Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidiwch  Bod Yn Grintachlyd

Dangos gwerth parchu pobl eraill.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos gwerth parchu pobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen paratoi, er y byddai OHP/ bwrdd gwyn yn ddefnyddiol wrth gydadrodd y weddi.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod yn mynd i ddarllen stori. Gofynnwch i’r plant wrando’n ofalus gan eich bod yn mynd i ofyn eu barn ar y diwedd. 

    Hanner Cyflog
    Flynyddoedd yn ôl yr oedd coedwigwr oedd yn ddyn crintachlyd iawn. Ei enw oedd Mr Crintach. Roedd yn ennill ei fywoliaeth trwy dorri coed a’u gwerthu i bobl fel tanwydd. Ond fe fyddai’n twyllo ei gwsmeriaid, ac yn rhoi llai o logiau iddyn nhw na’r nifer yr oedden nhw wedi talu amdanyn nhw. Hefyd fe fyddai’n rhoi logiau coed pîn yng nghanol logiau coed derw, doedd y rheini ddim yn llosgi cystal. Weithiau fe fyddai’n cyflogi nifer o bobl i’w helpu i dorri’r coed yn logiau o’r maint iawn i’w gwerthu, ond roedd yn disgwyl i’r bobl rheini weithio’n galed iawn a hynny am gyflog bach iawn.  Oherwydd hynny, fe fydden nhw’n ei adael ac yn mynd i chwilio am waith mewn llefydd eraill. Fe aeth rhai i weithio ar fferm leol.

    Roedd gan Mr Crintach lwyth o goed ar ei iard, ond neb i’w helpu i’w torri. Fe fyddai’n galw ar unrhyw un fyddai’n pasio ac yn gofyn iddyn nhw oedden nhw’n chwilio am waith, a hoffen nhw dorri coed iddo? 

    ‘Iawn’, meddai un dyn, ‘os rhowch chi gyflog o £5 yr awr i mi.’

    ‘Mae hynny’n lot o bres,’ meddai Mr Crintach. ‘Fe fydd yn rhaid i ti weithio’n galed iawn i ennill cymaint  â hynny.’ 

    Ac yn wir, fe weithiodd y dyn yn galed iawn. Ond ar ddiwedd y dydd fe ddywedodd Mr Crintach wrtho mai dim ond hanner y coed yr oedd wedi’u torri, ac felly dim ond hanner y cyflog a gai. ‘Os wyt ti eisiau gweddill yr arian rhaid i ti ddod yn ôl yfory,’ meddai. Ddaeth y dyn ddim yn ei ôl drannoeth, fe ddaeth o hyd i waith arall yn y pentref, yn siop y cigydd.

    Y diwrnod wedyn, fe ddigwyddodd yr un peth i wraig a ddechreuodd weithio i Mr Crintach. Ond dim ond hanner y cyflog gafodd hithau, ac aeth oddi yno a chael gwaith yn siop y groser.

    Ar y trydydd diwrnod, cytunodd dyn arall i weithio i  Mr Crintach, ond yr un peth oedd ei hanes yntau. Digiodd y dyn wrth Mr Crintach ac ymuno â brigâd dân y pentref. 

    Felly, fe fu’n rhaid i Mr Crintach dorri’r coed ei hun. Roedd yn waith caled iawn. Roedd yn chwysu ac yn flinedig, ac erbyn diwedd y dydd roedd eisiau bwyd. Edrychai ymlaen at ei swper. Gwyddai fod y cigydd wedi dod â chig iddo’r siop , a’r groser wedi dod â bara a chaws a chanhwyllau iddo, a’r ffermwr wedi dod â llefrith. Edrychai ymlaen at gael llond ei fol o fwyd. 

    Ond cafodd Mr Crintach syndod mawr. Yn lle darn o gig, fel arfer, dim ond hanner golwyth oedd yn y bag gan y cigydd. Dim ond hanner torth sych, a hanner darn o gaws oedd wedi dod o siop y groser. Roedd blas gwahanol ar y llefrith, roedd yn ddyfrllyd iawn. Tybiai Mr Crintach mai hanner llefrith a hanner dwr yr oedd wedi’i gael gan y ffermwr. Roedd wedi gwylltio’n gacwn, a dechreuodd feddwl am yr holl bethau cas y byddai’n eu dweud wrth y cigydd a’r groser a’r ffermwr trannoeth.

    Goleuodd y gannwyll a mynd i’w wely, ai stumog yn ddim ond hanner llawn. Ond yn lle cannwyll arferol, roedd y gannwyll yn hanner cannwyll hanner cerdyn gwyn wedi’i rolio, ac fel y llosgodd y gannwyll fe aeth y cerdyn ar dân, ac aeth y bwrdd ar dân. Lledodd y tân ac aeth yntau at y ffenest a gweiddi nerth esgyrn ei ben, ‘Help, help! Tân, Tân!’

    Yn fuan roedd y ty cyfan ar dân. A chyn bo hir, er mawr ryddhad iddo, fe glywai’r injan dân yn dod - ond dim ond ar hanner y cyflymder arferol!  Ac yn hamddenol iawn yr aeth y dynion ati i osod y beipen ddwr wrth y peiriant a dechrau diffodd y tân. 

    Cododd un o’r dynion tân ysgol at ffenest llofft Mr Crintach. Gwthiodd Mr Crintach ei hun trwy’r ffenest yn gynhyrfus iawn a dechrau disgyn i lawr yr ysgol. Ond pan oedd hanner ffordd i lawr yr ysgol, fe ddisgynnodd yn sydyn iawn i’r llawr - dim ond hanner yr ysgol oedd â stepiau arni! ‘Sori,’ meddai’r dyn tân. ‘Dim ond hanner ysgol sydd gennym ni am na allwn ni fforddio ysgol gyfan.’ 

    Ar hanner y cyflymder arferol y gweithiai’r dynion tân, ac roedd y fflamau’n lledu’n gyflym trwy’r adeiladau ac i gyfeiriad y pentwr coed ar yr iard. ‘Arbedwch y coed!’ gwaeddodd Mr Crintach. Roedd y dynion wedi gallu diffodd y fflamau oedd yn llosgi’r ty, ond erbyn hyn roedd y coed yn yr iard ar dân ac yn llosgi’n goelcerth enfawr. 

    Diffoddodd y dynion tân y peiriant a dechrau clirio’u hoffer. 

    ‘Allwch chi ddim mynd â 'ngadael i!’ meddai Mr Crintach. 

    ‘Sori,’ meddai un o’r dynion tân wrtho, oedd â’i lais yn gyfarwydd i Mr Crintach. ‘Fe ddown ni’n ôl yfory i orffen y gwaith os ydych chi eisiau gwerth eich pres. Nos da!’

  2. Treuliwch beth amser yn trafod y stori, gan ofyn cwestiynau fel: Ydych chi’n meddwl fod y dynion tân wedi trin Mr Crintach yn annheg? Pam mai dim ond hanner golwyth o gig gafodd Mr Crintach gan y cigydd? Pwy roddodd lefrith dyfrllyd iddo fo? Pwy roddodd hanner torth a hanner darn o gaws iddo a hanner cannwyll? Sut rydych chi’n meddwl roedd Mr Crintach yn teimlo? Ydych chi’n meddwl y byddai hynny’n dysgu gwers iddo fo?

  3. Awgrymwch, os ydyn ni’n disgwyl i bobl ein trin ni’n deg, yna fe ddylem ni ddysgu bod yn garedig tuag at bobl eraill a’u trin hwythau’n deg. Os byddwn ni’n grintachlyd ac yn gas tuag at bobl eraill, fe welwn ni y byddan nhw hefyd yn grintachlyd ac yn gas tuag atom ninnau. Ac nid yw hynny’n beth braf o gwbl.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Alla’ i fod yn garedig, yn ffyddlon a thriw,
Yn gwasanaethu eraill bob dydd yr wy’n byw?
Bod yn fwy hael yn fy chwarae a ’ngwaith,
A dod yn well cyfaill ar bob cam o’r daith?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Dysga ni i fod yn garedig ac yn hael, ac i feddwl am bobl eraill ym mhob peth y byddwn ni’n ei wneud.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon