Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Derbyn y Garw ynghyd â’r Llyfn

Helpu’r plant i werthfawrogi bod caru rhywun yn gallu golygu adegau anodd yn ogystal ag adegau pleserus, a bod cydweithio i ddatrys problemau a gorchfygu anawsterau yn arwydd o wir gariad.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i werthfawrogi bod caru rhywun yn gallu golygu adegau anodd yn ogystal ag adegau pleserus, a bod cydweithio i ddatrys problemau a gorchfygu anawsterau yn arwydd o wir gariad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amlen sy’n cynnwys y set o gyfarwyddiadau welwch chi yn rhif 1.

  • Nodwch: Fe allai’r gwasanaeth yma arwain at wers ddosbarth ddefnyddiol mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh - PSHE) yn delio â sut rydyn ni’n ymateb i’r naill a’r llall ar ddyddiau pan fydd pethau ddim yn dda rhyngom fel ffrindiau. Fe allai nifer o senarios dramâu byr, wedi’u sylfaenu ar fywyd go-iawn, fod yn syniadau defnyddiol i’w defnyddio. Fe fyddai hyn yn cyflwyno strategaethau defnyddiol i blant y gallen nhw’u defnyddio pe bydden nhw’n gorfod wynebu adegau anodd gyda ffrindiau. Byddai hyn yn eu helpu i faddau a symud ymlaen gyda’r cyfeillgarwch.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant eich bod yn dechrau paratoi ar gyfer aelod newydd o’r teulu. Fe wyddoch chi ei fod bob amser yn beth da paratoi o flaen llaw yn y ffordd orau fedrwch chi, ac rydych chi wedi gofyn am rai cyfarwyddiadau er mwyn eich helpu chi baratoi. Smaliwch agor llythyr a’i ddarllen.

    (1)  Arllwyswch sudd afal oer ar y carped mewn sawl lle a cherddwch yn droednoeth yn y tywyllwch.
    (2)  Gwisgwch hosan i fynd i’r gwaith sy’n llawn tyllau.
    (3)  Taflwch y dillad sydd eisiau eu golchi, nid i’r peiriant golchi, ond dros y dodrefn a’r llawr yn eich ystafell fyw, a’u gadael yno, hyd yn oed os ydych chi’n disgwyl pobl ddieithr alw i’ch gweld .
    (4)  Chwaraewch gêm o ddal pêl gyda phêl tennis wlyb.
    (5)  Dechreuwch ymarfer mynd ag aelod newydd o’r teulu allan trwy’r drws bob chwarter awr iddo gael mynd i’r toiled, hyd yn oed ar ganol eich hoff raglen deledu; hefyd dechreuwch ymarfer bod yn amyneddgar!
    (6)  Rhedwch allan i’r eira yn droednoeth i gau’r giât neu’r llidiart.
    (7)  Ewch i nôl blanced esmwyth gynnes o’r cwpwrdd dillad a’i rhoi amdanoch a swatio ar gadair esmwyth. Dyma’r teimlad gewch chi pan fydd eich ci bach yn cysgu’n drwm ar eich glin.

  2. A wnaeth y plant ddyfalu mai ci bach oedd yr aelod newydd hwn yn eich teulu? A gafodd unrhyw rai o’r plant gi bach neu unrhyw anifail arall yn anrheg Nadolig? Helpwch nhw i sylweddoli bod cymysgiad o emosiynau yn ymwneud â bod yn gyfrifol am anifail bychan a gofalu amdano.

  3. Meddyliwch am y bobl sydd agosaf atom ni, aelodau ein teulu. Yn aml, mae’n swnio’n hawdd caru ein gilydd a byw’n gytûn gyda’r naill a’r llall. Ond weithiau, fe fydd adegau pan fyddwn ni’n methu cydweld, ac yn blino ar gwmni ein gilydd. Pwysleisiwch fod hyn yn beth cwbl normal. Eglurwch fod dysgu derbyn y llyfn yn ogystal â’r garw, derbyn y melys a’r chwerw, yn rhan o fywyd.

  4. Awgrymwch y bydd ein cariad tuag at ein hanifeiliaid anwes yn tyfu os gwnawn ni ofalu amdanyn nhw hyd yn oed ar yr adegau y bydd gwneud hynny’n anodd a ninnau’n ddiamynedd hefyd – tybed a yw hyn yn wir am bobl yn ogystal ag am anifeiliaid anwes?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Fydd hi’n hawdd neu’n anodd byw gyda mi heddiw?
Fydda i’n gwneud rhai pethau heddiw na fydda i awydd eu gwneud, ond a fydd yn helpu pobl eraill?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch dy fod ti’n ein caru ni bob amser,
waeth sut byddwn ni’n teimlo,
ar ddyddiau da, a hefyd ar ddyddiau pan fyddwn ni ddim yn teimlo cystal.
Dysga ni i fod yn barod i dderbyn ein gilydd, waeth sut rydyn ni’n teimlo.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon