Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Ymwelydd

Darparu cyflwyniad syml ar gyfer y Nadolig.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Darparu cyflwyniad syml ar gyfer y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gellir defnyddio un ar ddeg adroddwr gwahanol.  Mae angen y cymeriadau canlynol: Mathew'r torrwr coed; gwraig Mathew; dau blentyn Mathew; yr ymwelydd; Mair; Joseff; angylion; bugeiliaid; seren; tri brenin; tri gwas.

  • Mae’r olygfa gyntaf yn digwydd ym mwthyn y torrwr coed, gyda’r teulu yn eistedd o amgylch y bwrdd yn cael swper.  Mae’r ail olygfa adrodd hanes y geni yn y stabl.

  • Gall athrawon ddehongli a chyflwyno’r deunydd, y gwisgoedd a’r props yn eu dull eu hunain.  Gellid datblygu deialog i blant hyn; byddai meim yn haws i’r rhai iau.

  • Mae angen ‘preseb’ a sedd fechan ar gyfer yr ail olygfa, a hosanau Nadolig wedi’u llenwi ag anrhegion bychan.

  • Bydd angen sawl ymarfer er mwyn sefydlu lleoedd ar y llwyfan, pryd y dylai’r cymeriadau ddod i mewn a mynd allan, sy’n bwysig iawn.

  • Gellir ychwanegu cerddoriaeth ac emynau/caneuon i ehangu’r perfformiad.

Gwasanaeth

Golygfa Un: Ym mwthyn y torrwr coed

Adroddwr 1

Mae hi’n noswyl Nadolig.  Y tu allan, mae hi’n oer ofnadwy.  Rydym yn gallu gweld Mathew'r torrwr coed a’i deulu yn eistedd o amgylch y bwrdd yn bwyta eu swper.  Maen nhw mor dlawd fel mai dim ond ychydig o fara a chawl tenau sydd ganddyn nhw i’w fwyta.

Adroddwr 2

Yn sydyn, mae swn curo ar y drws.  Mae gwraig Mathew yn mynd at y drws, ac yn gweld bod rhywun dieithr ar y trothwy.  Mae hi’n tosturio wrtho ac yn ei wahodd i mewn.  Y mae wedi blino, yn oer ac yn llwglyd, ond mae’r teulu yn rhannu eu swper gydag ef yn gwbl fodlon.

Adroddwr 3

Maen nhw’n treulio noswaith bleserus wrth y tân, yn canu carolau ac yn sgwrsio am yr anrhegion y bydden nhw’n hoffi eu cael, pe na fydden nhw mor dlawd.

(Gellid canu carol yma.)

Adroddwr 4

Mae’n amser gwely, ac mae’r plant yn noswylio â’u rhieni.  Mae’r ymwelydd hefyd yn dweud nos da wrthyn nhw, ac yn dweud wrthyn nhw y byddan nhw’n cael breuddwyd arbennig iawn.

(Mae’r plant yn mynd i gysgu ar ymyl y llwyfan.)

Adroddwr 5

Mae gwraig Mathew yn gwahodd yr ymwelydd i aros dros nos, yn hytrach na mynd allan i’r awyr oer.  Mae hi’n mynd i nôl blanced.  Maen nhw’n dymuno nos da i’w gilydd, ac mae’r ymwelydd yn paratoi i fynd i gysgu.

(Mathew a’i wraig yn paratoi i fynd i gysgu ar ochr arall y llwyfan.)

 

Golygfa Dau: Y Geni

(Cerddoriaeth yn chwarae wrth i’r preseb a’r sedd gael eu gosod yn barod ar ganol y llwyfan.)

Adroddwr 6

Mae’r plant yn cysgu’n drwm.  Yn union fel y dywedodd yr ymwelydd, fe wnaethon nhw ddechrau breuddwydio’r un freuddwyd.

(Chwarae cerddoriaeth dawel.  Mair a Joseff yn dod i mewn, yn cario’r baban Iesu.  Mae Mair yn rhoi’r baban yn y preseb ac yn eistedd i lawr.  Mae Joseff yn sefyll wrth ei hochr.)

Adroddwr 7

Mae Mair a Joseff wedi teithio pellter hir o Nasareth i gofrestru eu henwau.  Nid oedd lle yn unrhyw un o westai Bethlehem.  Yr unig le oedd ar gael iddyn nhw oedd stabl, ac yno y rhoddodd Mair enedigaeth i’r baban Iesu.

Adroddwr 8

Mae angylion yn cyrraedd i’w gwarchod nhw.

(Gellid perfformio dawns yma, wrth i’r angylion fynd i’w lleoedd.)

Adroddwr 9

Wedyn, cyrhaeddodd bugeiliaid.  Roedd yr angylion wedi dweud wrthyn nhw lle roedden nhw i fod i ddod.  Maen nhw’n dod ag oen fel rhodd i’r baban.

(Gellid chwarae ‘Carol y Bugeiliaid’ yma, wrth i’r bugeiliaid fynd i’w lleoedd.)

Adroddwr 10

Mae seren ddisglair yn arwain y tri brenin i’r stabl.  Maen nhw’n dod ag anrhegion gyda nhw - aur, thus a myrr i’w rhoi i’r plentyn sanctaidd.

(Gellid chwarae ‘Tri ym ni o’r dwyrain draw’ yma, wrth i’r brenhinoedd a’u gweision ddod i mewn a moesymgrymu o flaen y baban.)

(Mae set stori’r geni yn aros ar y llwyfan.)

Adroddwr 11

Pan mae’r plant yn deffro, mae hi’n fore Nadolig.  Mae’r ymwelydd wedi diflannu, ond yn y fan lle bu’n cysgu, roedd anrhegion ar gyfer pawb.  Roedd hwn yn ymwelydd anghyffredin, yn sicr.  Pwy allai hwn fod wedi bod?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Felly, mwynhewch ddydd Nadolig,
Ond cofiwch am ein drama fechan.
Roedd y plant wedi synnu o weld
Fod yr anrhegion hynny wedi’u gadael am fod yn garedig.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y Nadolig – mae’n adeg mor arbennig o’r flwyddyn.
Helpa ni i fod yn garedig a hael, yn union fel y teulu yn ein drama.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon