Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amseroedd a Thymhorau

Mewn ffordd syml, helpu’r plant i ddeall ystyr yr ymadrodd: 'mae amser a thymor i bopeth mewn bywyd'.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Mewn ffordd syml, helpu’r plant i ddeall ystyr yr ymadrodd: 'mae amser a thymor i bopeth mewn bywyd'.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen copi o Miss Brick the Builder's Baby gan Alan Ahlberg a Colin McNaughton (Puffin, cyfres Happy Families).  Gallai athro ddarllen neu ailadrodd y stori.
  • Tegan meddal, rhuglen, brics adeiladu mawr, a thegan wedi’i wneud o ddarnau bach iawn.

Gwasanaeth

  1. Treuliwch gyfnod byr yn caniatáu i rai o’r plant iau siarad am eu brodyr a’u chwiorydd bach.  Efallai bod plentyn newydd groesawu baban newydd i’r teulu.  Dathlwch y newydd da hwn gyda gweddill yr ysgol.

  2. Edrychwch ar y teganau babanod/plant iau sydd yn cael eu dangos, a holwch a fydden nhw’n addas i faban bach.  Trafodwch yn gryno eu deunydd, eu lliwiau, pa mor feddal yw’r teganau, a ydyn nhw’n cynnwys darnau bach, ac ati.  Gofynnwch am wirfoddolwyr i drefnu’r teganau yn ôl yr oedran y bydden nhw’n addas ar eu cyfer.

  3. Adroddwch stori Miss Brick the Builder's Baby.  Dywedwch fod babanod yn hoffi taro pethau i lawr! Holwch y plant a yw hynny’n wir o’u profiad nhw.

  4. Mae adeiladu tyrrau a’u taro i lawr yn llawer o hwyl i blant bach, ac mae’n rhan o dyfu.  Nid oedd yn rhaid i Mr a Mrs Bric boeni. Mae hi’n ddigon arferol i faban o oedran Miss Bric fwynhau taro pethau i lawr.  Yn ddiweddarach, byddai amser yn dod pan fyddai hi’n mwynhau adeiladu. Fe fyddai wedi bod yn destun pryder petai’r Baban Bric wedi bod yn taro tyrrau i’r llawr yn bump, wyth neu ddeg oed. Erbyn hynny, y gobaith yw y byddai hi’n fwy defnyddiol yn ei chwarae.

  5. Yn y Beibl, mewn llyfr hen iawn o’r enw Llyfr y Pregethwr fel mae rhai’n ei alw, mae’r ysgrifennydd yn dweud bod amser a thymor i bopeth mewn bywyd:

    Y mae amser i blannu … ac amser i ddiwreiddio.
    Y mae amser i gadw … ac amser i daflu ymaith.
    Y mae amser i dewi … ac amser i siarad.
    Y mae amser i adeiladu ... ac amser i dynnu i lawr!

  6. Siaradwch am bethau priodol yn yr ysgol, gan roi enghreifftiau o sut y mae ymddygiad, agwedd, gemau a gwersi gwahanol yn iawn ar gyfer oedrannau gwahanol.  Hyd yn oed yn yr ysgol, mae amser i un math o beth, ac amser i beth arall.  Mae hyn yn wir yn ystod diwrnod ysgol: mae amser i gyrraedd, amser i chwarae, amser i weithio, amser i fwyta cinio, ac ati.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Y mae amser i dawelu ac amser i wneud swn.
Y mae amser i weithio ac amser i chwarae.
Y mae amser i fod yn ddifrifol ac amser i gael hwyl.
Y mae amser i weithio ar ben eich hun, ac amser i weithio â phobl eraill.
Y mae amser i wrando ac amser i siarad.
Y mae amser i gymryd ac amser i gadw.
Y mae amser i ddweud ie ac amser i ddweud na.
Y mae amser i ddweud helo ac amser i ddweud hwyl fawr.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch dy fod di’n gwybod beth yw amseroedd a thymhorau ein bywydau.
Diolch am bob diwrnod newydd ac am bob cyfle newydd.
Helpa ni i wneud yn fawr o bob un.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon