Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pobl yn ein Bywydau

Annog plant i feddwl am yr holl bobl sy’n eu helpu nhw yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog plant i feddwl am yr holl bobl sy’n eu helpu nhw yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen labeli gludiog plaen a phin ffelt.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch a oes unrhyw un yn teimlo’n gymwynasgar fore heddiw?  Oes unrhyw un eisoes wedi helpu rhywun arall heddiw?  Holwch beth maen nhw wedi ei wneud - cynhwyswch yr athrawon, hefyd.  Nodwch fod llawer o bobl yn ein helpu ni yn ein bywydau bob dydd.  Am ychydig o funudau, rydym yn mynd i feddwl pwy yw’r bobl hynny.

  2. Holwch gyfres o gwestiynau sy’n berthnasol i gyd-destun eich ysgol.  Fe allech chi ddefnyddio rhai o’r canlynol.  Ceisiwch ennyn atebion gwahanol gan y plant – nid ‘Mam’ yn ateb gan bawb! 

    Bob tro y bydd ateb newydd yn cael ei gynnig, dewiswch wirfoddolwr i ddod i sefyll yn y blaen (o ddewis, yr un a atebodd y cwestiwn), ysgrifennwch eu hateb ar label, a rhowch hwnnw arnyn nhw. Fe ddylech chi fod â rhes o unigolion yn wynebu’r gynulleidfa yn dangos enwau’r bobl sy’n ein helpu ni.  (Fe fydd gofyn i chi fod yn sensitif, oherwydd na fydd gan rai o’r plant fywyd teuluol confensiynol yn eu cartref.)

    Rydych chi i gyd yn gwisgo gwisg ysgol, sy’n edrych yn lân a thaclus – pwy olchodd nhw i chi?
    Mae eich gwisg ysgol yn dwt iawn – pwy fu’n smwddio’r wisg?
    Pwy ddaeth â chi i’r ysgol heddiw?
    A gafodd rhywbeth ei ddanfon at ddrws rhywun fore heddiw – y post, y llaeth?
    Oes unrhyw un yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y penwythnos?  Pwy sy’n eich helpu chi? Hyfforddwr, arweinydd, athro, ffrind?
    Pwy sy’n mynd i siopa weithiau – pwy sy’n eich helpu chi yn y siopau?
    Oes unrhyw un wedi bod yn sâl iawn?  Wnaeth rhywun eich helpu chi?
    Meddyliwch am y gwahanol bobl sy’n eich helpu chi yn yr ysgol – staff y ffreutur, goruchwylwyr amser cinio, athrawon, gofalwyr?

  3. Mae’r Beibl, a llyfrau ffydd eraill, yn aml yn ein hatgoffa na ddylem boeni amdanom ein hunain yn unig, ond am bobl eraill hefyd.  Dyma un enghraifft o lythyr yn y Beibl: ‘Bydded gofal gennych, bob un, nid am ei fuddiannau ei hun yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.’ (Philipiaid 2.4). 

    Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ffodus iawn o gael cymaint o bobl i’n helpu ni yn ein bywydau.  Gadewch i ni beidio ag anghofio hynny, ond bod yn ddiolchgar amdanyn nhw i gyd.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Codwch eich llaw a gwnewch ddwrn.
Codwch eich bysedd fesul un.
Wrth i chi godi pob bys, cofiwch am rywun sy’n eich helpu chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Am famau a thadau a brodyr a chwiorydd,
Rydym yn dweud diolch.
Am ffrindiau, cefndryd, cyfnitherod, rhieni cu a pherthnasau,
Rydym yn dweud diolch.
Am athrawon, staff cinio, gofalwyr a chynorthwywyr dysgu,
Rydym yn dweud diolch.
Am y rhai sy’n danfon ein post a’n llaeth,
Rydym yn dweud diolch.
Am ymladdwyr tân, yr heddlu, doctoriaid a nyrsys,
Rydym yn dweud diolch.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon