Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cynlluniau Mawr

Awgrymu ein bod weithiau’n gorfod cymryd camau mewn ffydd ac ymrwymo’n hunain i rywbeth neilltuol, neu geisio gwneud rhywbeth mawr - hyd yn oed os na fyddwn ni’n gwybod yn hollol sicr sut y byddwn ni’n gwneud hynny!

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Awgrymu ein bod weithiau’n gorfod cymryd camau mewn ffydd ac ymrwymo’n hunain i rywbeth neilltuol, neu geisio gwneud rhywbeth mawr - hyd yn oed os na fyddwn ni’n gwybod yn hollol sicr sut y byddwn ni’n gwneud hynny!

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim gwaith paratoi – ar wahân, efallai, i gymryd anadl ddofn cyn mentro ymgymryd â rhai o’r syniadau sydd yn y gwasanaeth yma!

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddarllen y geiriau canlynol, sy’n addasiad o eiriau’r Arlywydd Kennedy o araith a wnaeth yn 1961.

    ‘I believe that this nation should commit itself to achieving the goal, before this decade is out, of eating a piece of pie. No single project in this period will be more impressive to mankind, or more important; and none will be so difficult or expensive to accomplish.’

    Neu, mewn geiriau eraill: ‘Rydw i’n credu y dylai’r genedl hon ymrwymo’i hun, cyn i’r ddegawd hon ddod i ben, i  gyrraedd y nod o fwyta darn o bastai. Fydd yr un prosiect yn y cyfnod hwn yn fwy nodedig yn hanes dynolryw, nac yn bwysicach; a fydd dim un sy’n fwy anodd nac yn fwy costus i’w gyflawni.’

    Gofynnwch i’r plant beth sydd o’i le yn y geiriau rydych chi newydd eu darllen, ac a oes unrhyw un all gynnig beth ddylai fod yn lle’r geiriau ‘bwyta darn o bastai’?

    Eglurwch fod y geiriau’n rhan o araith a wnaed gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, John F. Kennedy, yn 1961, ac roedd yn siarad am geisio glanio ar y lleuad. Dyma beth ddywedodd o mewn gwirionedd:

    I believe that this nation should commit itself to achieving the goal, before this decade is out, of landing a man on the Moon and returning him safely to the Earth. No single space project in this period will be more impressive to mankind or more important for the long-range exploration of space; and none will be so difficult or expensive to accomplish.’

    Neu, mewn geiriau eraill: ‘Rydw i’n credu y dylai’r genedl hon ymrwymo’i hun, cyn i’r ddegawd hon ddod i ben, i  gyrraedd y nod o lanio dyn ar y lleuad a dod ag ef yn ôl yn ddiogel i’r Ddaear. Fydd yr un prosiect sy’n ymwneud â’r gofod, yn y cyfnod hwn, yn fwy nodedig yn hanes dynolryw, nac yn bwysicach yn achos teithiau hir archwilio’r gofod; a fydd dim un sy’n fwy anodd nac yn fwy costus i’w gyflawni.’
  2. Pwysleisiwch y ffaith nad oedd neb, ar y pryd y dywedodd John F Kennedy hyn, yn gwybod sut y bydden nhw’n gallu cyflawni hyn; ac yn sicr doedd ef ei hun ddim yn gwybod sut i wneud hynny. Roedd hi’n ddyddiau cynnar teithio yn y gofod. Bryd hynny doedd gan neb roced allai gyrraedd y lleuad, nac ychwaith syniad sut y gallai hynny fod yn bosib. Ond eto, dyna beth ddigwyddodd, fe laniodd dyn ar y lleuad, a dod yn ôl yn ddiogel. Dyfeisiwyd deunyddiau a thanwydd newydd, ac arbrofwyd gyda thechnegau newydd. Costiodd hyn nid miliynau, ond biliynau o ddoleri, ac yn 1969 – llai na deng mlynedd ar ôl araith Kennedy – fe laniodd dau ofodwr o America, Neil Armstrong a Buzz Aldrin, ar y lleuad. Fe gerddodd y ddau ar wyneb y lleuad cyn dychwelyd i’r ddaear gyda thrydydd aelod y criw, Michael Collins.

    Doedd Kennedy ddim yn gwybod y byddai hyn yn digwydd, ond roedd ganddo ddigon o hyder yng ngwyddonwyr a pheirianwyr ei wlad i gredu y bydden nhw’n dod o hyd i’r atebion ac yn llwyddo rhywsut i wneud hyn.

  3. Beth fyddech chi’n ei ddweud mewn araith fawr, pe baech chi’n gwneud un eich hun:

    ‘Rydw i’n credu y dylai’r  ysgol hon ymrwymo’i hun, cyn i’r diwedd y flwyddyn, i  gyrraedd y nod o …

    Trafodwch yr awgrymiadau y gallai’r plant eu cynnig yma, fel codi £1,000 ar gyfer prosiect neilltuol; codi swm da o arian at elusen; gwella rhyw agwedd ar fywyd yr ysgol. Beth bynnag yw eu hawgrym, fe ddylai fod yn brosiect mawr gyda nod pendant – fydd dweud ‘ceisio gwneud yn well’ neu ‘bod yn fwy caredig’ ddim yn gwneud y tro yn yr achos yma!

  4. Dyma un syniad mawr: Beth pe byddai’r Undeb Ewropeaidd yn adleisio araith Kennedy gyda datganiad fel hwn:

    ‘We believe that the nations of this Union should commit themselves to achieving the goal, within ten years, of developing cheap, safe, non-polluting energy for the world. No single project in this period will be more impressive or more important for the long-term development of humankind and peace among nations; and none will be so difficult or expensive to accomplish, requiring us to work together for the good of all.’

    Neu, mewn geiriau eraill: ‘Rydw i’n credu y dylai cenhedloedd yr Undeb hon ymrwymo’i hunain, o fewn deng mlynedd, i  gyrraedd y nod o ddatblygu ynni rhad, diogel, heb lygredd i’r byd. Fydd yr un prosiect yn y cyfnod hwn yn fwy nodedig yn hanes dynolryw, nac yn bwysicach yn achos datblygiad tymor hir dynolryw a heddwch ymhlith y cenhedloedd; a fydd dim un sy’n fwy anodd nac yn fwy costus i’w gyflawni, gan ofyn i ni weithio gyda’n gilydd er lles pawb.’

    Beth ddigwyddai tybed, pe byddai pob ysgol sy’n defnyddio’r gwasanaeth neilltuol hwn, yn anfon llythyr at eu haelodau Seneddol Ewropeaidd (MEP) yn awgrymu nod felly i ymgyrraedd ato?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae syniad mawr yn beth gwych.
Mae cyflawniad mawr hyd yn oed yn well!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn eofn ac yn ddewr wrth i ni feddwl am bethau y byddem ni’n gallu eu cyflawni gyda’n gilydd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Mae ’na syniad mawr’, addasiad o eiriau Saesneg, Gordon Lamont, i’w canu ar y gân ‘Mae’r byd mawr yn ei law’ (‘He’s got the whole world in his hand’).
Mae ’na syniad mawr yn yr aer
Mae ’na syniad mawr yn yr aer
Mae ’na syniad mawr yn yr aer
Syniad mawr yn yr aer.
Fe awn i’r lleuad, meddai Kennedy  
Fe awn i’r lleuad, meddai Kennedy  
Fe awn i’r lleuad, meddai Kennedy  
Ac yno’r aethon nhw.
Beth am wneud rhywbeth mawr yn ein hysgol ni?
Beth am wneud rhywbeth mawr yn ein hysgol ni?
Beth am wneud rhywbeth mawr yn ein hysgol ni?
Gwneud rhywbeth mawr wnawn ni.
Beth am ddatrys problemau mawr ein byd?
Beth am ddatrys problemau mawr ein byd?
Beth am ddatrys problemau mawr ein byd?
Gan ddechrau yma’n awr.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon