Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Troi

Dangos bod bywyd yn newid ac yn troi trwy’r amser.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos bod bywyd yn newid ac yn troi trwy’r amser.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai OHP neu fwrdd gwyn yn ddefnyddiol ar gyfer darllen y gerdd.

  • Mae’n bosib defnyddio’r gerdd mewn sawl ffordd: ei chyflwyno fel ag y mae, gan yr athro neu’r athrawes, ac yna ei defnyddio i gynnal trafodaeth, neu ysgrifennu’r llinellau ar gardiau a’r plant yn eu hadrodd, neu eu cydadrodd.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gerdd.

    Troi
    gan Jan Edmunds (addasiad)

    Troi, troi, troi, mae’r byd o hyd yn troi,
    Dyna sy’n gwneud i nos ddilyn dydd trwy’r flwyddyn gron.
    Troi, troi, troi, rownd â ni,
    Heb i ni ei deimlo, fyddech chi byth yn gallu dweud.
    Allwn ni ddim ei stopio, waeth beth fydden ni’n wneud,
    Caiff bywyd ei eni, a byw am sbel, marw wedyn - dyna’r drefn.
    Troi, troi, troi, tra mae pawb ohonom yn cysgu,
    Mae bywyd fel olwyn fawr, a ninnau â llawer i’w ddysgu.
    Olwynion ar geir yn mynd rownd yn ddi-straen,
    Hynny sy’n eu gyrru ar eu taith ymlaen.
    Rydyn ni’n troi tudalennau llyfrau,
    I ddarllen y geiriau a gweld y lluniau.
    Byddwn yn troi’r cloc yn ôl yn y gaeaf, bydd y nos yn hir,
    Yna ei droi ‘mlaen unwaith eto pan ddaw’r gwanwyn i’r tir.
    Trown handlen y drws i gael mynd mewn ac allan,
    a throi allwedd mewn clo i ddiogelu’r cyfan. 
    Troi, troi, troi, mae pethau fel hyn yn troi yn y byd,
    A bywyd yn mynd yn ei flaen fel olwyn o hyd.
    Troi, troi, troi, fel olwyn fawr,
    Wrth i chi droi heddiw, sut rydych chi’n teimlo nawr?

  2. Efallai yr hoffech chi drafod rhai pethau y mae sôn amdanyn nhw yn y gerdd. Dydd a nos, y tymhorau’n newid, cylchoedd bywyd, pan na allwn ni deimlo’r byd yn troi? All y plant feddwl am bethau eraill sy’n troi? 

    Beth am y syniad bod newid yn cael ei ddisgrifio fel ‘troi’, fel y stori am Iesu’n ‘troi’ y dwr yn win (Ioan 2.1-12), neu am y syniad bod rhywun yn gwneud ‘tro’ da â rhywun arall?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae’r byd yn troi.
Sut byddwch chi’n troi heddiw?
Fyddwch chi’n troi i ffwrdd
oddi wrth bethau allai eich arwain ar gyfeiliorn?
Mae’r byd yn troi.
Wnewch chi dro da heddiw?
- yn y pethau byddwch chi’n eu gwneud a’u dweud,
gan geisio troi i ffordd well o fyw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Pan fyddwn ni’n flinderus, rydyn ni’n gallu troi atat ti, gan ein bod yn gwybod y gwnei di wrando.
Clyw ein gweddi a helpa ni i droi ein cefn ar bopeth sydd ddim yn iawn.
Gwna ni i fod yn amyneddgar, yn oddefgar ac i fod â chariad tuag at eraill.
Helpa ni i weithio gyda’n gilydd i droi’r byd yn well lle i fyw ynddo.
Amen.

 

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon