Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Bywyd yn Rhyfeddol!

Dathlu’r wyrth o fywyd (gan gyfeirio at y gwanwyn a themâu’r Pasg).

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu’r wyrth o fywyd (gan gyfeirio at y gwanwyn a themâu’r Pasg).

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bocs plastig bach yn cynnwys darnau bach o gar bach tegan wedi torri  – darnau o fetel, plastig, olwynion, etc.

  • Tun bach o olew.

  • Car bach tegan sy’n edrych fel newydd.

  • Ychydig o wyau ieir, a bowlen glir fel gwydr pyrex.

  • Rhai lluniau o gywion bach yn deor.

Gwasanaeth

  1. Rhowch ysgytwad iawn i’r bocs sy’n cynnwys y darnau bach o’r car tegan sydd wedi torri, gan wahodd y plant i ddychmygu .... 

    Dychmygwch, mewn difrif, pa mor rhyfeddol fyddai’r peth, pe bai’r manion hyn sydd yn y bocs, darnau o fetel, darnau plastig, olwynion bach, ac ati ...  
    (dangoswch gynnwys y bocs i’r plant)
    ar ôl cael eu cymysgu ag ychydig bach o olew .... 
    (ychwanegwch ddiferion o olew, cau caead y bocs, ac ysgwyd y cyfan yn dda)
    yn troi’n rhywbeth fel hwn! 
    (agorwch eich dwrn gan ddangos car bach tegan ar gledr eich llaw).

    (Nodwch: Os oes dawn consuriwr gennych chi, fe allech chi smalio eich bod chi wedi troi’r darnau sydd yn y bocs yn gar bach, a hwnnw’n ymddangos fel pe byddech chi’n ei dynnu o’r bocs. Ond i wneud hynny’n effeithiol fe fyddai’n rhaid i chi roi’r bocs ar y bwrdd cyn dangos y car, rhag i’r darnau mân wneud swn yn y bocs wedyn. Byddai’n rhaid i’r bocs fod yn un dydych chi ddim yn gallu gweld trwyddo hefyd, wrth gwrs.)

    Awgrymwch, peth mor wych fyddai gallu ychwanegu diferyn neu ddau arall o olew ar ben y car bach er mwyn gwneud iddo dyfu - tyfu’n ddigon mawr i rywun allu ei yrru ar hyd y ffordd o’ch cartref i’r ysgol. Gallech ddweud eich bod, ers tro, wedi bod eisiau cael gyrru  … (enwch y math o gar). Oni fyddai hynny’n wych? Gwyrth fyddai rhai pobl yn galw peth felly!

    Myfyriwch am foment mewn ffordd drist: yn anffodus nid peth felly yw bywyd.

  2. Ond ewch ymlaen wedyn yn frwdfrydig. Na, rydw i’n anghywir! Mae bywyd beth felly!
    (daliwch wy i fyny i bawb ei weld)
    Beth sydd mewn wy? 
    (yn ofalus, torrwch yr wy i fowlen y gallwch chi weld trwyddi) 

    Yr hyn welwn ni yw melynwy, a gwyn wy. Ond meddyliwch pa mor rhyfeddol fyddai’r peth, pe bai’r cynhwysion gludiog yma’n troi i fod yn gyw bach melyn del! A dyna wyrthiol fyddai pe gallech chi fwydo’r cyw bach hwnnw nes ei fod y tyfu’n iâr - i ddodwy rhagor o wyau i ni eu bwyta! Dyna’n union beth yw gwyrth bywyd!

    Eglurwch, os caiff wy ffrwythlon ei gadw’n gynnes, o dan yr amodau iawn, (gan yr iâr sydd wedi dodwy’r wy, neu mewn peiriant arbennig o’r enw deorydd neu incubator), fe fydd cyw bach yn tyfu o smotyn bach gwyn sydd ar y melynwy. Ynghudd o fewn y plisgyn mae newidiadau rhyfeddol yn digwydd. Mae cyw bach yn tyfu o’r dechreuad lleiaf. Y melynwy yw ei fwyd. Ar ôl dim ond pedwar diwrnod yn unig, mae gwythiennau’n ffurfio a chalon fach yn dechrau curo. Ar ôl wyth diwrnod, mae llygaid gan y cyw ac mae ei gorff yn siapio, er mae’n debyg y byddech yn dweud ei fod yn edrych yn beth bach digon hyll ar hyn o bryd! 

    Erbyn y bydd 14 diwrnod wedi mynd heibio, fe fydd gan y cyw goesau ac adenydd bach. Bydd ei ben a’i big yn tyfu’n gryf nes bydd y cyw, ymhen 21 diwrnod, yn barod i dorri’r plisgyn â’i big, a dod allan ohono! Dangoswch lun neu tafluniwch ddelweddau o gyw bach yn deor.

  3. Daliwch i fyny weddill yr wyau sydd gennych chi. Felly, beth sydd mewn wy? Nid dim ond y melynwy a’r gwyn wy - neu hyd yn oed gyw bach yn tyfu. Mae wyau’n symbol arbennig. Mewn geiriau eraill, mae’n ein helpu ni i weld peth mor rhyfeddol yw bywyd. Ac i lawer o bobl, mae wyau yn rhan arbennig o’r gwanwyn a dathliadau’r Pasg - cyfeiriwch yn ôl at y Pasg. Maen nhw’n darlunio’r posibiliadau arbennig sy’n rhan o fywyd y gwanwyn a’r ffordd rydyn ni’n tyfu. Ydi, mae bywyd yn rhyfeddol! Ydych chi’n cytuno? 

    Gosodwch y frawddeg ar y ddelwedd o gywion bach yn deor: Mae bywyd yn rhyfeddol!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gwahoddwch bawb i ddychmygu bywyd yn tyfu o fewn wy, gan wneud symudiadau priodol.
Beth sydd mewn wy?
Rydych chi mor fach, does neb yn gallu eich gweld chi …
dim ond ychydig o gelloedd,
ond mae egni a bywyd yn y celloedd hynny,
ac maen nhw’n tyfu’n gyflym.
Mae’n gynnes braf, ac yn dywyll.
Mae eich calon fach yn dechrau curo,
a’r gwaed yn dechrau llifo trwy’ch gwythiennau.
mae gennych chi lygaid, ond dydych chi ddim yn gallu gweld eto.
Nawr, mae eich coesau a’ch adenydd yn ffurfio,
Mae eich corff yn tyfu’n fwy, ac yn fwy.
Mae plu bach ysgafn esmwyth yn tyfu, manblu fydd yn eich cadw’n gynnes.
Rydych chi’n gyw bach, does dim mwy o le y tu mewn i’r wy.
ac mae gennych chi big cryf, mae’n amser bigo twll yn y plisgyn!
… i ddod allan!
… i gymryd anadl ddofn!
… i ymdrechu i godi ar eich traed!
… i edrych o’ch cwmpas!
… ac i ddweud (gyda’ch gilydd) ‘MAE BYWYD YN RHYFEDDOL!’

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y gwanwyn,
ac am storïau’r Pasg
am fywyd newydd!
Rhodd gen ti yw bywyd,
ac mae’n rhyfeddol!
Helpa ni i weld ei ryfeddod ac i’w ddathlu
heddiw a phob dydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon