Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wynebu eich Ofnau

Helpu plant i ddod yn fwy sensitif o deimladau ac ofnau pobl eraill.

gan Alan Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu plant i ddod yn fwy sensitif o deimladau ac ofnau pobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gellir defnyddio’r gwasanaeth hwn unrhyw dro, ond mae’n arbennig o berthnasol tua chyfnod Calan Gaeaf.

  • Os bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio o gwmpas Calan Gaeaf, fe fyddwch chi angen pwmpen fawr, wedi’i chuddio tan y diwedd.

  • Bydd blwch heb gaead yn gweithredu fel y ‘blwch tymer’ yn ymarfer y ddrama.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant feddwl yn ôl (neu ymlaen, yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn) i Galan Gaeaf – gwyl pan fydd llawer o bobl yn cael hwyl, ond a oes diben arall yn perthyn iddo?

  2. Dadorchuddiwch y bwmpen.  Ydi unrhyw un wedi synnu?  Beth allwch chi ddweud wrth edrych ar eu hwynebau?  Cyfeiriwch at y traddodiad o gerfio wyneb drwy dyllu pwmpen.  Pa fath o wyneb ddylai ef fod?  Un cyfeillgar neu ffyrnig?

  3. Gwahoddwch y plant i ystyried sut gall eu hwynebau ddatgelu sut maen nhw’n teimlo.  Cyfeiriwch at y modd y mae actorion yn defnyddio ystumiau ar eu hwynebau i gyfleu teimladau eu cymeriadau. 

    Cynhaliwch sesiwn ragarweiniol hwyliog.  Dangoswch y ‘blwch tymer’, a heriwch unigolion i agor y blwch ac ymateb i’r cynnwys dychmygol drwy ddangos emosiynau gwahanol: e.e. ffyrnigrwydd, ofn, tristwch, hapusrwydd, ffieiddiwch, syndod, dryswch, cyfeillgar.  Ydi’r gynulleidfa’n gallu dyfalu beth yw’r tymer o edrych ar wyneb yr actor?

  4. Adroddwch y stori hon o’r Beibl, a gwahoddwch y plant i gydymdeimlo â theimladau’r cymeriadau: yn gyntaf, cyfeillion ofnus Iesu, yna ymddygiad ymosodol Lleng. Anogwch nhw i gymryd rhan drwy ddefnyddio ystumiau addas ar eu hwynebau.  Cymerwch rôl (ac awdurdod!) Iesu wrth adrodd y stori.

    Yr olwg ar eu hwynebau 
    (Ailadroddiad syml o storïau o Luc 8)

    Byddaf yn cofio’r olwg oedd ar eu hwynebau am byth.  Roeddem wedi cael diwrnod prysur iawn, ac fe wnes i awgrymu y dylem fenthyg cwch a hwylio ar draws Môr Galilea i ddod o hyd i lecyn tawel. Fe wnaeth fy ffrindiau i gyd nodio eu pennau a gwenu.

    ‘Syniad da,’ meddan nhw. 

    Roeddwn i wedi blino cymaint, mi wnes fynd i gysgu ar y cwch.  Sut wyddwn i fod storm ffyrnig ar ei ffordd?  Roedd y gwynt yn chwythu fel corwynt, y cwch yn siglo yn ôl ac ymlaen, ond wnaeth hynny ddim fy neffro.  Fe wnaeth fy ffrindiau fy neffro, er hynny.  Am funud, roeddwn i’n pendroni beth oedd yn bod.  Roeddwn i’n gweld eu bod nhw i gyd yn ofnus.

    ‘Wyt ti ddim yn malio?  Rydyn ni’n mynd i foddi!’ meddan nhw, gan sgrechian. 

    Fe wnes i sefyll ar fy nhraed a dweud: ‘Tangnefedd, bydded tawelwch.’  Dechreuodd y gwynt ostegu, a daeth y tonnau’n fwy sefydlog.  Ac fe wnaeth fy ffrindiau, a oedd yn crynu o hyd, edrych yn syn a dryslyd, a gweiddi: ‘Waw! Beth yn y byd oedd hynny?’

    Pan wnaethon ni gyrraedd y lan, roedd storm arall yn ein disgwyl - un ym meddwl rhywun!  Yn gyntaf, fe wnaethon ni glywed synau crio a churo rhyfedd.  Yna, fe wnaethon ni ddod o hyd i ddyn yn byw yn ardal y creigiau a’r ogofau.  Fe waeddodd a gwneud ystumiau ffyrnig tuag atom.  Roedd yn sâl iawn. 

    Roedd y bobl yn ysgwyd eu pennau.  Fe wnaethon nhw ddweud ei fod yn rhedeg o amgylch y lle fel anifail.  Roedd ef hyd yn oed yn torri ei hunan â cherrig.  Roedden nhw wedi ceisio ei helpu, ond doedden nhw ddim yn gwybod sut i wneud hynny.  Roedd pawb yn ei ofni’n fawr. 

    Ond, pan welodd nad oeddem yn ei ofni, fe wnaeth Lleng (dyna oedd enw’r dyn) ddod atom.  Fe wnaethon ni siarad, ac yn raddol daeth ei wyneb yn fwy addfwyn, a diflannodd yr olwg wyllt o’i lygaid.  Fe wnes i ddweud wrtho am fynd at ei ffrindiau i egluro ei fod yn teimlo’n well.  Roeddwn i’n gwybod na fyddai hynny’n anodd.  Roeddech chi’n gallu dweud wrth edrych ar ei wyneb! Ac, o edrych ar eu hwynebau hwythau, roeddwn i’n gallu dweud bod ei ffrindiau yntau’n falch, hefyd!

  5. Gorffennwch drwy wahodd pawb i ddod yn fwy ymwybodol o deimladau pobl eraill – drwy edrych ar eu hwynebau a chofio bod gwên yn gallu rhoi cymaint o gymorth a mwynhad.

  6. A beth am ddathliadau Calan Gaeaf, neu adegau eraill pan allwn ni synhwyro fod pobl yn dod yn fwy nerfus neu hyd yn oed yn ofnus?  Ystyriwch ei bod hi’n gallu bod yn hwyl wynebu ein hofnau … ond … os yw hi’n amlwg o’u hwynebau fod unrhyw un (yn enwedig yr henoed neu blant ifanc iawn) yn wirioneddol ofnus … yna (peidiwch â bod yn bwmpen!) … byddwch yn sensitif o sut mae pobl eraill yn teimlo!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Rydym yn hoffi cael ein dychryn – weithiau: stori am ysbrydion, ffilm arswyd, neu her, efallai.
Ond nid yw pawb ohonom yn teimlo’r un fath.  Fe allai eich ‘hwyl’ chi beri i rywun arall eich ‘ofni’; gallai eu ‘jôc’ nhw beri i chi ofni!

Gweddi
Dduw cariadus,
Gad i ni deimlo dy gariad a’th gryfder yn ein calonnau
a’i ddangos ar ein hwynebau,
heddiw a phob dydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon