Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Credu

Dangos ei bod hi’n bosib credu mewn rhai pethau na allwn ni eu gweld mewn gwirionedd.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos ei bod hi’n bosib credu mewn rhai pethau na allwn ni eu gweld mewn gwirionedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai OHP neu fwrdd gwyn yn ddefnyddiol er mwyn cael pawb i ddarllen y gerdd gyda’i gilydd yn ystod yr Amser i feddwl.

  • Casglwch rai eitemau sy’n hawdd eu hadnabod ar yr olwg gyntaf, a’u rhoi mewn bocs, pethau fel banana, oren, tedi, llyfr (hynny o eitemau y credwch fydd yn briodol, yn ôl fel bydd yr amser yn caniatáu).

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy wneud ambell ddatganiad sy’n gwrthddweud yr hyn sy’n amlwg. Edrychwch trwy’r ffenestr gan ddweud rhywbeth am y tywydd y tu allan sy’n hollol groes i’r hyn ydyw mewn gwirionedd. Sgwrsiwch am liw eich dillad (gan nodi’n gwbl groes i beth bynnag ydyn nhw, wrth gwrs!). Mae’n debyg y bydd y plant yn barod iawn i’ch cywiro! Holwch iddyn nhw sut maen nhw’n gwybod bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud yn anghywir.

  2. Dewch â’r bocs i’r golwg. Heb eu dangos yn gyntaf, disgrifiwch bob eitem yn eu tro, i weld a yw’r plant yn gallu dyfalu beth yw’r eitemau sydd gennych yn y bocs. Ac fesul un, wrth i’r plant ddyfalu’n gywir, dewch â’r eitemau i’r golwg. Gofynnwch i’r plant pam ei bod yn meddwl eu bod wedi gallu dyfalu yn gywir. Fe ddylech ddod i’r casgliad eu bod yn gallu dyfalu’n gywir oherwydd eu bod wedi gweld yr eitemau o’r blaen, a’u bod yn gwybod yn union sut bethau ydyn nhw.

  3. Adroddwch y stori sy’n dilyn. Roedd un bachgen yn dangos yr anrheg pen-blwydd yr oedd newydd ei gael i fachgen arall. Model o gar rasio coch smart oedd yr anrheg. Edrychodd y bachgen arall ar y car, a dywedodd, ‘Fe ddylet ti weld y car sydd gen i. Mae gen i declyn i’w reoli o bell, ac mae’n fwy na hwn.’ Roedd y bachgen cyntaf wedi synnu, ac fe ofynnodd am gael  gweld car y bachgen arall, fe hoffai gael gweld car mor wych. ‘Na,’ oedd yr ateb, ‘rydw i wedi’i adael yn nhy Nain.’ ‘O!’ meddai’r bachgen cyntaf, ‘fe greda i pan wela i dy gar di.’

  4. Faint ohonom ni sydd wedi dweud rhywbeth tebyg? Dydyn ni ddim yn barod iawn i gredu rhywbeth nes y byddwn ni’n gallu ei weld. Rydyn ni’n credu mai ein llygaid yw’r peth gorau i ddweud wrthym ni a yw rhywbeth yn wir ai peidio. Er hynny, nid dyna’r achos bob amser. Faint ohonoch chi sydd wedi gweld consuriwr yn gwneud triciau rhyfeddol? Mae’n edrych fel pe byddai gan gonsuriwyr ddawn i wneud i bethau ddiflannu ac ymddangos eto. Maen nhw’n ymddangos fel pe baen nhw’n gallu rhwygo papur pum punt, neu falu wats yn ddarnau mân o flaen eich llygaid. Ac yna’n ddiweddarach, maen nhw’n gwneud i’r peth hwnnw ddod i’r golwg unwaith eto - yn gyfan! Maen nhw’n gallu gwneud i ddarnau arian ymddangos o unman, a gwneud i bobl ddiflannu hyd yn oed - neu efallai greu’r argraff eu bod yn torri rhywun yn ei hanner! Mae ganddyn nhw ffordd arbennig o chwarae triciau â’r hyn rydyn ni’n ei weld, dawn i dwyllo ein llygaid.

    Pan fyddwn ni yn yr ysgol, fel arfer fyddwn ni ddim yn gallu gweld ein cartrefi, na’n teuluoedd. Ond rydyn ni’n hyderus y byddan nhw yno pan awn ni adref ar ddiwedd y diwrnod.

    Felly, efallai nad ein llygaid yw’r pethau gorau i ddweud wrthym ni a yw rhywbeth yn real. Rydyn ni’n gwybod fod y fath beth â disgyrchiant yn bod, ond allwn ni ddim gweld disgyrchiant mewn gwirionedd. Mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym ni na ddylai neb neidio allan o awyren neu o ben adeilad uchel heb barasiwt. Ac rydym i gyd yn gwybod fod aer o’n cwmpas ni. Hebddo fyddem ni ddim yn gallu anadlu a chadw’n fyw. Ond allwn ni ddim gweld yr un o’r ddau beth, disgyrchiant nag aer.

  5. Os yw amser yn caniatáu, mae hwn yn gyfle i adrodd hanes Thomas, yr un oedd yn amau (Ioan 20.24–29). Fe wrthododd Thomas gredu bod Iesu wedi codi o farw’n fyw nes iddo gael teimlo’r briwiau a gafodd Iesu wrth gael ei groeshoelio.

Amser i feddwl

Myfyrdod
‘Fe gredaf fi pan welaf fi!’ - dyna a ddywed rhai.
Maent eisiau gweld cyn credu’n iawn, a phwy wêl arnynt fai?
Ond mae rhai pethau na allwn eu gweld, er eu bod yno’n wir,
Fel disgyrchiant, a’r aer o’n cwmpas ni, maent yno, mae hynny’n glir.
Ac mae pobl â ffydd yn Nuw, er nad yw’n bosib ei weld, am wn i.
Felly beth yw’r pethau, na allaf eu gweld, sy’n bwysig iawn i mi?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am allu gweld:
Gweld â’n llygaid,
gweld â’n calon,
a gweld trwy ffydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon