Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Held together

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant ddeall bod gofalu am ein gilydd yn ein cadw ynghyd fel teulu yn yr ysgol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen nifer o wahanol bethau sy’n cael eu defnyddio i ddal pethau ynghyd, e.e. bandiau elastig, clipiau papur, a staplwr, pegiau dillad, sgriwiau, nytiau a bolltau, etc.

  • Bwndel o lythyrau, nifer o dudalennau papur, pâr o hosanau.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch i’r plant bob un o’r eitemau ‘dal pethau ynghyd’ yn eu tro, gan holi pa bryd y byddech chi’n defnyddio pob un o’r rhain. Beth sy’n gyffredin i’r holl eitemau? Maen nhw’n wahanol bethau sy’n cael eu defnyddio i ddal pethau ynghyd. Gofynnwch i’r plant nodi pa un fyddai’r eitem fwyaf defnyddiol i ddal y pethau canlynol ynghyd – llythyrau, papurau, hosanau.

  2. Eglurwch i’r plant fod ein cyrff wedi’u gwneud o nifer o wahanol elfennau, fel esgyrn, cyhyrau, organau, hylifau ac ati. Ac mae ein croen yn dal y cyfan ynghyd.

  3. Dychmygwch beth pe bai corff pob un ohonom yn cael ei ddal ynghyd â bandiau elastig yn lle hynny. Sut olwg fyddai arnom ni? Dychmygwch beth pe bai corff pob un ohonom yn cael ei ddal ynghyd â nytiau a bolltau. Sut olwg fyddai arnom ni bryd hynny?

  4. Eglurwch fod ein hysgol fel corff o bobl.  Rydyn ni i gyd yn gweithio, ac yn chwarae, ac yn bwyta gyda’n gilydd. Pa ffordd fyddai’n ffordd dda o’n cadw ni ynghyd? Gadewch i ni weld allwn ni ddod o hyd i’r ffordd orau. 

    Gofynnwch i 12 o blant ddod i’ch helpu,  gan ffurfio tri grwp, pedwar plentyn ym mhob grwp. Rhowch blant hyn yn Grwp 3. Byddwch angen dau blentyn arall i helpu Grwpiau 1 a 2, ac athro i helpu Grwp 3!

    Grwp 1: Gadewch i ni geisio defnyddio bandiau elastig. Ymdrechwch, gyda gofal, i ‘glymu’r’ grwp ynghyd.
    Grwp 2: Gadewch i ni geisio defnyddio pegiau dillad. Efallai y gallech chi ‘begio’ dillad plant y grwp gyda’i gilydd.
    Grwp 3: Gadewch i ni geisio defnyddio sgriwiau. Fe allai’r athro sy’n eu helpu ymddangos gyda sgriwdreifer mawr a sgriwiau, gan smalio ei fod am sgriwio’r plant gyda’i gilydd. Gallwch feimio hyn mor ddramatig ag y dymunwch chi).

  5. Mae’n amlwg na all yr un o’r dulliau hyn ein dal ynghyd. Gofynnwch i blant y tri grwp ffurfio cylch a gafael yn nwylo’i gilydd. Paratowch o flaen llaw un neu ddau o oedolion i ymuno â’r plant yn y cylch, ac un neu ddau o blant hyn ychwanegol. Eglurwch fod gofalu am ein gilydd yn ein huno gyda’n gilydd. Os oes logo gan yr ysgol, neu wisg ysgol, soniwch fod hynny’n dangos eich bod yn perthyn i’ch gilydd. Wrth i chi, yn yr ysgol, ddysgu byw gyda’ch gilydd, gweithio gyda’ch gilydd, bwyta gyda’ch gilydd a chwarae ynghyd, gobeithiwn y bydd hyn yn ein dysgu i ofalu am ein gilydd. 

    Os oes digon o le, gwahoddwch weddill y plant sydd yn y gwasanaeth i ddod  ac ymuno yn eich cylch.

    NODWCH: Fe allech chi roi’r syniad o gariad yn lle’r syniad o ofal, os yw hyn yn briodol i’ch ysgol, neu gynnwys y syniad o gariad yn ychwanegol at y gofal i ymestyn  y gwasanaeth.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Beth sy’n ein dal ynghyd?
Sut y gallwn ni wneud y cwlwm yn gryfach?
Beth allwch chi ei wneud heddiw i ddangos eich bod yn gofalu am eraill?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Cariad yw’r peth sy’n gallu dal popeth ynghyd.
Gall cariad ddal teuluoedd ynghyd.
Gall cariad ddal cymdogion ynghyd.
Gall cariad ddal cymunedau ynghyd.
Gall cariad ddal cenhedloedd ynghyd.
Gall cariad ddal ein hysgol ynghyd.
Fe hoffem i’n hysgol ni fod yn lle y mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu caru a bod rhywun yn gofalu amdanyn nhw.
Helpa ni i gyd wneud ein rhan yn hyn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon