Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Hen a’r Newydd

Archwilio gwerth gwneud ffrindiau newydd heb anghofio cadw’r hen ffrindiau hefyd.

gan The Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio gwerth gwneud ffrindiau newydd heb anghofio cadw’r hen ffrindiau hefyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pâr o hen esgidiau a phâr o esgidiau newydd.

Gwasanaeth

  1. Oes rhywun yn gwisgo dillad newydd heddiw? Neu oes ganddyn nhw rywbeth newydd, fel bag neu offeryn cerdd, efallai? Trafodwch enghreifftiau. Oes rhywbeth ganddyn nhw sy’n hen iawn ? Eto, trafodwch y rhain. Pa rai yw’r pethau gorau- hen bethau neu bethau newydd?

  2. Pwysleisiwch y gallai ambell beth sy’n hen fod yn rhywbeth da er hynny: yn aml iawn fe fyddwn ni’n caru pethau sydd wedi bod gennym ni ers talwm. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod am unrhyw beth sydd gan eu rhieni sy’n hen ac yn werthfawr yn eu golwg? Er enghraifft, hen ffotograffau neu bethau sydd wedi bod yn eiddo i’w teuluoedd ers llawer o flynyddoedd? Efallai bod rhywbeth wedi’i drosglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall dros y blynyddoedd, gan deidiau a neiniau i rieni, a hwythau’n eu trosglwyddo i’w plant wedyn, a rheini i’w plant hwythau. Caiff pethau fel hyn eu galw’n drysorau teuluol - heirlooms yn Saesneg.

  3. Dangoswch y ddau bâr o esgidiau. Eglurwch fod un pâr yn hen ac wedi colli eu siâp gwreiddiol, wedi’u crafu a’r gwadnau wedi treulio, ond maen nhw’n parhau i fod yn gyfforddus iawn. Mae’r pâr arall yn newydd a glân ac yn sgleinio, ond maen nhw ychydig yn galed a braidd yn anghyfforddus. Cyfrwch bleidleisiau’r plant i weld ydi hi’n well ganddyn nhw’r esgidiau newydd smart, neu’r hen rai cyfforddus. Eglurwch fod gwadnau’r hen esgidiau wedi mynd yn denau iawn ac na fyddan nhw’n para am byth. Mae’n debyg y bydd yn rhaid eu taflu cyn hir pan fyddan nhw wedi mynd i ddechrau gollwng dwr i mewn iddyn nhw! Fe fyddwch chi’n gweld eu heisiau’n fawr, ond efallai erbyn hynny y bydd yn esgidiau newydd wedi meddalu tipyn ac y byddan nhw erbyn hynny’n fwy cyfforddus.

  4. Symudwch ymlaen gyda’r syniad yma i sgwrsio am ffrindiau. Pa rai yw’r gorau - yr hen ffrindiau neu’r ffrindiau newydd? Pwysleisiwch fod pob hen ffrind wedi bod yn ffrind newydd ryw dro. Rhaid i ni ddal ati i wneud ffrindiau newydd os ydyn ni’n dal i fod eisiau hen ffrindiau. Efallai bod plant newydd yn eich dosbarth, neu efallai eich bod chi’n blentyn newydd yn eich ysgol, neu efallai bod rhai pobl o’ch cwmpas nad ydych wedi siarad â nhw o’r blaen. Siaradwch gyda rhywun newydd heddiw. A phwy â wyr, efallai, ryw ddiwrnod y byddwch chi’n sylweddoli ei fod ef neu hi erbyn hynny’n hen ffrind?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae pob hen ffrind wedi bod yn ffrind newydd unwaith.
Mae fy hen ffrindiau’n golygu llawer i mi.
Rydw i eisiau aros yn ffrindiau gyda nhw, a bod yn ffrind da iddyn nhw.
Mae pob hen ffrind wedi bod yn ffrind newydd unwaith.
Rydw i eisiau gwneud ffrindiau newydd hefyd.
Oherwydd, heb ffrindiau newydd, fyddai gennym ni ddim hen ffrindiau.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ffrindiau, diolch am y rhodd o gyfeillgarwch,
diolch am bob ffrind – y rhai rydw i’n eu hadnabod a’r rhai hynny dydw i ddim yn eu hadnabod eto.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon