Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud Pethau Bychain

Gwerthfawrogi bod cynigion syml o help bach yn aml yn gallu gwneud gwahaniaeth MAWR.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi bod cynigion syml o help bach yn aml yn gallu gwneud gwahaniaeth MAWR.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfr Elmer and the Butterfly gan David McKee (Red Fox, 2003, ISBN: 978-0099439684).

  • Siâp eliffant mawr, wedi’i dorri allan o bapur ac wedi’i orchuddio â sgwariau papur lliw, yn debyg i Elmer. Yn ddelfrydol, fe fydd hwn yn cael ei lunio gan rai o’r plant o flaen llaw. Mae’n bosib i bob plentyn yn y dosbarth osod sgwâr neu ddau, fel bod pawb wedi bod yn rhan o’i greu. Efallai y gallech chi wneud un pili-pala bychan papur hefyd.

  • Os mai cyflwyniad dosbarth fydd y gwasanaeth, mae’n bosib i chi baratoi grwp o blant i ailadrodd y stori neu i lwyfannu fersiwn ddramatig ohoni.

  • Paratowch eiriau’r Fam Teresa i’w harddangos (gwelwch rhif 6.).

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy gyflwyno’r cymeriad, Elmer, i’r plant. Eliffant yw Elmer – eliffant clytwaith. Dangoswch yr eliffant papur gan egluro nad oedd gennych chi amser i wneud eliffant clytwaith yn union yr un fath ag Elmer, ond fod y plant wedi eich helpu i wneud un tebyg. Eglurwch sut y gwnaethoch chi eich eliffant chi. Mae nifer fawr o blant wedi helpu i’w lunio, nifer fawr wedi cymryd rhan fechan mewn prosiect mawr. Soniwch ei fod wedi bod yn weithgaredd pleserus, ond soniwch hefyd ei bod wedi bod yn llawer haws  gwneud y pili-pala bach.

  2. Darllenwch y stori ganlynol, neu adroddwch stori Elmer and the Butterfly yn eich geiriau eich hun.

    Roedd Elmer yn mynd am dro pan glywodd lais bach yn galw am help. Roedd pili-pala bach wedi ei gaethiwo mewn twll, wedi i gangen ddisgyn ar draws ceg y twll. Gwaith hawdd iawn oedd i Elmer symud y gangen ac achub y pili-pala bach. Diolchodd y pili-pala i Elmer am ei achub gan addo y byddai yn ei helpu ef unrhyw dro y byddai arno angen ei help. Allai Elmer ddim dychmygu sut y gallai pili-pala bach felly ei helpu ef, yr eliffant mawr, byth! 

    Ond, cafodd wybod yn fuan, pan lithrodd tir o lwybr pen y clogwyn i lawr a’i gau mewn ogof. Roedd wedi’i gaethiwo yno, ond fe ddaeth y pili-pala bach i’w achub!

  3. Gwahoddwch y plant i ystyried beth mae’r stori’n ei ddweud wrthym ni ynghylch helpu ein gilydd. Mae dywediad yn Saesneg sy’n sôn am wneud troeon da â’n gilydd -  ‘one good turn deserves another’. Ond doedd Elmer ddim yn gallu meddwl sut y byddai’n bosib i un mor fach â’r pili-pala ei helpu ef, byth! Ydi hi’n bosib i bili-pala achub eliffant? Gwahoddwch y plant i ystyried sut mai dim ond y pili-pala bach allai fynd i chwilio am help yr adeg honno pan oedd Elmer yn methu symud - yn methu dod allan o’r lle’r oedd wedi’i gau i mewn ynddo o dan y clogwyn! (Sut y byddem ni’n gallu galw am help pe byddem ni’n rhan o argyfwng go iawn?)

  4. Meddyliwch am y ffaith bod adegau pan fydd ar bob un ohonom angen help pobl eraill. A bod helpu mewn ffyrdd syml yn aml yn bwysig iawn. Anogwch y plant i ystyried sut y gallai hyn fod yn wir yn yr ysgol. Meddyliwch yn ôl i’r amser pan oedd pawb wrthi’n ddyfal yn llunio’r Elmer sgwariau papur. Gall darnau bach ‘maint pili-pala’ wneud gwahaniaeth mawr ‘maint eliffant’.

  5. (Dewisol) Os oes plant hyn yn y gwasanaeth, fe allech chi gyfeirio at rai o’r storïau yn y Beibl sy’n cyfeirio at gynigion  bach o help a wnaeth wahaniaeth mawr.

    Roedd Pedr wedi caniatáu i Iesu eistedd yn ei gwch - wedyn roedd pawb yn y dyrfa yn gallu ei weld a chlywed yr hyn oedd ganddo i’w ddweud wrthyn nhw.
    Roedd bachgen bach yn fodlon rhannu ei becyn bwyd (pum torth fach o fara a dau bysgodyn) - ac fe helpodd hynny Iesu i ofalu bod cannoedd o bobl oedd eisiau bwyd yn cael eu bwydo.
    Rhoddodd rhywun fenthyg asyn i Iesu fel ei fod yn gallu dangos i’r byd mai ef oedd Brenin Tangnefedd.
    Roedd Iesu’n gwerthfawrogi cynigion syml o help gan bobl gyffredin.

  6. Dangoswch eiriau’r Fam Teresa. Fe roddodd y Fam Teresa ei holl fywyd i ofalu am rai o bobl dlotaf y byd. Roedd hi’n annog pobl eraill hefyd i gofio pa mor bwysig yw hi i helpu pobl eraill mewn ffyrdd syml.

        ‘Nid yw byth yn rhy fach ...  Mae llawer o bobl sy’n gallu gwneud pethau mawr. Ond ychydig iawn o bobl sy’n fodlon gwneud y pethau bach.’

         ‘It is never too small … There are many people who can do big things. But there are very few people who will do the small things.’

Amser i feddwl

Myfyrdod
Llais 1: Ydi Angharad yn gallu helpu?
Llais 2: Oes angen help arnoch chi?
Llais 3: Os gwelwch yn dda, wnewch chi fy helpu i…?
Llais 4: Ydw i’n gallu helpu?
Llais 5: Beth am Ifan?
Llais 6: Mae’n bosib i ni gyd helpu a chefnogi ein gilydd…
Llais 7: …a chofio bod pethau bach…
Pawb (yn uchel!): YN GALLU GWNEUD GWAHANIAETH MAWR!

Gweddi
Llais 1: Ydi Angharad yn gallu helpu?
Llais 2: Oes angen help arnoch chi?
Llais 3: Os gwelwch yn dda, wnewch chi fy helpu i…?
Llais 4: Ydw i’n gallu helpu?
Llais 5: Beth am Ifan ?
Llais 6: Annwyl Dduw, helpa ni i weld sut y gallwn ni i gyd helpu a chefnogi ein gilydd…
Llais 7: …a chofio bod pethau bach…
Pawb (yn uchel!): YN GALLU GWNEUD GWAHANIAETH MAWR!

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon