Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ymladd Gornestau

Archwilio sut mae’n well datrys achosion o wrthdaro ac anghydfod trwy ddulliau heddychol.

gan The Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio sut mae’n well datrys achosion o wrthdaro ac anghydfod trwy ddulliau heddychol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen maneg, a rhai ‘arfau’ (rhai chwarae, fel peli papur ar gyfer gornest peli eira, clustogau meddal, ‘cleddyfau’ papur wedi’i rolio, etc.).

Gwasanaeth

  1. Eglurwch ei bod hi’n arferiad gan ddynion o deuluoedd uchelwyr tua dau neu dri chan mlynedd yn ôl, i ddatrys rhyw anghydfod, fyddai rhyngddyn nhw â rhywun arall, trwy gynnal ymladdfa o ryw fath (y dynion fydda’n gwneud hyn - roedd y merched yn gallach!). Y bobl fawr fyddai’n byw yn y plastai fyddai’n gwneud hyn. Oes rhywun yn gwybod beth oedden nhw’n galw’r math yma o weithgaredd? A beth fyddai’n digwydd yn ystod yr ornest?

  2. Os byddai un o’r dynion hyn yn meddwl fod dyn arall wedi’i dwyllo, neu beth bynnag, a’r dyn hwnnw’n gwrthod ymddiheuro, yna fe fyddai’r dyn oedd wedi cael ei dwyllo, neu a oedd yn teimlo ei fod wedi cael cam, yn mynd at y llall ac yn ei daro ar draws ei wyneb â’i faneg. (Os ydych chi’n teimlo bod hynny’n briodol, fe allech chi ddangos sut y byddai’n gwneud hyn, gyda help aelod arall o’r staff fydd wedi cytuno â chi o flaen llaw!). Dyna oedd yr arwydd ei fod yn ei herio i ornest, neu ‘duel’ fyddai’r gair Saesneg.

  3. Pe byddai’r dyn arall yn gwrthod yr her, yna fe fyddai’n cael ei ystyried y llwfr. Fe fyddai’n colli ei statws yn y gymdeithas wedyn, a fyddai’r dynion byth eisiau i hynny ddigwydd. Fe fyddai’r ‘duels’ neu’r gornestau yn cael eu cynnal yn gynnar yn y bore, ar doriad y wawr, mewn llefydd allan o’r ffordd heb fod yng ngolwg y cyhoedd, gan fod gornesta fel hyn yn anghyfreithlon. Felly, doedden nhw ddim eisiau i lawer o bobl fod yn dystion i hyn. Yn aml, fe fyddai’r dynion yn cael eu hanafu. Fe allwn ni’n hawdd feddwl eu bod yn hollol wallgof i ymddwyn fel hyn, yn fodlon cymryd y risg o gael eu lladd - dim ond oherwydd eu bod eisiau datrys rhyw anghydfod oedd rhyngddyn nhw. Ond dyna sut roedd pethau’r adeg honno - efallai y gallech chi gymharu hyn i raddau â math o ‘gang culture’ sy’n bodoli mewn ambell le heddiw, gwaetha’r modd.

  4. Defnyddiwch bump o wirfoddolwyr dewr (ond synhwyrol) fydd yn fodlon eich helpu i ddangos beth fyddai trefn yr ornest.  Roedd gan y ddau fyddai’n ymladd gefnogwr bob un gyda nhw, ac fe fyddai un canolwr yno, dyna’r pump fyddai’n bresennol. Dechreuwch yr ornest gyda’r her a’r faneg, fel sydd wedi’i ddisgrifio eisoes.

    Fe fyddai’r canolwr yn cynnig dewis o arfau i’r ddau fyddai yn yr ornest: pistol, neu gleddyf gan amlaf. Yr un fyddai’n cael ei herio a fyddai’n cael dewis pa arfau y bydden nhw’n eu defnyddio, a byddai’n rhaid i’r llall (yr un oedd yn gosod yr her ac wedi galw am yr ornest) dderbyn y penderfyniad ei wrthwynebwr a defnyddio’r un math o arf. Rodd barn y canolwr ar y canlyniad yn derfynol.

    Os bydden nhw’n defnyddio’r gynnau, yna fe fydden nhw’n dechrau trwy sefyll gefn wrth gefn, a byddai’r ddau ornestwr yn cerdded pump neu ddeg o gamau ymlaen oddi wrth ei gilydd, ac yn troi.... Ac yna, fe fydden nhw’n anelu ac yn tanio ar orchymyn y canolwr, a fyddai’n galw ‘Aim, ready, fire!’ 

    Os nad oedd enillydd pendant, fe fyddai’n rhaid gofyn i’r canolwr benderfynu pwy oedd yn fuddugol.

  5. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n meddwl mai’r ffordd orau i dorri dadl yw trwy ymladd? Trafodwch sut mae  anghydfod weithiau’n gallu mynd allan o bob rheswm, ac yn diweddu â chanlyniadau difrifol iawn.

    Nawr, sgwrsiwch am ymddiheuro ar ôl gwneud rhywbeth o’i le - a sôn am y syniad o  ‘droi'r foch arall’ os mynnwch chi, (cofiwch y faneg, efallai?) a bod yn barod i gyfaddef os ydych chi ar fai - a dod i gytundeb (cofiwch nad yw hynny’n beth llwfr i’w wneud - weithiau rhaid bod yn ddewr iawn i gyfaddef ac ymddiheuro).

  6. Dewisol: Defnyddiwch y syniad o ‘droi’r foch arall’, fel roedd Iesu’n dysgu pobl am y ffordd orau i ymddwyn. Neu, neu soniwch am yr hyn yr oedd Iesu’n cyfeirio ato yn yr hanes yn Efengyl Mathew, 26 : 52. ‘Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy’n cymryd y cleddyf yn marw trwy’r cleddyf.’ A dyma’r dyfyniad yn Saesneg, ‘Those who live by the sword shall die by the sword’. Eglurwch fod y gwersi hyn yn rhai anodd eu deall, ond yr hyn yr oedd Iesu’n ceisio’i ddweud oedd mai cael ateb heddychol a di-drais yw’r ffordd orau bob amser o ddatrys unrhyw broblem, a dyna a ddylem ni i gyd fod yn ceisio’i wneud.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Rydym wedi cael hwyl yn smalio ymladd gornest. Mae chwaraeon yn aml yn fath o ornest. Cyn belled â’n bod ni’n cofio chwarae’n deg ac yn parchu’n gwrthwynebwyr, mae chwaraeon yn ffordd wych o gynnal cystadlaethau, a pharhau yn ffrindiau wedyn ar ôl hynny.
Ond a yw dadleuon a chwaraeon yn mynd yn rhy bell ambell dro? Sut gallwch chi fod yn rhywun heddychol?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa fi i fod yn berson heddychol.
Helpa fi i gael hwyl wrth chwarae a chymryd rhan mewn cystadlaethau,
ond i fod yn gyfeillgar a pharchu pobl eraill bob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon