Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyflawni Eich Potensial

Annog y pant, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, i geisio’u gorau bob amser i gyflawni eu potensial llawn.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y pant, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, i geisio’u gorau bob amser i gyflawni eu potensial llawn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen hedyn a blodyn neu amrywiaeth o flodau.

  • Cannwyll (a rhywbeth i’w goleuo).

  • Luniau o danau mawr, fel Tân Mawr Llundain, llun llong ar dân fel y Cutty Sark, tân mawr mewn coedwig (chwiliwch am luniau tanau ar Google Images).

  • Tudalen o bapur gyda diffiniad o’r gair ‘potensial’ wedi’i ysgrifennu arno: ‘Rhywbeth sydd heb fod wedi datblygu eto, ond sy’n bosib iddo ddod i fodolaeth.’

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod beth yw ystyr y gair ‘potensial’. Eglurwch fod geiriadur yn ei ddiffinio fel ‘Rhywbeth sydd heb fod wedi datblygu eto, ond sy’n bosib iddo ddod i fodolaeth.’ Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i ddangos nifer o eitemau amrywiol iddyn nhw, ac rydych chi’n awyddus iddyn nhw benderfynu, gan ddefnyddio’r diffiniad hwnnw, beth yw ‘potensial’ pob un o’r pethau.

  2. Dangoswch yr hedyn. Holwch beth yw potensial yr hedyn bach. Dangoswch y blodyn, neu’r blodau, a holwch beth fyddai’n digwydd i’r hedyn pe na fyddai’n cael ei blannu nac yn cael dwr ac amgylchiadau ffafriol i dyfu. Sgwrsiwch am y ffaith na all yr hedyn gyflawni ei lawn botensial oni bai ei fod yn cael bod yn y lle iawn, lle mae’r amodau’n iawn ar ei gyfer.

  3. Dangoswch y gannwyll i’r plant. Holwch beth yw potensial y gannwyll. Eglurwch mai potensial y gannwyll yw rhoi golau, neu hyd yn oed roi ychydig bach o wres hefyd. Ond fydd y gannwyll ddim yn gallu gwneud hynny oni bai ei bod yn cael ei goleuo.

    Goleuwch y gannwyll, gan gofio dilyn dull gweithredu diogelwch yr ysgol. Holwch y plant beth yw potensial y fflam. Trafodwch fod gan y fflam botensial i wneud pethau da a phethau drwg hefyd. Mae’n gallu rhoi golau a gwres, hyd yn oed goginio rhywbeth, ond mae hefyd yn gallu achosi difrod mawr. Dangoswch luniau o danau mawr e.e. fel Tân Mawr Llundain, llun llong ar dân fel y Cutty Sark, tân mawr mewn coedwig etc. Fel y mae’r hedyn angen amodau ffafriol i dyfu, mae fflam fechan angen amodau ffafriol i greu tân mawr hefyd.

  4. Gofynnwch i’r plant feddwl amdanyn nhw’u hunain. Dywedwch wrthyn nhw fod ganddyn nhw hefyd botensial mawr. Yn yr ysgol maen nhw’n cael yr amodau iawn i dyfu ac i gyflawni eu gwir botensial mewn bywyd. Er hynny, eu cyfrifoldeb nhw yw gweithio’n galed, manteisio ar unrhyw brofiad newydd sy’n dod i’w rhan, a gofalu y byddan nhw yn y dyfodol yn datblygu i fod y math o bobl y mae’n bosib iddyn nhw fod.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Caewch eich llygaid a meddyliwch am eich bywyd yn yr ysgol.
Pa bethau rydych chi’n mwynhau eu gwneud orau?
Pa bethau rydych chi’n eu cael yn hawdd?
Pa bethau rydych chi’n eu cael yn anodd?
Peidiwch â meddwl am wersi yn unig, meddyliwch am amser chwarae ac am amser cinio hefyd. Oes rhai agweddau y gallech chi, eleni, wneud mwy o ymdrech, efallai?
Eich dewis chi yw hyn! Allwch chi benderfynu, heddiw, ymdrechu eich gorau glas ym mhob peth rydych chi’n ei wneud?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y flwyddyn newydd hon yn yr ysgol.
Diolch i ti am roi cymaint o bethau rydw i’n dda am eu gwneud.
Helpa fi i wneud fy ngorau ym mhob peth rydw i’n ei wneud  
fel y gallaf fi gyflawni fy ngwir botensial.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon