Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y tu ôl i’r Anrheg

Dangos mai’r bwriad y tu ôl i’r anrheg sy’n cyfrif, nid ei werth.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos mai’r bwriad y tu ôl i’r anrheg sy’n cyfrif, nid ei werth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen nifer o focsys gwag o wahanol feintiau wedi’u lapio mewn papur lapio Nadoligaidd.  Fe allech chi ddymuno rhoi anrheg fechan i’ch gwirfoddolwyr (gweler pwynt 1).

  • Dau ddarn arian bach.

  • Stori’r Beibl am anrheg y weddw (Luc 21.1–4).

Gwasanaeth

  1. Dangoswch yr anrhegion i’r plant, a gofynnwch i ambell un ohonyn nhw ddod i’r blaen i ddewis un ohonyn nhw.  Fel arfer, bydd y plentyn cyntaf yn dewis yr un mwyaf o faint a/neu’r un sy’n edrych fwyaf cyffrous, ac yn y blaen!  Eglurwch mai dim ond blychau gwag yw’r anrhegion hyn, felly nid oes diben eu dadbacio – dyna siom!  Efallai y dymunech chi roi rhywbeth bach i’r plant – rhywbeth bach i’w fwyta (yn unol â pholisi’r ysgol), neu nodlyfr er enghraifft, neu fe allai fod yn dystysgrif ‘Fe wnes i helpu â’r gwasanaeth’.

    Holwch y plant a ydyn nhw erioed wedi derbyn anrheg sy’n llamu i’r cof fel yr un mwyaf cyffrous y maen nhw wedi ei gael erioed.  Gofynnwch i ambell blentyn ddweud rhagor am yr anrhegion hynny.

  2. Gofynnwch i’r plant beth sy’n gwneud anrheg yn arbennig yn eu barn nhw.  Fe allan nhw gynnig atebion fel: eu bod nhw wedi eu derbyn nhw gan rywun arbennig, roedd yr anrheg yr union beth roedden nhw ei eisiau, roedd yn syrpreis llwyr, roedd yn costio llawer.

  3. Eglurwch ei bod hi’n hyfryd derbyn anrhegion, ac mae rhai pobl yn gwario llawer o arian arnom ni, sydd yn beth hael iawn i’w wneud.  Er hynny, yr hyn sy’n cyfrif mewn gwirionedd pan fyddwn ni’n derbyn anrheg yw nid pa mor fawr neu pa mor ddrud yw’r anrheg, ond y ffaith fod gan rywun gymaint o feddwl ohonom fel eu bod nhw eisiau rhoi anrheg i ni.

  4. Yn y Beibl, mae stori sy’n sôn am Iesu’n gwylio pobl yn cyrraedd y deml ac yn rhoi arian yn y blwch rhoddion. Darllenwch o Luc 21.1–4, neu aralleiriwch y darlleniad.

  5. Pwysleisiwch fod Iesu wedi gweld nifer o bobl yn rhoi llawer o arian yn y blwch, ond yr hyn a dynnodd ei sylw fwyaf oedd dynes dlawd yn rhoi dau ddarn bach o arian ynddo.  Dywedodd Iesu ei bod hi wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall; roedd hi wedi rhoi rhan enfawr o’r hyn oedd ganddi oherwydd ei chariad at Dduw.  Mae’r stori hon yn dangos nad pa mor fawr, neu pa mor ddrud, yw’r anrhegion sy’n bwysig, ond y cariad a’r syniad gan y rhoddwr.

  6. Dewisol: Os gallwch chi, rhannwch stori amdanoch eich hunan sy’n sôn am rywbeth sydd o werth ariannol bychan, ond sy’n arbennig oherwydd yr unigolyn a roddodd yr anrheg i chi, neu’r bwriad caredig y tu ôl i’r anrheg.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Fe fydd hi’n Nadolig yn fuan, ac mae nifer ohonom yn gobeithio y cawn ni anrhegion a phethau da arbennig. Gadewch i ni oedi am funud i feddwl sut gallwn ni roi i’r rhai hynny sy’n golygu llawer i ni’r Nadolig hwn.  Cofiwch y gallwn ni roi mewn sawl ffordd, ar wahân i brynu anrhegion.  Gallwn roi o’n hamser, ein cymorth, ein cariad.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am gyfnod cyffrous y Nadolig!
Yn yr holl brysurdeb a’r cyffro, helpa ni i gyd i fod yn rhoddwyr, nid derbynwyr yn unig.
Helpa ni i feddwl am eraill cyn ni’n hunain.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon