Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llongau wrth Gefn sy’n Barod i Achub

Archwilio a deall ystyr yr enw ‘Emanwel’.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio a deall ystyr yr enw ‘Emanwel’.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Siaradwch gyda’r plant am y diwydiant olew ym Môr y Gogledd. Eglurwch fod yr olew i’w gael yn ddwfn yn y ddaear o dan wely’r môr. Pan fydd llwyfannau olew’n cael eu codi, caiff y llwyfannau, neu’r rigiau, eu hadeiladu ar y tir yn y lle cyntaf, yna eu llusgo allan i’r môr, a’u gosod uwchben lle mae’r olew i’w gael. Yna, fe fydd y gweithwyr yn gallu tyllu amdano a’i bwmpio o grombil y ddaear i’r wyneb. Caiff y gweithwyr eu cludo yno i’r rigiau gan hofrenyddion i weithio ar y llwyfannau. Yn ogystal â’r peirianwyr a’r dynion sy’n tyllu am yr olew, mae yno gogyddion, doctoriaid, pobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau brys, glanhawyr a phobl yn gwneud gwaith swyddfa. Dangoswch unrhyw luniau sydd gennych chi o lwyfannau olew.

  2. Trafodwch yr anawsterau sydd yn ymwneud â gweithio mewn lle o’r fath. Soniwch am y stormydd ar y môr yn y tywydd garw, ac am beryglon ffrwydradau a thân.

  3. Er pan ddechreuwyd tynnu olew o Fôr y Gogledd, mae’r llwyfannau olew wedi bod angen llongau wrth gefn, fyddai’n barod i achub y gweithwyr mewn achos o argyfwng. Yr enw am y llongau hyn yw’r Emergency Response Rescue Vessels neu’r ERRVs, fel y maen nhw’n cael eu galw. Mae’r llongau hyn yn cadw’n agos at y llwyfannau olew. Maen nhw’n symud o gwmpas y llwyfan gan gadw golwg, ac yn barod bob amser ar gyfer unrhyw beth a allai fynd o’i le. Er enghraifft, byddai criw'r llong yn barod i achub unrhyw un pe byddai’n llithro ac yn disgyn i’r môr, neu pe digwyddai unrhyw ddamwain arall. Mae cwch achub cyflym ar bob un o’r llongau.

  4. Dangoswch luniau o’r llongau hyn os oes rhai gennych chi ac adroddwch hanes cyrch achub y West Gamma.

    Roedd llwyfan olew West Gamma wedi’i adeiladu ac yn cael ei gludo i’w le ym Môr y Gogledd. Fe gododd storm ar y môr yn ystod y dydd a dechreuodd y llwyfan arnofio i gyfeiriad arfordir Gogledd yr Almaen. Erbyn y nos, roedd y tywydd wedi gwaethygu - y gwynt yn gryf a’r tonnau mawr yn codi’n uchel gan guro’n galed ar y llwyfan olew . Roedd yn rhaid achub y gweithwyr oedd ar y llwyfan. Ond roedd y llwyfan yn cael ei godi a’i ysgwyd gan nerth y tonnau, ac ni allai’r hofrenyddion ddod yn ddigon agos ato i godi’r gweithwyr oddi arno. Yn ffodus, anfonwyd dwy long achub arall oedd yn perthyn i lwyfannau olew gwlad Denmarc yno i helpu. Enwau’r llongau rheini oedd yr Omega a’r Protector. Mewn cyrch achub enbydus, fe glymodd gweithwyr llwyfan olew’r West Gamma eu hunain gyda’i gilydd yn grwpiau o bump neu chwech a neidio  i mewn i ganol tonnau gwyllt y môr. Gyda help golau cryf yr hofrenyddion roedd aelodau’r tîm achub yn gallu gweld yn union ble roedd y dynion ac yn gallu cyfarwyddo cychod achub y ddwy long i fynd atyn nhw i’w hachub.

  5. Diolch byth, mae’n debyg na fydd arnom ni byth angen llong i fod wrth gefn i’n hachub mewn amgylchiadau o’r fath. Ond, weithiau, fe allwn ni gael stormydd o ryw fath yn ein bywydau - adegau anodd pryd y bydd arnom ni angen help, ac adegau pan fyddwn ni’n falch o wybod fod rhywun yno i ofalu amdanom ni.

  6. Mae Cristnogion yn credu mai dyna yw ystyr stori’r Nadolig. Mae’r stori’n dweud fod Duw yn gwybod fod arnom ni angen rhywun i ofalu amdanom ni, i fod wrth law mewn argyfwng. Felly, fe anfonodd Iesu i’r byd. Cafodd Iesu enw neu deitl arall. Roedd yn cael ei alw’n Emanwel. Ystyr yr enw Emanwel yw ‘Duw gyda ni’. Nawr, a ninnau ar ddechrau blwyddyn newydd, dydyn ni ddim yn gwybod pa her sydd o’n blaenau ni yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Ond, gadewch i ni gofio neges y Nadolig: fod Duw gyda ni - Emanwel.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae llawer o bobl a gwasanaethau ar gael lle gallwn ni droi atyn nhw am help pan fyddwn ni mewn helbul.
Mae llawer o bobl wedi’u hyfforddi i wrando ar ein problemau ac i’n helpu ni.
Pwy sydd yn fy helpu gyda fy mhroblemau?

Gweddi
Rydyn ni’n diolch i ti, Dduw, dy fod ti eisiau bod yn ein hymyl.
Diolch dy fod ti, fel y llong achub sydd wrth law rhag ofn bod argyfwng,
yno bob amser i’n helpu ni a’n gwarchod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon