Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Jo Bach Blêr

Awgrymu y gallwn ni i gyd newid er gwell.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Awgrymu y gallwn ni i gyd newid er gwell.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os yw’r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno gan yr athro neu’r athrawes, does dim llawer o waith paratoi, ond fe fyddai OHP/ bwrdd gwyn yn ddefnyddiol wrth ddarllen y gerdd.

  • Neu, fe allech chi addasu’r deunydd a’i baratoi ar gyfer cael ei ddarllen gan  unigolion, neu grwpiau llefaru, neu hyd yn oed ei actio ar ôl ymarfer rhywfaint.

  • Os hoffech chi awgrymiadau ar gyfer defnyddio drama mewn gwasanaethau cliciwch ar using drama in assemblies neu weld yr adran resources ar wefan SPCK.

  • Nodwch: Mae’r gerdd yn canolbwyntio ar fochyn, felly fe fyddai’n anaddas ar gyfer plant sy’n Iddewon neu’n Fwslimiaid.

Gwasanaeth

  1. Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae llawer ohonom yn llawn bwriadau da. Efallai yr hoffech chi holi’r plant a oes rhai ohonyn nhw wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd a/ neu cyfeiriwch yn ôl at wasanaeth blaenorol ar y pwnc yma. Rhowch amser i’r plant drafod unrhyw addunedau a wnaethon nhw, a’r rhesymau pam roedden nhw am eu gwneud.

  2. Ewch ymlaen trwy ofyn i’r plant wrando ar y gerdd sy’n dilyn.

    Jo Bach Blêr 
    addasiad o gerdd Jan Edmunds

    Roedd unwaith fachgen o’r enw Jo, roedd ei rieni ar fin anobeithio ag o.
    Fe adawai ei ddillad ar lawr ym mhob man, doedd dim posib mynd mewn i’w ystafell bron!
    Roedd golwg arno, a’i wallt yn anniben, doedd dim gwahaniaeth gan Jo, ni phoenai ’run ffeuen.
    A’i wyneb yn fudr, a dweud yn blaen, fe ddwrdiai ei fam gan ddweud, ‘Tyrd yn dy flaen!
    Dos i ymolchi, a chadw dy bethau’n reit sydyn.’ Ond eu gadael a wnâi Jo, a methu dod o hyd iddyn nhw wedyn!

    Un dydd, daeth ei nain yno am dro, a phenderfynodd hi geisio ei helpu o. 
    ‘Taclusa dy ystafell, Jo Bach,’ meddai hi. Ond doedd Jo ddim am wrando ar neb welwch chi.
    Ac meddai hithau, ‘Wel dos ar dy rawd! Dos i weld fedri di ddod o hyd i dy frawd!’
    ‘Does gen i ddim brawd,’ chwarddodd Jo, ond penderfynodd fynd allan i rywle am dro.
    ‘Ie , dos yn wir, i weld pwy weli di. Rwy’n siwr y doi di o hyd iddo fo, os gwnei di ymdrechu.
    Ac allan a fo i’r ardd ac i’r caeau, gan holi pob creadur, pwy bynnag a welai.

    ‘Ai ti yw fy mrawd?’ gofynnodd i’r gath. ‘Na, dydw i ddim yn meddwl ein bod ni ’run fath.
    Daeth ci mawr o rywle ag asgwrn i’w gnoi. ‘Na,’ meddai hwnnw, ac aeth ymlaen heb ymdroi.
    Ar frig y pren roedd aderyn bach, ond pan glywodd y cwestiwn fe ganodd yn iach.
    ‘O, nage yn wir,’ meddai’r aderyn yn syth, ‘lle bach taclus iawn sydd gen i yn fy nyth.
    Fyddwn i byth eisiau bod yn flêr fel ti.’ Ac i ffwrdd a fo heibio talcen y ty.

    Yna, pwy ddaeth rownd y gornel i’w gwrdd, ond clamp o fochyn yn rhochian yn swrth.
    ‘Hei! Ble rwyt ti’n mynd?’ holodd y mochyn i Jo, ‘Wyt ti eisiau dod efo fi am dro?
    Rwyt ti’n debyg i mi efo dy wyneb budr a baw ar dy ddwylo. Gallet fod yn frawd i mi, wyt ti ddim yn cytuno?’
    ‘Na, na,’ meddai Jo, ‘Dw i ddim byd tebyg i ti. Rwyt ti’n byw mewn twlc mochyn. Na, na, ych-a-fi!
    Rwyt ti’n fudr a drewllyd, ac yn rholio mewn baw. Na! Na!’ meddai Jo gan brotestio mewn braw.
    ‘Wel,’ meddai’r mochyn gan ddadlau’n rhesymol, ‘lle anniben iawn yw dy lofft yn ôl beth ddywed pobl.
    Dwyt ti ddim yn hoffi ymolchi na chribo dy wallt, er i dy rieni di dy ddwrdio yn hallt. 
    Tyrd i fyw efo fi, mae gen i ddigon o le. Cei fod yn frawd i mi. Dyna hwyl fyddai hynny, ynte?’

    Roedd Jo wedi dychryn a rhedodd yn ôl, roedd yn edifar ganddo fod yn fachgen mor ffôl.
    ‘Deffra, Jo Bach,’ meddai llais o rywle. Ei nain oedd yno - ac wedi breuddwydio roedd yntau!
    Safai ei nain wrth ymyl ei wely, a dyna falch oedd Jo o’i gweld yno’n gwenu.
    Meddyliodd yn ddwys am yr hyn roedd hi wedi’i ddweud, a phenderfynodd mewn eiliad beth fyddai’n ei wneud.
    Fe geisiai ei orau i gadw’i ’stafell yn drefnus, fe ymolchai ei wyneb a gwneud ei wallt yn daclus.
    Bath bob nos, heb ddim gwrthwynebu, a phlygu ei ddillad cyn mynd i’w wely.
    Cadw ei lyfrau a’i holl deganau, yn daclus bob amser ar ôl gorffen chwarae.
    Ei Nain wnaeth ei helpu, fel mae hi’n gwneud o hyd. Un ddoeth yw ei nain, heb stwr yn y byd.

    Ac erbyn hyn mae brawd bach newydd gan Jo - wyddoch chi be - mae’n debyg iawn iddo fo.
    Bachgen bach del yw’r babi newydd - ie, hogyn - a na, dim o gwbl, nid yw’n debyg i fochyn! 

  3. Treuliwch ychydig o amser yn trafod y stori. Fe allech chi bwysleisio’r ffaith bod pobl yn meddwl yn aml am foch fel creaduriaid budr. Y rheswm am hynny mae’n debyg yw am ei bod i’w gweld mewn caeau lle maen nhw’n hoffi tyrchu yn y pridd ac yn hoffi gorwedd yn y mwd. Y gwir yw eu bod greaduriaid cymdeithasol ac yn greaduriaid glân iawn hefyd, fel arall. Felly mae’n bosib i chi hefyd ychwanegu’r sylw yma ynghylch y ffaith na allwch chi farnu rhywun wrth ei olwg bob amser!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Ydych chi’n rhywun anniben – neu tybed a ydych chi’n rhy daclus?
Nid yw ychydig o annibendod yn beth drwg, am fod bywyd yn rhy bwysig i dreulio pob munud ohono yn poeni am fod yn daclus.
Ond fe all gormod o anrhefn fod yn rhwystr pan fyddwch chi’n methu dod o hyd i’ch papur neu’ch pensil, eich llyfr, neu efallai eich cinio!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Ar ddechrau blwyddyn newydd fel hon, helpa ni i fod yn well pobl.
Dysga ni i fod yn ystyriol ac yn garedig wrth bobl eraill.
Gad i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y byd yn well lle.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon