Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Samariad Trugarog

Ystyried pa mor bwysig yw helpu ein gilydd.

gan Jenny Tuxford

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw helpu ein gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Darllenwch stori’r Samariad Trugarog o flaen llaw i blant y dosbarthiadau fydd yn bresennol yn y gwasanaeth (Luc 10.25–34).

  • Dewisol: Dau sgarff y timau pêl-droed – West Ham a Lerpwl.

  • Fe allech chi ofyn i’r plant gymryd eu tro i ddarllen y penillion, neu efallai actio’r stori fel bydd rhywun arall yn darllen.

Gwasanaeth

  1. Mae llinell adnabyddus yn y ddrama enwog gan Shakespeare, Julius Caesar: ‘Friends, Romans, Countrymen, lend me your ears.’ 

    Pan fydd y cymeriad yn y ddrama’n dweud hyn, dydi o ddim mewn gwirionedd eisiau benthyg clustiau neb. Dydi o ddim eisiau i unrhyw un dynnu ei glustiau oddi ar ochr ei ben a’u rhoi iddo, fel pe baech chi’n rhoi benthyg llyfr neu bensil i rywun. Yr hyn sydd arno ei eisiau yw i bobl wrando arno.

    Maen nhw’n dweud, ‘Lend me a hand,’ hefyd yn Saesneg weithiau. Dydy hynny ddim yn golygu bod angen i chi dynnu eich llaw i ffwrdd a’i rhoi iddyn nhw. Yr hyn maen nhw eisiau yw i chi eu helpu nhw. Mae’r ffordd maen nhw’n dweud hyn yn Gymraeg rywfaint yn gliriach. Fe fyddwn ni’n gofyn am ‘help llaw’. Ffordd o siarad yw hyn, wrth gwrs, ac fe fyddwn ninnau’n deall beth mae’r un sy’n gofyn ei eisiau.

    Nawr, pwy fyddwch chi’n ei helpu? - aelodau eich teulu, eich anifeiliaid anwes, eich ffrindiau? A phwy yw’r rhai y dylech chi eu helpu?

  2. Yn y Beibl, mae stori am gyfreithiwr yn gofyn yr un math o gwestiwn i Iesu. Yr ateb a gafodd gan Iesu oedd y dylai helpu ei gymydog. ‘Ond pwy yw fy nghymydog?’ holodd y cyfreithiwr wedyn. Efallai eich bod chi’n gofyn yr un cwestiwn i chi eich hunain. Ai’r un sy’n byw yn y ty nesaf at eich ty chi yw eich cymydog? Ai’r un sy’n eistedd yn y sedd agosaf atoch chi yn y dosbarth? Pwy?

  3. Adroddodd Iesu stori’r Samariad Trugarog wrth y cyfreithiwr hwnnw. A heddiw, mae gennym ni ein fersiwn ein hunain o’r stori. Ceisiwch ddyfalu pwy yw’r cymydog yn ein stori ni.

    Y Samariad Trugarog
    addasiad o gerdd gan Jenny Tuxford

    Un Sadwrn yn y gaeaf 
    Aeth dyn ifanc o’r enw Mark
    I weld ei hoff dîm yn chwarae,
    yn Upton Park.

    Gweld ei dîm yn ennill y cwpan,
    Dyna beth fyddai Mark yn ei freuddwydio.
    Nawr, roedden nhw’n chwarae yn erbyn Lerpwl,
    Roedd hwnnw’n dîm anodd ei guro.

    Wel, fe chwaraeodd West Ham ar eu gorau,
    Fe sgoriwyd y goliau yn chwim,
    A phan chwythwyd y chwiban olaf,
    Y sgôr oedd pymtheg i ddim!

    Gyda swn y canu a’r gorfoleddu
    Yn diasbedain dros bob man,
    Roedd Mark wrth ei fodd, ac mor hapus -
    nes daeth digwyddiad anffodus i’w ran.

    Wrth fynd o’r cae, daeth dynion ato o rywle,
    Ac ymosod arno heb reswm yn y byd, 
    Dwyn ei waled, a’i guro yn arw,
    A’i adael ar lawr, ar ei hyd.

    Doedd dim llawer o neb ar ôl yn y seddau,
    Roedd bron bawb wedi gadael y maes.
    Fe geisiodd Mark weiddi ar rywun i’w helpu,
    Ond roedd yn rhy wan, a heb lais, i roi gwaedd.

    Ar hynny, fe basiodd rhyw ddoctor, 
    A gweld Mark yn gorwedd ar lawr.
    Ond roedd ei wraig yn disgwyl amdano, 
    Ac roedd rhaid iddo fynd adref yn awr.

    ‘Gall rhywun arall roi sylw i hwn,’ meddai’r doctor.
    ‘Beth bynnag, dyw ‘mag i ddim gen i nawr.’ 
    Fe groesodd y ffordd i’r maes parcio,  
    A gyrru oddi yno yn ei Jaguar mawr.

    Wedyn, cydweithiwr i Mark a ddaeth heibio,
    Roedd yntau’n cefnogi West Ham.
    Ond doedd o ddim yn fachgen dymunol -
    Byddai’n ymddwyn yn wael ym mhob man.

    Fe welodd fod Mark wedi brifo, 
    Ond fe’i hanwybyddodd yn llwyr. 
    Roedd yn cyfarfod â’i ffrindiau yn y dafarn,
    A doedd o ddim am fod yn hwyr.

    Gyda’r dyn olaf yn pasio’r ffordd honno,
    Gobeithiai Mark gael help o’r fan hyn.
    Ond anobeithiodd yn fuan wedyn - 
    Pan welodd ei sgarff coch a gwyn!

    Meddyliodd Mark, ‘Wnaiff hwn ddim fy helpu! 
    Alla i byth ddisgwyl hynny, mi wn.’
    Roedd o yn cefnogi’r tîm arall -
    Un o gefnogwyr tîm Lerpwl oedd hwn.

    ‘Beth ddigwyddodd i ti?’ meddai’r cefnogwr,
    gan blygu i gynnig help i Mark.
    ‘Tyrd, fe af â thi i’r ysbyty,
    Rwyt ti wedi cael dy anafu’n bur gas.’

    Aeth â Mark i’r adran frys a damweiniau,
    Heb feddwl am beidio un tro,
    Ac am y cyfnod y bu Mark yn yr ysbyty
    Fe aeth yno bob dydd i’w weld o.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Wedi i Iesu orffen dweud y stori, fe ofynnodd gwestiwn i’r cyfreithiwr, ‘Pa un o’r tri hyn, dybi di, fu’n gymydog i’r dyn a syrthiodd i blith lladron?’ Ar ateb a gafodd Iesu gan y cyfreithiwr oedd, ‘Yr un a gymerodd drugaredd arno.’ Neu, mewn geiriau eraill, yr un a fu’n garedig wrtho. Ai dyna beth fyddai eich ateb chi hefyd?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Gartref, yn yr ysgol, wrth i ni chwarae, ac wrth i ni weithio,
gad i mi ofalu amdanaf fy hun, a gofalu am eraill hefyd,
a bod yn fodlon rhoi help llaw pan fydd angen, a phan fydd hynny’n briodol,
- nid dim ond heddiw, ond bob dydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon