Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cael Trefn ar ein Talentau

Archwilio’r syniad ei bod hi’n bosib i ni golli ein talentau os na wnawn ni eu defnyddio.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad ei bod hi’n bosib i ni golli ein talentau os na wnawn ni eu defnyddio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allai’r oedolyn sy’n arwain y gwasanaeth ddarllen y stori sy’n dilyn i’r plant fel y mae hi. Neu, fe allech chi ofyn i oedolyn arall gymryd rhan Mrs Mopsi wrth i chi ddarllen y stori.
  • Os ydych chi’n penderfynu mynd am yr ail ddewis, fe fydd arnoch chi angen: ffedog, cap mop, menig rwber, bagiau bin du, mop, brwsh, dwster, brwsh dannedd, polish dodrefn, a hosan a chanol afal.

Gwasanaeth

  1. Darllenwch y stori, neu ei darllen ac actio’r rhannau penodol.

    Glanhau Mawr y Gwanwyn
    gan Janice Ross

    Fel y rhan fwyaf o bobl, roedd Mrs Mopsi yn croesawu dyddiau brafiach y gwanwyn. Ond, doedd Mrs Mopsi ddim yn edrych ymlaen at y gwaith glanhau mawr y dylai hi fod yn ei wneud. Fe fyddai’n well o lawer ganddi fod allan yn yr awyr iach, yn mwynhau gweld arwyddion cyntaf y gwanwyn wrth fynd am dro yng nghefn gwlad.

    Un bore roedd yr haul yn tywynnu’n ddisglair iawn ar ei ffenestri llychlyd, ac roedd fel petai’n dweud, ‘Mrs Mopsi, mae’n bryd i ti ddechrau’r glanhau mawr. Edrych ar yr holl lwch sydd ym mhob man!’

    Gwyddai Mrs Mopsi y byddai’n rhaid iddi wneud y gwaith rywbryd. Felly, doedd dim pwrpas gohirio. Ac fe wisgodd ei ffedog, ei chap mop a’i menig rwber melyn. Aeth i nôl y bagiau duon, y mop, y brwsh, y dwster, y brwsh dannedd (edrychwch yn syn ar hwn!), a’r polish. (Estynnwch y rhain i’r golwg fesul un. Bydd gofyn i’r storïwr oedi ychydig yma pan fyddwch chi’n dod â phob eitem i’r golwg.)

    I ddechrau, fe gliriodd Mrs Mopsi y cypyrddau. Yna, fe edrychodd o dan y gwelyau. Ych! (Dangoswch un hosan a chanol afal!) Wedyn fe ysgubodd y gwe pry cop... a’r pry copyn! (Defnyddiwch frwsh â choes hir i ymestyn yn uchel. Smaliwch fod arnoch chi ofn y pry copyn.) Fe ysgydwodd y matiau, fe dynnodd y llwch oddi ar y silffoedd, a glanhau’r dodrefn â’r polish. Ac fe olchodd y ffenestri’n lân nes eu bod yn gwenu ar yr haul.

    ‘Hyfryd iawn!’ meddai’r haul.

    Wedyn aeth Mrs Mopsi ati i lanhau’r ystafell ymolchi. Golchodd y bath yn lân, ac fe sgwriodd rhwng y teils â’r brwsh dannedd. Rhoddodd hylif diheintio i lawr y toiled, ac roedd arogl cryf trwy’r lle. (Meimiwch eich bod yn glanhau i’r corneli â’r brwsh dannedd, a phesychwch oherwydd yr arogleuon cryf!)

    Daliodd ati’n ddyfal, ddyfal, am wythnos gron, tra roedd yr haul yn gwenu a’r tywydd braf yn ei hannog. O’r diwedd, roedd hi wedi gorffen y gwaith. Dyna’r glanhau mawr wedi’i wneud am flwyddyn arall. Hwre! ‘Nawr,’ meddyliodd Mrs Mopsi, ‘Rydw i’n gwybod beth fedra i ei wneud i orffen y cyfan yn daclus.’ (Ac mae Mrs Mopsi yn mynd allan.)

    Aeth Mrs Mopsi i’r gegin, ac yno yn un o’r droriau fe gafodd hi hyd i’r peth roedd hi’n chwilio amdano, sef tocyn anrheg i brynu blodau. Ei brawd oedd wedi rhoi’r tocyn, gwerth £20, iddi’n anrheg ar ei phen-blwydd y llynedd. Roedd hi wedi meddwl ei wario sawl tro, ond byth wedi gwneud.

    Yn ystod yr haf cynt, wrth ymweld â’r ganolfan arddio, roedd hi wedi gweld planhigion y gallai hi fod wedi’u plannu wrth ddrws ffrynt ei thy. Ond doedd hi am brynu'r rheini gyda’r tocyn anrheg bryd hynny.

    Adeg y Nadolig wedyn, roedd hi wedi gweld tusw o flodau coch mewn basged wedi’u haddurno â rhubanau aur. Roedd hi’n eu hoffi’n fawr, ond wnaeth hi ddim prynu’r rheini chwaith gyda’r tocyn anrheg.

    Ac wedyn, pan oedd ei chymdoges, Mrs Dili, yn yr ysbyty, fe feddyliodd y gallai hi wario’r tocyn a mynd â thusw arbennig o hardd i Mrs Dili, yn hytrach na thusw bach oedd yn costio tua £2.99 yn yr archfarchnad. Ond, na, penderfynu peidio â gwario’r tocyn wnaeth hi’r tro hwnnw hefyd, a phrynu basgedaid o ffrwythau i’w chymdoges yn lle hynny.

    ‘O wel, dyna fo!’ meddyliodd. Heddiw, o’r diwedd, roedd hi am wario’r tocyn anrheg am dusw anferth o flodau’r gwanwyn iddi hi ei hun. Fe fyddai hynny’n gwneud ei hystafell ffrynt yn hardd, nawr ei bod hi wedi  glanhau’r ty yn lân fel pin mewn papur, o’r top i’r gwaelod. Ac i ffwrdd â hi i’r siop flodau.

    Edrychodd gwraig y siop ar y tocyn anrheg £20. ‘Mae’n wir ddrwg gen i,’ meddai, gan roi’r tocyn yn ôl i Mrs Mopsi. ‘Ond mae’r dyddiad ar y tocyn wedi pasio. Dim ond am flwyddyn yr oedd yn para, ac mae wedi dod i ben ers tri mis. Sori, ond dyw’r papur yma’n werth dim erbyn heddiw.’ Dyna beth oedd siom i Mrs Mopsi!

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw, neu rywun o’u teulu, wedi cael tocyn anrheg ryw dro? Oedden nhw’n gwybod fod dyddiad dod i ben ar rai? Beth maen nhw’n feddwl o hynny?   

  3. Roedd tocyn anrheg Mrs Mopsi wedi’i wastraffu. Dywedwch fod ein doniau ni yn debyg i docynnau anrheg. Rydyn ni i gyd wedi cael gwahanol ddoniau. Rhodd yw pob un ohonyn nhw.

    Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod beth yw doniau. Derbyniwch yr atebion arferol, fel y rhai sy’n ymwneud â chwaraeon, cerddoriaeth, celf a chrefft, ac ati. Ceisiwch ymestyn syniad y plant am ddoniau. Er enghraifft, holwch nhw ydyn nhw’n adnabod rhywun yn eu dosbarth sy’n dda am wrando, neu’n dda am drefnu, neu’n dda am ofalu.

    Dathlwch y doniau hyn gyda’r plant, ond pwysleisiwch eu bod, yn union fel tocyn anrheg Mrs Mopsi yn gallu bod yn hollol ddiwerth os na fyddwn ni’n eu defnyddio!

Amser i feddwl

Myfyrdod

Meddyliwch am yr holl ddoniau sydd wedi cael eu rhoi i bob un ohonom.
Sut y gallaf fi ddefnyddio fy noniau heddiw? Sut gallaf fi wastraffu dawn sydd gen i, heddiw?
Cofiwch, os gwnaf fi guddio rhyw ddawn sydd gen i mewn drôr ac anghofio amdani (fel y tocyn anrheg i brynu blodau) yna, efallai, ymhen amser pan benderfynaf fi ei defnyddio hwyrach na fyddaf fi mor ddawnus ag yr oeddwn i o’r blaen!

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni, fel bod gan bob un ohonom ddoniau arbennig.
Helpa ni i’w defnyddio i’w potensial llawn, ac wrth i ni wneud hynny, fendithio pobl eraill hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon