Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy oedd Sant Siôr

Meddwl am San Siôr (St George), tybed pwy oedd o, a beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth nawddsant Lloegr?

gan The Revd Sue Allen

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am San Siôr (St George), tybed pwy oedd o, a beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth nawddsant Lloegr?

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen banner Lloegr, draig (model neu lun os nad oes un go iawn i’w chael!!), llun coeden neu foncyff bychan o goeden go iawn, model o gleddyf a tharian.

  • Gosodwch arddangosfa gyda’r faner a’r ddraig.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddraig a baner Lloegr, a holwch pwy mae’r plant yn feddwl rydych chi’n mynd i sôn amdano heddiw, yn y gwasanaeth? San Siôr, neu St George, nawddsant Lloegr (h.y. rhywun arbennig iawn sy’n ein hatgoffa o sut wlad yr hoffem ni i’n gwlad fod).

  2. Pwy oedd San Siôr? Mae nifer o wahanol storïau neu chwedlau am San Siôr, o wahanol rannau o’r byd. Mae Siôr hefyd yn nawddsant nifer o wledydd eraill, fel Aragon, Canada, Catalonia, Ethiopia, Georgia, Groeg, Montenegro, Palesteina, Portiwgal, Rwsia a Serbia, yn ogystal â dinasoedd fel Amersfoort, Beirut, Ferrara, Freiburg, Genoa, Ljubljana a Moscow.

    Efallai mai dyna pam y mae’n nawddsant Lloegr, am fod Lloegr, yn ôl rhai, yn wlad gyda thraddodiad hir o groesawu pobl yno o wledydd eraill. Mae San Siôr yn gymeriad pwysig sydd â neges i bobl sy’n Iddewon a Mwslimiaid hefyd.

  3. Mae un stori amdano lle’r oedd San Siôr yn swyddog yn y fyddin Rufeinig. Roedd hi’n beryglus bod yn Gristion yn y cyfnod ar ôl i Iesu farw. Roedd byddin Rhufain yn lladd Cristnogion am fod yn ffyddlon i Iesu ac am ddweud bod eu cred yn Nuw yn bwysicach na bod yn ffyddlon i gyfraith Rhufain. 

    Sut daeth Siôr yn Gristion, felly? Fe welodd 40 o Gristnogion yn cael eu lladd - efallai ei fod yn un o’r grwp o filwyr oedd wedi cael gorchymyn i’w lladd, pwy a wyr. Beth bynnag, mae’r stori’n dweud bod Siôr wedi cael gweledigaeth wrth i’r Cristnogion hynny gael eu lladd. Fe welodd 40 coron yn dod i lawr o’r nefoedd ac yn glanio, un ar ben pob un o’r Cristnogion. Fe wnaeth hynny gymaint o argraff arno fel y penderfynodd y byddai yntau’n troi’n Gristion hefyd.

    Mae stori enwog iawn arall am San Siôr yn ymladd â draig. Dydyn ni ddim yn credu bod y fath anifeiliaid â dreigiau yn bod mewn gwirionedd. Ond mewn ffordd arall o feddwl, mae gennym ni i gyd ryw fath o ddreigiau rydyn ni’n gorfod brwydro yn eu herbyn. Y ddraig yr oedd Siôr yn gorfod brwydro yn ei herbyn efallai oedd gwrthwynebu’r bobl oedd yn lladd y Cristnogion.

  4. Beth allwn ni ei ddysgu o hanes San Siôr? Gofynnwch i wirfoddolwyr ddal y cleddyf a’r darian. Mae’n dod â phobl ynghyd, am fod gan bawb rywbeth y mae arno’i ofn - ein dreigiau personol ni! Efallai mai profion neu arholiadau yn yr ysgol sy’n ein poeni, neu ofn mynd ar goll, neu efallai ein bod yn casáu gweld pobl yn gas wrth ei gilydd. Rydyn ni’n gallu dod at ein gilydd, nid i frwydro yn erbyn ein gilydd, ond i frwydro yn erbyn ein hofnau ac i wrthwynebu’r pethau hynny’n ddewr. Rhaid i ni wynebu ein hofnau, y dreigiau rheini, a chael gwared â nhw.

  5. Beth sydd arnom ni ei angen pan fyddwn ni ofn rhyw ddraig? Tarian neu gleddyf? Pa un yn gyntaf? Gyda’r darian rydyn ni’n meddwl am bethau da, y bobl sy’n ein caru ac yn gofalu amdanom, fel ein ffrindiau a’n teulu. Yn achos Cristnogion, a phobl o grefyddau eraill hefyd, rydyn ni’n cofio bod Duw’n ein caru ni ac yn gofalu amdanom ni. Gyda’r cleddyf, fe allwn ni wynebu ein dreigiau: gwneud beth bynnag allwn ni, gweithio’n galed, gwneud ein gorau a cheisio sefyll dros yr hyn sy’n iawn.

  6. Gofynnwch i wirfoddolwr ddal y goeden i chi. Eglurwch fod yr enw Arabaidd am San Siôr yn golygu ‘yr un gwyrdd’ neu ‘the green one’, ac mae’n cael ei gydnabod fel un sy’n gwarchod coed, a hefyd fel un sy’n gallu iachau. Felly, yn y fersiwn hon o’r chwedl mae San Siôr yn ein hatgoffa o ba mor bwysig yw gofalu am yr amgylchedd, am mai Duw sydd wedi creu’r byd a phopeth sydd ynddo.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Meddyliwch am San Siôr.
Meddyliwch am goed.
Mae San Siôr yn rhywun y gall pobl o bob ffydd ei barchu, roedd yn rhywun oedd yn gofalu am y byd.
Meddyliwch am sut y gallwn ni ofalu am y byd.
Meddyliwch am y darian, sy’n ein hatgoffa o’r rhai sy’n ein caru, ac sydd eisiau ein helpu a’n gwarchod.
Fe allwn ni gofio amdanyn nhw pan fyddwn ni’n teimlo’n ofnus.
Meddyliwch am y cleddyf, ac am y pethau y gallwn ni eu gwneud: gweithio’n gorau yn yr ysgol, cefnogi pobl eraill, a gofalu am blant newydd yn yr ysgol.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y chwedlau a’r storïau sydd am bobl fel San Siôr.
Diolch i ti bod San Siôr yn rhywun arbennig a bod neges bwysig ganddo
ar gyfer cymaint o bobl ledled y byd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon