Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sut rydych chi’n Trechu Bwli?

Ystyried pa un yw’r ffordd orau i ddelio â rhywun sy’n bwlio.

gan The Revd Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried pa un yw’r ffordd orau i ddelio â rhywun sy’n bwlio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tegan o ryw fath o ‘ddihiryn’, e.e. Darth Vader, a robot.

  • Rhyw fath o gêm saethu (ddiogel), e.e. bwa a saeth rwber, neu fe allech chi ddefnyddio pêl feddal i’w thaflu.

  • Rhai gwobrau bach.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am ddau wirfoddolwr i ddod i’ch helpu i chwarae gêm. Rhowch y tegan ‘dihiryn’ ar fwrdd a gofynnwch i’r gwirfoddolwyr gymryd eu tro i geisio ei daro i lawr o bellter penodol (gan beidio ag anelu i gyfeiriad gweddill y plant!), naill ai gyda’ch offer saethu neu â’r bêl feddal. Os teimlwch fod hynny’n briodol gallwch eu gwobrwyo â’r gwobrau bach.

  2. Pwysleisiwch ein bod, pan fyddwn yn gwybod fod gennym elynion neu fwlis yn ein plith, yn tueddu i feddwl y gallwn ni eu trechu trwy dalu’n ôl neu trwy ddial arnyn nhw. Ond, nid dyna’r ffordd orau i wneud hynny. Gofynnwch i’r plant sut gallwn ni drechu gelyn? Gwerthfawrogwch yr holl atebion gewch chi, ac yna gofynnwch i’r plant ystyried y geiriau hyn ddywedodd dyn o’r enw Abraham Lincoln: The best way to destroy an enemy is to make him a friend. Y ffordd orau i ddinistrio gelyn yw bod yn ffrind iddo.

  3. Sut gallwch chi wneud hynny? Adroddwch y stori hon.

    Roedd pererin (un sy’n chwilio am y gwir) wedi teithio’n bell i gwrdd â dyn doeth. Pan gyrhaeddodd, fe welodd olygfa od. Roedd yr hen wr yn sefyll mewn afon fechan yn ceisio achub sgorpion oedd wedi cwympo i’r dwr. Fe godai’r hen wr y sgorpion o’r dwr, ond roedd y sgorpion yn ei bigo. Ysgytiai’r hen wr ei law, ac fe ddisgynnai’r sgorpion yn ei ôl i’r dwr. Yna fe godai’r hen wr y creadur unwaith eto allan o’r dwr, a chael ei bigo eto. Digwyddai’r un peth drosodd a throsodd. Bob tro y byddai’n codi’r sgorpion, cai ei bigo, ac roedd y boen yn gwneud i’w law ysgwyd a disgynnai’r sgorpion yn ei ôl i’r afon bob tro. O’r diwedd fe lwyddodd i achub y sgorpion a’i godi i’r lan. Yna fe ofynnodd y pererin i’r dyn doeth pam roedd yn mynnu dal ati i geisio achub y creadur er ei fod yn ei bigo bob tro. Atebodd yr hen wr, ‘Dim ond oherwydd mai dyna yw natur y sgorpion, sef pigo, dydi hynny ddim yn golygu y dylwn i roi’r gorau i’r hyn sy’n naturiol i  mi ei wneud, sef helpu.’

  4. Yn y Beibl, rydym yn gallu darllen yr hanes am Iesu’n troi gelyn yn ffrind. Roedd Iesu wedi’i frifo a’i groeshoelio gan y milwyr. Ond pan oedd ar y groes fe ddywedodd: ‘O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.’ Ac fe sylweddolodd un o’r milwyr, y canwriad, wrth sefyll yno a gweld hyn, a chredodd yn sicr mai mab Duw oedd yno, ac fe ddywedodd: ‘Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn.’ Diweddwch y gwasanaeth gyda’r canlynol: Peidiwch â cheisio trechu bwli trwy fod yn fwli eich hunan. Gofynnwch i’r plant wrando ar y dyfyniad hwn o eiddo dyn enwog o’r enw Martin Luther King (a/neu ei ail adrodd gyda chi): Nid yw tywyllwch yn gallu cael gwared â thywyllwch, dim ond goleuni all wneud hynny; Nid yw casineb yn gallu cael gwared â chasineb; dim ond cariad all wneud hynny - Darkness cannot drive out darkness; only light can do that. Hate cannot drive out hate; only love can do that.

  5. Os yw hynny’n briodol, cyfeiriwch at bolisi gwrth fwlio’r ysgol, a phwysleisiwch y ffaith y byddwch, trwy sgwrsio ag oedolion am y peth, yn gallu helpu’r bwli yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu bwlio.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Nid yw tywyllwch yn gallu cael gwared â thywyllwch; dim ond goleuni all wneud hynny;
Nid yw casineb yn gallu cael gwared â chasineb; dim ond cariad all wneud hynny.
Ydych chi’n gwybod am rywun sy’n cael ei drin yn annheg gan rywun arall? Sut gallwch chi helpu? Gyda phwy y dylech chi siarad?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti ei bod hi’n bosib i oleuni ddod o’r tywyllwch
a’i bod hi’n bosib i gariad dyfu allan o gasineb.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon