwedd, 1918.

    Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol, neu yn Saesneg y ‘Royal British Legion’ yn elusen sy’n bwrpasol yn helpu rhai sydd wedi dioddef mewn rhyfel, a’u teuluoedd. Ac fe wnaethon nhw gymryd y pabi coch fel eu harwyddlun. Mae’r pabi yn atgoffa pob un ohonom i ddweud diolch am bob un fu farw mewn rhyfel: y ddau ryfel byd, ac mewn achosion o wrthdaro mewn llefydd eraill ledled y byd. Trwy brynu’r pabi, fe fyddwn ni, nid yn unig yn dweud diolch wrth wneud hynny, ond mae’r arian fyddwn ni’n ei roi am y pabi yn cael ei ddefnyddio i helpu’r rhai hynny  sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfeloedd  - dioddefwyr a theuluoedd y rhai hynny fu farw.

    Bydd pobl trefi a phentrefi ledled y wlad yn cofio am hyn ar Sul y Cofio, yn enwedig cofio am y rhai hynny o’u cymunedau lleol eu hunain a fu farw. Fe fydd pobl yn gosod  torchau o’r pabi coch wrth y cofgolofnau i ddangos eu bod yn cofio. Ac maen nhw’n cynnal dau funud o dawelwch hefyd ar yr un pryd - am 11 o’r gloch y bore. Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb ohonom ddweud diolch, yn ddistaw, i gyd ar yr un pryd, a meddwl am sut y mae rhyfel yn gallu effeithio arnom. Mae’n bwysig i ni beidio ag anghofio'r bobl hynny o’n hardal leol, ein harwyr lleol.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Gadewch i ni aros i feddwl am foment, a dweud diolch.
Dyma fersiwn Gymraeg o’r geiriau y bydd pobl yn eu hadrodd wrth y gofgolofn ar Sul y Cofio:
Ni heneiddiant hwy,
Fel ni, a adawyd.
Ni ddwg oed iddynt ludded
Na’r blynyddoedd gollfarn mwy.
Pan elo’r haul i lawr
Ac ar wawr y bore,
Ni â’u cofiwn hwy,
Ni â’u cofiwn hwy.
A dyma’r fersiwn Saesneg, sy’n adnabyddus iawn:
They shall not grow old, as we that are left grow old:
Age shall not weary them, nor the years condemn.
At the going down of the sun and in the morning
We will remember them.
A nawr, fe wnawn ninnau'r hyn y mae pobl eraill yn y wlad yn ei wneud ar yr adeg honno er mwyn cofio: fe safwn am foment mewn distawrwydd.
Fe gofiwn ni’r rhai hynny sydd wedi marw er mwyn i’n gwlad fod yn wlad rydd. Fe rown ni ddiolch distaw am bob un a gollodd eu bywydau.
(Sefwch gyda’ch gilydd mewn distawrwydd am foment – cyfnod mor hir ag y tybiwch sy’n briodol.)

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni eisiau dweud diolch am y bobl hynny fu’n brwydro mewn rhyfeloedd,
ac a fu farw er mwyn y rhyddid rydyn ni’n ei fwynhau yn ein gwlad heddiw.
Fe gofiwn am wrthdaro a fu yn y gorffennol,
ond fe gofiwn hefyd am y rhai hynny sy’n brwydro ac yn marw mewn rhyfeloedd yn y byd heddiw, fel yr anghydfod sydd yn Iraq ac yn Afghanistan.
Cofiwn hefyd am eu teuluoedd a’u ffrindiau
a gofynnwn i ti eu cysuro.
Dysga ni i fod yn dosturiol ac yn ofalgar,
a gwna ni yn ystyriol o anghenion pobl eraill.
Fe’u cofiwn hwy.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon